14.—(1) Er gwaethaf adran 127(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(1), caiff llys ynadon roi ar brawf wybodaeth sy’n ymwneud â throsedd o dan y Rheoliadau hyn os yw’r wybodaeth yn cael ei gosod—
(a)cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflawnir y drosedd, a
(b)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r dyddiad y bydd tystiolaeth sy’n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau’r achos cyfreithiol yn dod yn hysbys i’r erlynydd.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b)—
(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan yr erlynydd neu ar ei ran ac sy’n datgan y dyddiad y daeth tystiolaeth o’r fath yn hysbys i’r erlynydd yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno, a
(b)trinnir bod tystysgrif sy’n datgan y mater hwnnw ac sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi felly yn dystysgrif a lofnodwyd felly oni phrofir i’r gwrthwyneb.