xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 2

ATODLEN 1Diwygio’r rhestr ddomestig o ychwanegion bwyd sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio mewn bwydydd yn Atodiad 2 i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008

Diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008

1.  Yn Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008, mae Atodiad 2 (rhestr ddomestig o ychwanegion bwyd sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio mewn bwydydd) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

Darpariaeth yn ymwneud ag ychwanegu E 960b (glycosidau stefiol o eplesu) ac E 960c(ii) (rebaudiosid M, AM a D a gynhyrchir drwy drosi glycosidau stefiol puredig iawn o echdyniad dail Stevia ag ensymau) at y rhestr ddomestig

2.  Yn Rhan B (rhestr o’r holl ychwanegion), ym mharagraff 2 (melysyddion), yn y tabl, ar ôl y cofnod ar gyfer “E 960a” (glycosidau stefiol o Stevia) mewnosoder y cofnod a ganlyn—

E 960bSteviol glycosides from fermentation.

3.  Yn Rhan C (diffiniadau o grwpiau o ychwanegion), ym mharagraff 5 (ychwanegion eraill y caniateir eu rheoleiddio yn gyfun), yn is-baragraff (v)—

(a)yn y testun o flaen y tabl, yn lle “E 960a and E 960c: Steviol Glycosides” rhodder “E 960a - E 960c: Steviol glycosides”;

(b)yn y tabl, ar ôl y cofnod ar gyfer “E 960a” (glycosidau stefiol o Stevia) mewnosoder y cofnod a ganlyn—

E 960bSteviol glycosides from fermentation.

4.  Yn Rhan E (ychwanegion bwyd awdurdodedig ac amodau defnyddio mewn categorïau bwyd), yn y tabl, yn lle “E 960a and E 960c”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “E 960a – E 960c”.

Darpariaeth yn ymwneud â defnydd awdurdodedig newydd, a diwygio defnydd awdurdodedig presennol, ar gyfer E 476 (polyglyserol polyrisinolead)

5.  Yn Rhan E (ychwanegion bwyd awdurdodedig ac amodau defnyddio mewn categorïau bwyd), yn y tabl—

(a)yng nghategori 03 (iâ bwytadwy), ar ôl y cofnod ar gyfer “E 473-474” (esterau swcros o asidau brasterog – swcroglyseridau) mewnosoder y cofnod a ganlyn—

E 476Polyglycerol polyricinoleate4000except sorbets;

(b)yng nghategori 12.6 (sawsiau), yn lle’r cofnod ar gyfer “E 476” (polyglyserol polyrisinolead) rhodder—

E 476Polyglycerol polyricinoleate4000only emulsified sauces with a fat content of less than 20%
E 476Polyglycerol polyricinoleate8000only emulsified sauces with a fat content of 20% or more.

Diwygiadau amrywiol

6.  Yn Rhan E (ychwanegion bwyd awdurdodedig ac amodau defnyddio mewn categorïau bwyd), yn y tabl—

(a)ar ddiwedd categori 05.1 (cynhyrchion coco a siocled), yn y lle priodol, mewnosoder y troednodyn a ganlyn—

(1): The additives may be added individually or in combination;

(b)yng nghategori 05.2 (melysion eraill gan gynnwys microfelysion ar gyfer puro’r anadl)—

(i)yn y trydydd cofnod ar gyfer “Group IV” (polyolau), yn lle “only cocoa or dried fruit-based, milk or fat-based sandwich spreads,” rhodder “sandwich spreads made with a base of cocoa, milk, dried fruit or fat;”;

(ii)yn y cofnod cyntaf ar gyfer “E 960a – E 960c” (glycosidau stefiol) fel y’i diwygir gan baragraff 4 o’r Atodlen hon, yn lle “only cocoa or dried-fruit-based” rhodder “only cocoa or dried fruit based”;

(iii)yn yr ail gofnod ar gyfer “E 960a – E 960c” (glycosidau stefiol) fel y’i diwygir gan baragraff 4 o’r Atodlen hon, yn lle “only cocoa, milk, dried-fruit-based or fat-based sandwich spreads,” rhodder “sandwich spreads made with a base of cocoa, milk, dried fruit or fat;”;

(c)yng nghategori 05.4 (addurniadau, caenau a llenwadau, ac eithrio llenwadau wedi eu seilio ar ffrwythau a gwmpesir gan gategori 4.2.4), yn yr ail gofnod ar gyfer “E 960a – E 960c” (glycosidau stefiol) fel y’i diwygir gan baragraff 4 o’r Atodlen hon, yn lle “only cocoa or dried-fruit-based,” rhodder “only cocoa or dried fruit based;”.