2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw anifail domestig o’r genws Bos neu’r rhywogaeth Bubalus bubalis neu Bison bison;
mae i “arolygydd” yr un ystyr ag “inspector” yn adran 89 o’r Ddeddf;
mae i “arolygydd milfeddygol” yr un ystyr â “veterinary inspector” yn adran 89 o’r Ddeddf;
ystyr “buches” (“bovine herd”) yw grŵp o ddau anifail buchol neu ragor;
ystyr “BVD” (“BVD”) yw dolur rhydd feirysol buchol;
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw’r person sydd â gofal o ddydd i ddydd am anifail buchol, ac mae’r person hwnnw’n parhau i fod y ceidwad pan roddir yr anifail o dan reolaeth person arall dros dro (gan gynnwys pan y’i rhoddir o dan reolaeth cludwr);
ystyr “daliad” (“holding”) yw daliad neu ran o ddaliad y mae rhif CPH wedi ei roi iddo;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul nac yn ddiwrnod a bennir fel gŵyl banc ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;
ystyr “feirws BVD” (“BVDV”) yw feirws BVD;
ystyr “labordy cymeradwy” (“approved laboratory”) yw labordy a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 8;
ystyr “llo” (“calf”) yw anifail buchol 18 mis oed neu’n iau;
ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw dir, unrhyw adeilad neu unrhyw gerbyd, o unrhyw ddisgrifiad;
ystyr “milfeddyg cymeradwy” (“approved veterinary surgeon”) yw milfeddyg a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 7;
ystyr “rhif CPH” (“CPH number”) yw rhif y daliad ym mhlwyf y sir, a roddir i ddaliad neu ran o ddaliad gan Weinidogion Cymru;
ystyr “rhif tag clust swyddogol” (“official ear tag number”) yw’r rhif sydd wedi ei argraffu ar dag clust swyddogol;
ystyr “statws BVD ar y cyd” (“collective BVD status”) yw statws BVD buches fel y’i penderfynir yn unol ag erthygl 20;
ystyr “statws BVD unigol” (“individual BVD status”) yw statws BVD anifail buchol unigol fel y’i penderfynir yn unol ag erthygl 19;
ystyr “tag clust swyddogol” (“official ear tag”) yw tag clust a osodir o dan Reoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(2);
ystyr “tag rheoli” (“management tag”) yw tag clust, ac eithrio tag clust swyddogol, sy’n addas i’w osod ar anifail buchol at ddiben cymryd sampl o feinwe.
O.S. 2007/842 (Cy. 74), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/92 (Cy. 24).