2024 Rhif 682 (Cy. 94)
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024
Gwnaed
Yn dod i rym
At ddibenion Rheoliadau 1 i 4
At bob diben arall
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 20061, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 12(6) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny, yr ymddengys iddynt hwy eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy, fel yr oedd Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.
Yn unol ag adran 61(2) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.