RHAN 3Cyflasynnau Bwyd
Diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1334/20084
1
Yn Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd7, mae Atodiad 1 (rhestr ddomestig o gyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Rhan A (rhestr ddomestig o sylweddau cyflasu), yn Adran 2, yn Nhabl 1, hepgorer y cofnodion ar gyfer y sylweddau cyflasu a ganlyn—
a
Rhif FL8 “07.030” enw cemegol “1-(4-Methoxyphenyl) pent-1-en-3-one”;
b
Rhif FL “07.046” enw cemegol “Vanillylidene acetone”;
c
Rhif FL “07.049” enw cemegol “1-(4-Methoxyphenyl)-4-methylpent-1-en-3-one”;
d
Rhif FL “07.206” enw cemegol “4-(2,3,6-Trimethylphenyl)but-3-en-2-one”;
e
Rhif FL “07.258” enw cemegol “6-Methyl-3-hepten-2-one”;
f
Rhif FL “10.034” enw cemegol “5,6-Dihydro-3,6-dimethylbenzofuran-2(4H)-one”;
g
Rhif FL “10.036” enw cemegol “5,6,7,7a-Tetrahydro-3,6-dimethylbenzofuran-2(4H)-one”;
h
Rhif FL “10.042” enw cemegol “3,4-Dimethyl-5-pentylidenefuran-2(5H)-one”;
i
Rhif FL “10.043” enw cemegol “2,7-Dimethylocta-5(trans),7-dieno-1,4-lactone”;
j
Rhif FL “10.046” enw cemegol “Hex-2-eno-1,4-lactone”;
k
Rhif FL “10.054” enw cemegol “Non-2-eno-1,4-lactone”;
l
Rhif FL “10.060” enw cemegol “2-Decen-1,4-lactone”;
m
Rhif FL “10.170” enw cemegol “5-Pentyl-3H-furan-2-one”;
n
Rhif FL “13.004” enw cemegol “Allyl 2-furoate”;
o
Rhif FL “13.034” enw cemegol “3-(2-furyl)acrylaldehyde”;
p
Rhif FL “13.043” enw cemegol “Furfurylidene-2-butanal”;
q
Rhif FL “13.044” enw cemegol “4-(2-Furyl)but-3-en-2-one”;
r
Rhif FL “13.046” enw cemegol “3-(2-Furyl)-2-methylprop-2-enal”;
s
Rhif FL “13.066” enw cemegol “3-Acetyl-2,5-dimethylfuran”;
t
Rhif FL “13.103” enw cemegol “2-Butylfuran”;
u
Rhif FL “13.137” enw cemegol “3-(2-Furyl)-2-phenylprop-2-enal”;
v
Rhif FL “13.150” enw cemegol “3-(5-Methyl-2-furyl)prop-2-enal”.
Darpariaeth drosiannol5
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i sylweddau cyflasu y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(2)(a) i (v) ynghyd â bwyd sy’n eu cynnwys a oedd—
a
yn bresennol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd wedi, neu y gallent fod wedi, eu gosod yn gyfreithlon ar y farchnad ym Mhrydain Fawr cyn diwedd 27 Mehefin 2024, neu
b
ar dramwy i Brydain Fawr cyn diwedd 27 Mehefin 2024, ac y gallent fod wedi eu mewnforio neu eu symud i mewn i Brydain Fawr yn gyfreithlon a’u gosod ar y farchnad ar y dyddiad hwnnw.
2
Caiff sylweddau cyflasu a bwyd y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt, hyd at eu dyddiad parhauster lleiaf neu eu dyddiad ‘defnyddio erbyn’, gael eu rhoi ar y farchnad ac, yn ôl y digwydd, eu hychwanegu at fwyd arall.
3
Caiff bwyd sy’n cynnwys un neu ragor o’r sylweddau cyflasu y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt, hyd at ei ddyddiad parhauster lleiaf neu ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’, gael ei roi ar y farchnad ac, yn ôl y digwydd, ei ychwanegu at fwyd arall.
4
Yn y rheoliad hwn—
mae i “dyddiad ‘defnyddio erbyn’” (“‘use by’ date”) yr un ystyr ag “‘use by’ date” yn Erthygl 24 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr9;
mae i “dyddiad parhauster lleiaf” (“date of minimum durability”) yr un ystyr â “date of minimum durability” yn Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr10.
5
Mae i ymadroddion Cymraeg eraill a ddefnyddir yn y rheoliad hwn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Rheoliad hwnnw.