2024 Rhif 775 (Cy. 116)

Llesiant, Cymru

Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 52(1)(a), 54(1)(b) a 54(3)(b) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”)1.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r cyrff cyhoeddus a restrir o dan reoliad 2, fel sy’n ofynnol o dan adran 52(4) o’r Ddeddf.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 54(4)(a) o’r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2024.

3

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Diwygio adran 6 o’r Ddeddf2

1

Mae adran 6(1)2 (ystyr “corff cyhoeddus”) o’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ar ôl paragraff (d)(ii) mewnosoder—

iii

Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;

3

Ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

da

yr awdurdodau iechyd arbennig a ganlyn a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006—

i

Iechyd a Gofal Digidol Cymru;

ii

Addysg a Gwella Iechyd Cymru;

4

Ar ôl paragraff (l) mewnosoder—

m

Gofal Cymdeithasol Cymru;

n

Awdurdod Cyllid Cymru;

o

Trafnidiaeth Cymru (sef Transport for Wales (rhif y cwmni 09476013));

p

Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (sef Centre for Digital Public Services Limited (rhif y cwmni 09341679));

q

Cymwysterau Cymru.

Gosod a chyhoeddi amcanion llesiant ar gyfer cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 23

Wrth ei gymhwyso i’r cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2, mae paragraff (a) o adran 9(2) (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—

a

heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2025, a

Ymchwiliad ac adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â chyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 24

1

Mae paragraff (2) yn gymwys am y cyfnod—

a

sy’n dechrau ar 30 Mehefin 2024, a

b

sy’n dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20063.

2

Mae adran 15 o’r Ddeddf yn cael effaith mewn perthynas â’r cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2 fel pe bai’r is-adran ganlynol wedi ei rhoi yn lle is-adran (6)—

6

Mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3)—

a

yn dechrau ar 30 Mehefin 2024, a

b

yn dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 6 (ystyr “corff cyhoeddus”) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) yn rhestru personau penodol sy’n “gorff cyhoeddus” at ddibenion Rhan 2 (gwella llesiant) a Rhan 3 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru) o’r Ddeddf.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu wyth person ychwanegol (“y cyrff cyhoeddus ychwanegol”) at y rhestr o gyrff cyhoeddus yn adran 6 o’r Ddeddf: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; Iechyd a Gofal Digidol Cymru; Addysg a Gwella Iechyd Cymru; Gofal Cymdeithasol Cymru; Awdurdod Cyllid Cymru; Trafnidiaeth Cymru (sef Transport for Wales (rhif y cwmni 09476013)); Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (sef Centre for Digital Public Services Limited (rhif y cwmni 09341679)) a Cymwysterau Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd y cyrff cyhoeddus ychwanegol yn agored i gydymffurfio â Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adran 9 (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill) o’r Ddeddf, i bennu bod rhaid i’r cyrff cyhoeddus ychwanegol osod a chyhoeddi amcanion llesiant erbyn 31 Mawrth 2025.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adran 15 (yr egwyddor datblygu cynaliadwy: ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol) o’r Ddeddf, sy’n diffinio’r cyfnod adrodd ar gyfer ymchwiliadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (“ACC”). O dan adran 15 o’r Ddeddf, mae cyfnod adrodd yr ACC yn dechrau ar y dyddiad sy’n digwydd un flwyddyn cyn y dyddiad y mae etholiad cyffredinol arferol i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac mae’n dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad nesaf o’r fath i’w gynnal. Oherwydd y cyrff ychwanegol a ychwanegir at y Ddeddf ar 30 Mehefin 2024 ac y mae’n ofynnol iddynt osod amcanion llesiant erbyn 31 Mawrth 2025, mae’r rheoliad hwn yn diwygio cyfnod adrodd cyntaf yr ACC mewn perthynas â’r cyrff cyhoeddus ychwanegol, gan olygu y bydd yn ofynnol i’r ACC adrodd ar y cyrff cyhoeddus ychwanegol o 30 Mehefin 2024 hyd at ddiwedd y cyfnod adrodd nesaf, sydd wedi ei osod o dan adran 15(6)(b). Bydd y cyrff cyhoeddus ychwanegol wedyn yn ddarostyngedig i’r cyfnod adrodd o dan adran 15(6) o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol a gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru.