RHAN 4Diwygiadau i Ddeddf 2014

Diwygiadau i Atodlen 2 i Ddeddf 2014

6.—(1Mae Atodlen 2 (categorïau cofrestru) i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1, ar ôl y cofnod ar gyfer “Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” mewnosoder—

CategoriDisgrifiad
“Ymarferydd dysgu oedolionPerson sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg bellach a hyfforddiant i oedolion ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu oedolion cymunedol.
Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellachPerson sy’n ymgymryd (neu sy’n dymuno ymgymryd) â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru.”

(3Ym mharagraff 3, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—

ystyr “addysg bellach” (“further education”) yw addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol;;

ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1);;

ystyr “darparwr dysgu oedolion cymunedol” (“community-based adult learning provider”) yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd wedi ei ariannu neu ei ddarparu fel arall gan awdurdod lleol, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil(2) neu Weinidogion Cymru;;

ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;;

ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3);.

Diwygiadau i Atodlen 4 i Ddeddf 2014

7.—(1Mae Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio) i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Nhabl 3, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—

Gair neu ymadroddGair neu ymadrodd yn y SaesnegDarpariaeth berthnasol
“Addysg bellachFurther educationAtodlen 2”
“Addysg uwchHigher educationAtodlen 2”
“Darparwr dysgu oedolion cymunedolCommunity-based adult learning providerAtodlen 2”
“OedolynAdultAtodlen 2”
“Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellachPrincipal or senior leader in further educationAtodlen 2”
“Sefydliad addysg uwchHigher education institutionAtodlen 2”
“Ymarferydd dysgu oedolionAdult learning practitionerAtodlen 2”
(1)

p. 40.

(2)

Fe’i sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (dsc 1).

(3)

p. 31.