- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Yn Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd(1), mae Atodiad 1 (rhestr ddomestig o gyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan A (rhestr ddomestig o sylweddau cyflasu), yn Adran 2, yn Nhabl 1, hepgorer y cofnodion ar gyfer y sylweddau cyflasu a ganlyn—
(a)Rhif FL(2) “07.030” enw cemegol “1-(4-Methoxyphenyl) pent-1-en-3-one”;
(b)Rhif FL “07.046” enw cemegol “Vanillylidene acetone”;
(c)Rhif FL “07.049” enw cemegol “1-(4-Methoxyphenyl)-4-methylpent-1-en-3-one”;
(d)Rhif FL “07.206” enw cemegol “4-(2,3,6-Trimethylphenyl)but-3-en-2-one”;
(e)Rhif FL “07.258” enw cemegol “6-Methyl-3-hepten-2-one”;
(f)Rhif FL “10.034” enw cemegol “5,6-Dihydro-3,6-dimethylbenzofuran-2(4H)-one”;
(g)Rhif FL “10.036” enw cemegol “5,6,7,7a-Tetrahydro-3,6-dimethylbenzofuran-2(4H)-one”;
(h)Rhif FL “10.042” enw cemegol “3,4-Dimethyl-5-pentylidenefuran-2(5H)-one”;
(i)Rhif FL “10.043” enw cemegol “2,7-Dimethylocta-5(trans),7-dieno-1,4-lactone”;
(j)Rhif FL “10.046” enw cemegol “Hex-2-eno-1,4-lactone”;
(k)Rhif FL “10.054” enw cemegol “Non-2-eno-1,4-lactone”;
(l)Rhif FL “10.060” enw cemegol “2-Decen-1,4-lactone”;
(m)Rhif FL “10.170” enw cemegol “5-Pentyl-3H-furan-2-one”;
(n)Rhif FL “13.004” enw cemegol “Allyl 2-furoate”;
(o)Rhif FL “13.034” enw cemegol “3-(2-furyl)acrylaldehyde”;
(p)Rhif FL “13.043” enw cemegol “Furfurylidene-2-butanal”;
(q)Rhif FL “13.044” enw cemegol “4-(2-Furyl)but-3-en-2-one”;
(r)Rhif FL “13.046” enw cemegol “3-(2-Furyl)-2-methylprop-2-enal”;
(s)Rhif FL “13.066” enw cemegol “3-Acetyl-2,5-dimethylfuran”;
(t)Rhif FL “13.103” enw cemegol “2-Butylfuran”;
(u)Rhif FL “13.137” enw cemegol “3-(2-Furyl)-2-phenylprop-2-enal”;
(v)Rhif FL “13.150” enw cemegol “3-(5-Methyl-2-furyl)prop-2-enal”.
5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i sylweddau cyflasu y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(2)(a) i (v) ynghyd â bwyd sy’n eu cynnwys a oedd—
(a)yn bresennol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd wedi, neu y gallent fod wedi, eu gosod yn gyfreithlon ar y farchnad ym Mhrydain Fawr cyn diwedd 27 Mehefin 2024, neu
(b)ar dramwy i Brydain Fawr cyn diwedd 27 Mehefin 2024, ac y gallent fod wedi eu mewnforio neu eu symud i mewn i Brydain Fawr yn gyfreithlon a’u gosod ar y farchnad ar y dyddiad hwnnw.
(2) Caiff sylweddau cyflasu a bwyd y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt, hyd at eu dyddiad parhauster lleiaf neu eu dyddiad ‘defnyddio erbyn’, gael eu rhoi ar y farchnad ac, yn ôl y digwydd, eu hychwanegu at fwyd arall.
(3) Caiff bwyd sy’n cynnwys un neu ragor o’r sylweddau cyflasu y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt, hyd at ei ddyddiad parhauster lleiaf neu ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’, gael ei roi ar y farchnad ac, yn ôl y digwydd, ei ychwanegu at fwyd arall.
(4) Yn y rheoliad hwn—
mae i “dyddiad ‘defnyddio erbyn’” (“‘use by’ date”) yr un ystyr ag “‘use by’ date” yn Erthygl 24 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr(3);
mae i “dyddiad parhauster lleiaf” (“date of minimum durability”) yr un ystyr â “date of minimum durability” yn Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr(4).
(5) Mae i ymadroddion Cymraeg eraill a ddefnyddir yn y rheoliad hwn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Rheoliad hwnnw.
EUR 2008/1334; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2019/860, 2023/343 (Cy. 50). Diwygiwyd O.S. 2019/860 gan O.S. 2020/1504.
Rhif adnabod unigryw a ddyrannwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop o dan system wybodaeth yr UE am gyflasynnau, “FLAVIS”.
EUR 2011/1169; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2019/529, 778, 2020/1627. Diwygiwyd O.S. 2019/529 gan O.S. 2020/1501.
Diffinnir y term “date of minimum durability of a food” yn Erthygl 2(2)(r) o EUR 2011/1169 ond gweler hefyd Erthyglau 9(1)(f) a 24.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: