2024 Rhif 689 (Cy. 95) (C. 45)

Anifeiliaid, CymruLles Anifeiliaid

Rheoliadau Deddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 (Cychwyn) (Cymru) 2024

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 7(2)(c) o Ddeddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 20241.

Enwi1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 (Cychwyn) (Cymru) 2024.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 22 Gorffennaf 20242

Daw adrannau 1 a 5(a) ac (c) o Ddeddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 i rym ar 22 Gorffennaf 2024.

Huw Irranca-DaviesYsgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym o ran Cymru adrannau 1 a 5(a) ac (c) o Ddeddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 (“y Ddeddf”) ar 22 Gorffennaf 2024.

Daeth holl ddarpariaethau eraill y Ddeddf o ran Cymru i rym ar 20 Mai 2024 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) yn unol ag adran 7(3) o’r Ddeddf.