RHAN 3Cyflasynnau Bwyd

Diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008

4.—(1Yn Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd(1), mae Atodiad 1 (rhestr ddomestig o gyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan A (rhestr ddomestig o sylweddau cyflasu), yn Adran 2, yn Nhabl 1, hepgorer y cofnodion ar gyfer y sylweddau cyflasu a ganlyn—

(a)Rhif FL(2) “07.030” enw cemegol “1-(4-Methoxyphenyl) pent-1-en-3-one”;

(b)Rhif FL “07.046” enw cemegol “Vanillylidene acetone”;

(c)Rhif FL “07.049” enw cemegol “1-(4-Methoxyphenyl)-4-methylpent-1-en-3-one”;

(d)Rhif FL “07.206” enw cemegol “4-(2,3,6-Trimethylphenyl)but-3-en-2-one”;

(e)Rhif FL “07.258” enw cemegol “6-Methyl-3-hepten-2-one”;

(f)Rhif FL “10.034” enw cemegol “5,6-Dihydro-3,6-dimethylbenzofuran-2(4H)-one”;

(g)Rhif FL “10.036” enw cemegol “5,6,7,7a-Tetrahydro-3,6-dimethylbenzofuran-2(4H)-one”;

(h)Rhif FL “10.042” enw cemegol “3,4-Dimethyl-5-pentylidenefuran-2(5H)-one”;

(i)Rhif FL “10.043” enw cemegol “2,7-Dimethylocta-5(trans),7-dieno-1,4-lactone”;

(j)Rhif FL “10.046” enw cemegol “Hex-2-eno-1,4-lactone”;

(k)Rhif FL “10.054” enw cemegol “Non-2-eno-1,4-lactone”;

(l)Rhif FL “10.060” enw cemegol “2-Decen-1,4-lactone”;

(m)Rhif FL “10.170” enw cemegol “5-Pentyl-3H-furan-2-one”;

(n)Rhif FL “13.004” enw cemegol “Allyl 2-furoate”;

(o)Rhif FL “13.034” enw cemegol “3-(2-furyl)acrylaldehyde”;

(p)Rhif FL “13.043” enw cemegol “Furfurylidene-2-butanal”;

(q)Rhif FL “13.044” enw cemegol “4-(2-Furyl)but-3-en-2-one”;

(r)Rhif FL “13.046” enw cemegol “3-(2-Furyl)-2-methylprop-2-enal”;

(s)Rhif FL “13.066” enw cemegol “3-Acetyl-2,5-dimethylfuran”;

(t)Rhif FL “13.103” enw cemegol “2-Butylfuran”;

(u)Rhif FL “13.137” enw cemegol “3-(2-Furyl)-2-phenylprop-2-enal”;

(v)Rhif FL “13.150” enw cemegol “3-(5-Methyl-2-furyl)prop-2-enal”.

Darpariaeth drosiannol

5.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i sylweddau cyflasu y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(2)(a) i (v) ynghyd â bwyd sy’n eu cynnwys a oedd—

(a)yn bresennol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd wedi, neu y gallent fod wedi, eu gosod yn gyfreithlon ar y farchnad ym Mhrydain Fawr cyn diwedd 27 Mehefin 2024, neu

(b)ar dramwy i Brydain Fawr cyn diwedd 27 Mehefin 2024, ac y gallent fod wedi eu mewnforio neu eu symud i mewn i Brydain Fawr yn gyfreithlon a’u gosod ar y farchnad ar y dyddiad hwnnw.

(2Caiff sylweddau cyflasu a bwyd y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt, hyd at eu dyddiad parhauster lleiaf neu eu dyddiad ‘defnyddio erbyn’, gael eu rhoi ar y farchnad ac, yn ôl y digwydd, eu hychwanegu at fwyd arall.

(3Caiff bwyd sy’n cynnwys un neu ragor o’r sylweddau cyflasu y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt, hyd at ei ddyddiad parhauster lleiaf neu ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’, gael ei roi ar y farchnad ac, yn ôl y digwydd, ei ychwanegu at fwyd arall.

(4Yn y rheoliad hwn—

mae i “dyddiad ‘defnyddio erbyn’” (“‘use by date”) yr un ystyr ag “‘use by’ date” yn Erthygl 24 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr(3);

mae i “dyddiad parhauster lleiaf” (“date of minimum durability”) yr un ystyr â “date of minimum durability” yn Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr(4).

(5Mae i ymadroddion Cymraeg eraill a ddefnyddir yn y rheoliad hwn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Rheoliad hwnnw.

(1)

EUR 2008/1334; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2019/860, 2023/343 (Cy. 50). Diwygiwyd O.S. 2019/860 gan O.S. 2020/1504.

(2)

Rhif adnabod unigryw a ddyrannwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop o dan system wybodaeth yr UE am gyflasynnau, “FLAVIS”.

(3)

EUR 2011/1169; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2019/529, 778, 2020/1627. Diwygiwyd O.S. 2019/529 gan O.S. 2020/1501.

(4)

Diffinnir y term “date of minimum durability of a food” yn Erthygl 2(2)(r) o EUR 2011/1169 ond gweler hefyd Erthyglau 9(1)(f) a 24.