Mae’r Offeryn Statudol hwn, yn rhannol, yn cywiro gwallau yn Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1179) (Cy. 238) a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497) (Cy. 114). Mae’n cael ei ddyroddi’n rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offerynnau Statudol hynny.
2024 Rhif 617 (Cy. 89)
Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 14(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 7 o Atodlen 4 iddi1.
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno2.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi a dod i rym 1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024.
2
Deuant i rym ar 9 Mai 2024.
RHAN 2 Diwygiadau sy’n ymwneud â ffioedd
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 2
1
Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 20183 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 3 (ffioedd arolygu mewnforio)—
a
yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad â gwiriad dogfennol o bob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth yw—
a
yn achos llwyth sy’n tarddu o Liechtenstein sy’n cynnwys unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion sy’n dod o fewn y tabl yn Atodlen 2B a hefyd o fewn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 20224, £5.25;
b
yn achos llwyth nad yw is-baragraff (a) yn gymwys iddo, sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir ac nad yw ond yn cynnwys planhigion neu gynhyrchion planhigion sydd i gyd yn dod o fewn y tabl yn Atodlen 2B, £0.15;
c
mewn unrhyw achos arall, £5.25.
b
yn lle paragraff (2E) rhodder—
2E
Nid yw ffi yn daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag—
a
unrhyw lwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir a gyflwynir i Gymru drwy borthladd perthnasol cyn 31 Hydref 2024, neu
b
unrhyw blanhigion a restrir yn y tabl yn Atodlen 2A i Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 a gynhwysir mewn unrhyw lwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir a gyflwynir i Gymru cyn 31 Hydref 2024.
2EA
Nid yw paragraff (2E) yn gymwys i unrhyw nwyddau—
a
mewn llwyth sy’n tarddu o Liechtenstein, a
b
sy’n dod o fewn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022.
c
ym mharagraff (2G), o flaen is-baragraff (a), yn lle “, y tabl ac Atodlen 2A” rhodder “a’r tabl”;
d
ym mharagraff (3)—
i
ar ôl is-baragraff (d), mewnosoder—
da
ystyr “porthladd perthnasol” yw unrhyw un neu ragor o’r porthladdoedd môr a ganlyn—
i
y Barri;
ii
Caerdydd;
iii
Abergwaun;
iv
Caergybi;
v
Casnewydd;
vi
Doc Penfro;
vii
Abertawe;
viii
Port Talbot;
ii
hepgorer is-baragraff (g).
3
Yn lle Atodlen 1 (ffioedd arolygu mewnforio), rhodder —
ATODLEN 1 Ffioedd arolygu mewnforio
Colofn 1
Categori a disgrifiad o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall
Colofn 2
Gwlad tarddiad
Colofn 3
Ffi: Gwiriad ffisegol (£)
Colofn 4
Ffi: Gwiriad adnabod (£)
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws), winwns, sialóts, garlleg, cennin a llysiau garllegaidd eraill, planhigion cwsg, nad ydynt mewn swbstrad
Pob genws a fwriedir ar gyfer plannu, ac eithrio cynhyrchu blodau masnachol, ac nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol (1)
Unrhyw drydedd wlad
205.04
5.25
Pob genws a fwriedir ar gyfer plannu, ac a fwriedir ar gyfer cynhyrchu blodau masnachol, neu ar gyfer defnyddwyr terfynol
Unrhyw drydedd wlad
20.50
0.52
Toriadau, eginblanhigion a fwriedir ar gyfer plannu, nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Pob genws
Unrhyw drydedd wlad
32.15
1.57
Planhigion ar gyfer plannu
Planhigion prennaidd (2) (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer plannu ac a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol (1) . Pob genws
Unrhyw drydedd wlad
32.15
1.57
Planhigion nad ydynt yn brennaidd (3) (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer plannu. Pob genws
Unrhyw drydedd wlad
32.15
1.57
Planhigion dan do (4) . Pob genws
Unrhyw drydedd wlad
32.15
1.57
Planhigion eraill (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer plannu. Pob genws
Unrhyw drydedd wlad
32.15
1.57
Blodau wedi eu torri
Dendranthema (DC.) Des Moul. (Chrysanthemum L.)
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.28
0.15
Colombia neu Ecuador
21.37
2.62
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Colombia, Ecuador, Liechtenstein neu’r Swistir
2.13
0.26
Eryngium Tournier ex Linnaeus.
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, trydedd wlad Ewropeaidd, Liechtenstein neu’r Swistir
4.27
0.52
Lisianthus L
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, trydedd wlad Ewropeaidd, Liechtenstein neu’r Swistir
4.27
0.52
Rosa L.
Colombia neu Ecuador
1.28
0.15
Canada, India, Mecsico neu UDA
21.37
2.62
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Canada, Colombia, Ecuador, India, Liechtenstein, Mecsico, y Swistir neu UDA
2.13
0.26
Solidago L.
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.28
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
4.27
0.52
Genera eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.28
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.13
0.26
Canghennau â deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig wedi eu torri)
Pob genws
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.01
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.69
0.26
Ffrwythau, llysiau, dail
Momordica L.
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
26.55
2.62
Ocimum L.
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.15
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
35.84
2.62
Solanaceae Juss. (ac eithrio Solanum tuberosum L. Solanum lycopersicum L, Solanum melongena L. a Capsicum sp.)
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
26.55
2.62
Solanum lycopersicum L.
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Morocco
2.65
0.26
Yr Ynysoedd Dedwydd
13.27
1.31
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ynysoedd Dedwydd, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, Morocco neu’r Swistir
53.10
5.25
Solanum melongena L.
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Twrci
15.93
1.57
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, y Swistir neu Dwrci
26.55
2.62
Capsicum
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
53.10
5.25
Zea mays
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
53.10
5.25
Ipomoea batatas
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Cameroon, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.65
0.26
Cameroon
53.10
5.25
Persea americana
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.65
0.26
Vitis
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.65
0.26
Malus
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Trydydd gwledydd Ewropeaidd (5)
7.96
0.78
Yr Ariannin
18.58
1.83
Chile
2.65
0.26
Seland Newydd
5.31
0.52
De Affrica
7.96
0.78
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Chile, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, Seland Newydd, De Affrica, y Swistir neu drydydd gwledydd Ewropeaidd (5)
53.10
5.25
Pyrus
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Yr Ariannin
13.27
1.31
Chile
7.96
0.78
De Affrica
5.31
0.52
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Chile, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, De Affrica neu’r Swistir
53.10
5.25
Fragaria
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.65
0.26
Rubus
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.65
0.26
Vaccinium
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Trydydd gwledydd Ewropeaidd (5)
26.55
2.62
Yr Ariannin
13.27
1.31
Chile
5.31
0.52
Periw
5.31
0.52
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Chile, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, Periw, y Swistir neu Drydydd Gwledydd Ewropeaidd (5)
53.10
5.25
Zingiber officinale
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Cameroon, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.65
0.26
Cameroon
53.10
5.25
Asparagus officinalis
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
53.10
5.25
Genera neu rywogaethau eraill o ffrwythau neu lysiau nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.65
0.26
Dail eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.15
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
3.58
0.26
Hadau (ar gyfer hau), meithriniad meinwe
Pob genws, ar gyfer treialon neu brofi
Unrhyw drydedd wlad
12.81
0.52
Brassicaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay
128.13
5.25
Capsicum spp. L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Unrhyw drydedd wlad
128.13
5.25
Poaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay
128.13
5.25
Solanum lycopersicum L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Unrhyw drydedd wlad
128.13
5.25
Solanum tuberosum L. (Gwir had) (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Unrhyw drydedd wlad
128.13
5.25
Trifolium spp. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay
128.13
5.25
Genera neu rywogaethau eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Unrhyw drydedd wlad
6.40
0.26
Grawn (ac eithrio hadau ar gyfer hau)
Secale L.
Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
142.98
5.25
Triticum L.
Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
142.98
5.25
X Triticosecale Wittm. ex A. Camus
Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
142.98
5.25
Cloron tatws
Solanum tuberosum L. (tatws hadyd)
Unrhyw drydedd wlad
156.69
5.25
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta)
Yr Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Rwmania
78.34
2.62
Sbaen
156.69
5.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu Sbaen
4.70
0.15
Coed Nadolig wedi eu torri (llai na 3 metr o uchder)
Pob genws
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
3.58
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
5.98
0.26
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth
Unrhyw drydedd wlad
5.98
0.26
(1)Ystyr “a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol” yw y’i bwriedir, drwy dystiolaeth o’r pecyn, y label neu drwy ddulliau eraill, i’w gyflenwi yn uniongyrchol i ddefnyddwyr terfynol.
(2)Ystyr “planhigion prennaidd” yw planhigion sydd â choesyn prennaidd neu rannol brennaidd, ac mae’n cynnwys pob coeden, deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio had), llwyni a phalmwydd, a’r gwinwydd a’r perlysiau lluosflwydd hynny sydd â choesynnau prennaidd neu rannol brennaidd; ac at y diben hwn mae “perlysiau lluosflwydd” yn golygu perlysiau y mae eu hoedran cyfartalog yn fwy na dwy flynedd.
(3)Ystyr “planhigion nad ydynt yn brennaidd” yw planhigion nad ydynt yn blanhigion prennaidd.
(4)Ystyr “planhigion dan do” yw planhigion yr ymddengys o’u pecyn, eu label neu drwy ddulliau eraill y’u bwriedir i’w cyflenwi’n uniongyrchol i ddefnyddwyr terfynol i’w defnyddio o dan do neu i’w defnyddio mewn acwaria.
(5)Ystyr “trydydd gwledydd Ewropeaidd” yw Albania, Andorra, Armenia, Azerbaijan, Belarws, Bosnia-Herzegovina, Georgia, Gogledd Macedonia, Gwlad yr Iâ, Moldofa, Monaco, Montenegro, Norwy, Rwsia (dim ond y rhannau a ganlyn: y Rhanbarth Ffederal Canolog (Tsentralny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y Gogledd-orllewin (Severo-Zapadny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y De (Yuzhny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws (Severo-Kavkazsky federalny okrug) a Rhanbarth Ffederal y Folga (Privolzhsky federalny okrug)), San Marino, Serbia, Twrci, Wcráin, yr Ynysoedd Dedwydd ac Ynysoedd Ffaro.
4
Hepgorer Atodlen 2A (rhestr o blanhigion a chynhyrchion planhigion sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir sy’n ddarostyngedig i ffioedd ar gyfer gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod o ddiwedd y cyfnod graddoli trosiannol).
5
O flaen Atodlen 3, mewnosoder—
ATODLEN 2B
Categori a disgrifiad o blanhigyn neu gynnyrch planhigyn
Blodau wedi eu Torri
Dendranthema (DC.) Des Moul. ( Chrysanthemum L.)
Rosa L.
Solidago L.
Genera eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwysmewn lle arall yn y tabl hwn
Canghennau â deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig wedi eu torri)
Pob genws
Ffrwythau, llysiau, dail
Momordica L.
Ocimum L.
Solanaceae Juss. (ac eithrio Solanum tuberosum L.)
Solanum melongena L.
Genera neu rywogaethau eraill o ffrwythau neu lysiau nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Dail eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Coed Nadolig wedi eu torri (llai na 3 metr o uchder)
Pob genws
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 3
Yn Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 20195, yn y tabl yn Atodlen 1 (ffioedd am arolygiadau mewn cysylltiad ag awdurdodiad pasbort planhigion), yn rhes gyntaf y golofn gyntaf (math o arolygiad), yn lle “Arolygiad ffisegol” rhodder “Arolygiad”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)