- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
46.—(1) Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 25 (dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau adeiladu mawr), yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “sydd”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hyd at y diwedd rhodder—
(3) Yn adran 45 (dehongli Rhan 3), yn is-adran (1)—
(a)hepgorer y diffiniadau o—
(i)“y Rheoliadau Contractau Consesiwn”,
(ii)“y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus” ,
(iii)“contract gweithiau cyhoeddus”,
(iv)“y Rheoliadau Contractau Cyfleustodau”, a
(v)“contract consesiwn gweithiau”;
(b)yn y diffiniad o “gweithiau”, yn lle’r geiriau o “yr ystyr a roddir” hyd at y diwedd, rhodder “(“works”) yr ystyr a roddir gan reoliad 45 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 ac Atodlen 3 iddynt(2)”;
(c)yn y diffiniad o “contract gweithiau”, yn lle’r geiriau o “yr ystyr a roddir” hyd at y diwedd, rhodder “yr ystyr a roddir i “works contract” gan baragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Caffael 2023 (p. 54);”.
(4) Yn adran 45 (dehongli Rhan 3), yn is-adran (2), yn lle “â rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus” rhodder “ag adran 4 o Ddeddf Caffael 2023”.
47.—(1) Mae Deddf 2023 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 17 (hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad), yn is-adran (3) hepgorer y geiriau a ganlyn “other than to a private utility which is a devolved Welsh authority that is not carrying out procurement under a reserved procurement arrangement or a transferred Northern Ireland procurement arrangement.”
(3) Yn adran 87 (contractau rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy: hysbysiadau), yn lle is-adran (4)(a) rhodder—
“(a)in the case of a contract to be awarded by—
(i)a central government authority that is not a devolved Welsh authority, not less than £12,000;
(ii)a central government authority that is a devolved Welsh authority, not less than £30,000, or”.
48. Yn Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003(3), yn rheoliad 9(1) (ymgynghori ynghylch contractau), yn lle’r geiriau o “os” hyd at y diwedd rhodder “pan na fo gwerth amcangyfrifedig y contract arfaethedig yn llai na’r trothwy sy’n gymwys i’r awdurdod perthnasol ar gyfer y contract arfaethedig hwnnw yn unol ag adran 3 o Ddeddf Caffael 2023”.
49. Yn Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004(4), yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “hysbysiad cyhoeddus”, yn lle “hysbysiad a gyhoeddir, yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, ar wasanaeth e-hysbysu’r DU (fel y’i diffinnir gan y Rheoliadau hynny)” rhodder “unrhyw hysbysiad a gyhoeddir yn unol â Deddf Caffael 2023 sy’n ymwneud â chontract cyhoeddus (o fewn yr ystyr a roddir i “public contract” gan adran 3 o’r Ddeddf honno)”.
50.—(1) Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 18 (caffael cyhoeddus)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “gwneud cytundeb perthnasol ar sail y cynnig mwyaf manteisiol yn economaidd” rhodder “dyfarnu contract cyhoeddus yn dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “cytundeb perthnasol” rhodder “contract cyhoeddus”;
(c)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “meini prawf”, “gweithdrefn dendro gystadleuol”, “awdurdod contractio” a “contract cyhoeddus” yr un ystyr ag a roddir i “award criteria”, “competitive tendering procedure”, “contracting authority” a “public contract” yn y drefn honno yn Neddf Caffael 2023.”
51. Yn Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018(6), hepgorer rheoliad 2.
52. Yn Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021(7), yn rheoliad 6, hepgorer paragraff (27)(ii).
53. Yn Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2023(8), hepgorer rheoliadau 2 i 5.
54. Yn Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013(9), yn Erthygl 68a(1), yn lle “the threshold set out in regulation 5 of the Public Contracts Regulations 2015” rhodder “the relevant threshold amount set out in Schedule 1 to the Procurement Act 2023”.
O.S. 2003/2909 (Cy. 275). Diwygiwyd rheoliad 9(1) gan O.S. 2006/5, Atodlen 7(1), paragraff 4 ac O.S. 2015/102, Atodlen 6(2), paragraff 13.
O.S. 2004/684 (Cy. 72). Diwygiwyd rheoliad 2(1) gan O.S. 2006/5, Atodlen 7(1), paragraff 5 ac O.S. 2019/116, rheoliad 2.
O.S. 2011/1064 (Cy. 155). Diwygiwyd rheoliad 18 gan O.S. 2019/120, rheoliad 2.
Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: