RHAN 3Gofynion samplu a hysbysu

Gofynion hysbysu gan weithredwr labordy cymeradwy16

Rhaid i weithredwr labordy cymeradwy hysbysu’r ceidwad, Gweinidogion Cymru a’r milfeddyg am ganlyniad prawf o dan erthyglau 28, 31, 34, 37, 40 ac 41 o fewn 5 diwrnod gwaith i ddyddiad y prawf a rhaid cynnwys manylion am—

a

enw a chyfeiriad y ceidwad,

b

y disgrifiad o’r sampl,

c

y dyddiad y cymerwyd y sampl,

d

y dyddiad y profwyd y sampl,

e

rhif CPH y daliad yr oedd y fuches yn cael ei chadw neu’r anifail yn cael ei gadw arno ar yr adeg y cymerwyd y sampl neu’r samplau, a

f

pan fo tag clust wedi ei osod, y rhif tag clust swyddogol o’r tag clust swyddogol.