Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 754 (Cy. 106)

Tai, Cymru

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2024

Gwnaed

12 Mehefin 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

14 Mehefin 2024

Yn dod i rym

1 Awst 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 30 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2).

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 30, 146(1) a 146(2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Ailenwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru neu Welsh Parliament gan adran 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1). Yn rhinwedd paragraff 7 o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r gofyniad i gael cymeradwyaeth y Trysorlys yn adran 30(9) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 wedi ei ddatgymhwyso.