4.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys am y cyfnod—
(a)sy’n dechrau ar 30 Mehefin 2024, a
(b)sy’n dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1).
(2) Mae adran 15 o’r Ddeddf yn cael effaith mewn perthynas â’r cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2 fel pe bai’r is-adran ganlynol wedi ei rhoi yn lle is-adran (6)—
“(6) Mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3)—
(a)yn dechrau ar 30 Mehefin 2024, a
(b)yn dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.”