19.—(1) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan anifail buchol neu lo naill ai—
(a)statws BVD unigol positif,
(b)statws BVD unigol o haint parhaus,
(c)statws BVD unigol negatif, neu
(d)dim statws BVD unigol.
(2) Yn ddarostyngedig i erthygl 21, mae gan anifail buchol statws BVD unigol positif os yw gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru fod gan yr anifail statws BVD unigol positif o dan erthyglau 31(1)(b)(i), 40(5)(b), 41(4)(b) neu, yn achos llo, erthygl 37(b).
(3) Mae gan anifail buchol statws BVD unigol o haint parhaus os yw gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru fod gan yr anifail statws BVD unigol o haint parhaus o dan erthygl 34(b)(i).
(4) Mae gan anifail buchol statws BVD unigol negatif os yw gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru fod gan yr anifail statws BVD unigol negatif o dan erthyglau 31(1)(a)(i), 34(a)(i), 40(5)(a), 41(4)(a) neu, yn achos llo, erthygl 37(a).
(5) Nid oes gan anifail buchol statws BVD unigol ym mhob achos arall.