Search Legislation

Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Gwybodaeth y cyflenwr o ran ei bersonau cysylltiedig

12.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth y cyflenwr o ran ei bersonau cysylltiedig.

(2Yr wybodaeth yw’r wybodaeth yn y rheoliad hwn ar gyfer pob person cysylltiedig i’r cyflenwr.

(3Mae paragraff (4) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006,

(b)pan fo’r person cysylltiedig yn berson â rheolaeth sylweddol dros y cyflenwr, ac

(c)pan fo’r person cysylltiedig yn gofrestradwy.

(4Yr wybodaeth yw—

(a)enw, dyddiad geni a chenedligrwydd y person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,

(c)pa un neu ragor o’r amodau penodedig yn Rhan 1 o Atodlen 1A i DC 2006 sy’n gymwys,

(d)y dyddiad pan ddaeth y person cysylltiedig yn gofrestradwy fel person â rheolaeth sylweddol, os yw’n gymwys, ac

(e)enw’r gofrestr pobl â rheolaeth sylweddol y mae’r person cysylltiedig wedi ei gofrestru arni fel person â rheolaeth sylweddol, os yw’n gymwys.

(5Mae paragraff (6) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006,

(b)pan fo’r person cysylltiedig yn endid cyfreithiol perthnasol, ac

(c)pan fo’r person cysylltiedig yn gofrestradwy.

(6Yr wybodaeth yw—

(a)enw’r person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,

(c)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,

(d)ffurf gyfreithiol y person cysylltiedig a’r gyfraith y’i llywodraethir odani,

(e)pa un neu ragor o’r amodau penodedig yn Rhan 1 o Atodlen 1A i DC 2006 sy’n gymwys,

(f)y dyddiad pan ddaeth y person cysylltiedig yn gofrestradwy fel endid cyfreithiol perthnasol, os yw’n gymwys, ac

(g)enw’r gofrestr pobl â rheolaeth sylweddol y mae’r person cysylltiedig wedi ei gofrestru arni fel endid cyfreithiol perthnasol, os yw’n gymwys.

(7Mae paragraff (8) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a

(b)pan fo’r person cysylltiedig—

(i)yn gyfarwyddwr neu’n gyfarwyddwr cysgodol i’r cyflenwr, a

(ii)yn unigolyn.

(8Yr wybodaeth yw—

(a)enw, dyddiad geni a chenedligrwydd y person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig, ac

(c)y wlad neu’r wladwriaeth (neu’r rhan o’r Deyrnas Unedig) y mae’r person cysylltiedig yn preswylio ynddi fel arfer.

(9Mae paragraff (10) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a

(b)o ran y person cysylltiedig—

(i)pan fo’n gyfarwyddwr neu’n gyfarwyddwr cysgodol i’r cyflenwr, a

(ii)pan na fo’n unigolyn.

(10Yr wybodaeth yw—

(a)enw’r person cysylltiedig;

(b)cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,

(c)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,

(d)ffurf gyfreithiol y person cysylltiedig a’r gyfraith y’i llywodraethir odani, ac

(e)pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, rhif cofrestru’r person a roddwyd o dan y Ddeddf honno.

(11Mae paragraff (12) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a

(b)pan fo’r person cysylltiedig yn rhiant-ymgymeriad neu’n is-ymgymeriad i’r cyflenwr.

(12Yr wybodaeth yw—

(a)enw’r person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,

(c)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig, a

(d)pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru a roddwyd o dan y Ddeddf honno.

(13Mae paragraff (14) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a

(b)pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni rhagflaenol i’r cyflenwr.

(14Yr wybodaeth yw—

(a)enw’r person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cofrestredig olaf y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa olaf,

(c)pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru a roddwyd o dan y Ddeddf honno, a

(d)y dyddiad pan aeth y person cysylltiedig yn ansolfent ac y peidiodd â masnachu.

(15Mae paragraff (16) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan na fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a

(b)pan ellir ystyried yn rhesymol fod y person cysylltiedig mewn sefyllfa gyfwerth, mewn perthynas â’r cyflenwr, â’r person cysylltiedig a ddisgrifir ym mharagraff (3), (5), (7), (9), (11) neu (13).

(16Mae’r wybodaeth yn wybodaeth y gellir ystyried yn rhesymol ei bod yn gyfwerth â’r hyn y cyfeirir ato ym mharagraff (4), (6), (8), (10), (12) neu (14) (yn ôl y digwydd).

(17Mae paragraff (18) yn nodi’r wybodaeth ar gyfer person cysylltiedig nad yw unrhyw un o baragraffau (3), (5), (7), (9), (11), (13) na (15) yn gymwys iddo—

(a)sydd â’r hawl i arfer, neu sy’n arfer mewn gwirionedd, ddylanwad sylweddol neu reolaeth sylweddol dros y cyflenwr, neu

(b)y mae gan y cyflenwr yr hawl i arfer, neu ei fod yn arfer mewn gwirionedd, ddylanwad sylweddol neu reolaeth sylweddol drosto.

(18Yr wybodaeth yw—

(a)enw’r person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,

(c)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,

(d)ffurf gyfreithiol y person cysylltiedig a’r gyfraith y’i llywodraethir odani,

(e)pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru a roddwyd o dan y Ddeddf honno,

(f)pan fo’r person cysylltiedig yn gyfwerth tramor â chwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru sy’n gyfwerth â’r rhai sydd wedi eu dyroddi o dan DC 2006,

(g)pa un neu ragor o’r amodau penodedig yn Rhan 1 o Atodlen 1A i DC 2006 sy’n gymwys, ac

(h)y dyddiad pan ddaeth y person cysylltiedig yn gofrestradwy fel person â rheolaeth sylweddol, os yw’n gymwys.

(19Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “cofrestradwy”—

    (a)

    mewn cysylltiad â pherson â rheolaeth sylweddol, yr ystyr a roddir i “registrable” gan adran 790C(4) o DC 2006;

    (b)

    mewn cysylltiad ag endid cyfreithiol perthnasol, yr ystyr a roddir i “registrable” gan adran 790C(8) o DC 2006;

  • mae i “cyfeiriad cyflwyno” yr ystyr a roddir i “service address” gan adran 1141 o DC 2006;

  • mae i “endid cyfreithiol perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant legal entity” gan adran 790C(6) o DC 2006;mae i’r termau “cyfarwyddwr”, “rhiant-ymgymeriad”, “is-ymgymeriad”, “cwmni rhagflaenol” a “cyfarwyddwr cysgodol” yr un ystyr ag a roddir i “director”, “parent undertaking”, “subsidiary undertaking”, “predecessor company” a “shadow director” yn y drefn honno gan baragraff 45 o Atodlen 6 i Ddeddf 2023.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources