RHAN 2Cymeradwyo milfeddygon a labordai

Cymeradwyo milfeddygon

7.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo unrhyw filfeddyg y maent yn ystyried ei fod yn addas at ddibenion cyflawni’r swyddogaethau a roddir i filfeddyg cymeradwy gan y Gorchymyn hwn.

(2At ddiben penderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth o dan yr erthygl hon, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i filfeddyg gwblhau’r cyfryw hyfforddiant y maent yn ystyried ei fod yn angenrheidiol.

(3Rhaid i filfeddyg cymeradwy gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r gymeradwyaeth.

(4Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad a roddir i’r milfeddyg atal dros dro neu ddirymu cymeradwyaeth a roddir o dan yr erthygl hon.

(5Mae atal dros dro gymeradwyaeth o dan yr erthygl hon yn para am y cyfnod hwnnw, neu hyd nes y cymerir y camau hynny, a bennir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad.

(6Caiff milfeddyg cymeradwy drwy hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru nodi nad yw’r milfeddyg yn dymuno bod wedi ei gymeradwyo mwyach, ac os felly mae’r gymeradwyaeth yn peidio â chael effaith ar y dyddiad y daw’r hysbysiad hwnnw i law Gweinidogion Cymru.