xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Statws BVD

Statws BVD unigol anifeiliaid

19.—(1At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan anifail buchol neu lo naill ai—

(a)statws BVD unigol positif,

(b)statws BVD unigol o haint parhaus,

(c)statws BVD unigol negatif, neu

(d)dim statws BVD unigol.

(2Yn ddarostyngedig i erthygl 21, mae gan anifail buchol statws BVD unigol positif os yw gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru fod gan yr anifail statws BVD unigol positif o dan erthyglau 31(1)(b)(i), 40(5)(b), 41(4)(b) neu, yn achos llo, erthygl 37(b).

(3Mae gan anifail buchol statws BVD unigol o haint parhaus os yw gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru fod gan yr anifail statws BVD unigol o haint parhaus o dan erthygl 34(b)(i).

(4Mae gan anifail buchol statws BVD unigol negatif os yw gweithredwr labordy cymeradwy drwy hysbysiad wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru fod gan yr anifail statws BVD unigol negatif o dan erthyglau 31(1)(a)(i), 34(a)(i), 40(5)(a), 41(4)(a) neu, yn achos llo, erthygl 37(a).

(5Nid oes gan anifail buchol statws BVD unigol ym mhob achos arall.