RHAN 2Tryloywder
Gwybodaeth y cyflenwr o ran ei bersonau cysylltiedig12
1
Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth y cyflenwr o ran ei bersonau cysylltiedig.
2
Yr wybodaeth yw’r wybodaeth yn y rheoliad hwn ar gyfer pob person cysylltiedig i’r cyflenwr.
3
Mae paragraff (4) yn nodi’r wybodaeth—
a
pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006,
b
pan fo’r person cysylltiedig yn berson â rheolaeth sylweddol dros y cyflenwr, ac
c
pan fo’r person cysylltiedig yn gofrestradwy.
4
Yr wybodaeth yw—
a
enw, dyddiad geni a chenedligrwydd y person cysylltiedig,
b
cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,
c
pa un neu ragor o’r amodau penodedig yn Rhan 1 o Atodlen 1A i DC 2006 sy’n gymwys,
d
y dyddiad pan ddaeth y person cysylltiedig yn gofrestradwy fel person â rheolaeth sylweddol, os yw’n gymwys, ac
e
enw’r gofrestr pobl â rheolaeth sylweddol y mae’r person cysylltiedig wedi ei gofrestru arni fel person â rheolaeth sylweddol, os yw’n gymwys.
5
Mae paragraff (6) yn nodi’r wybodaeth—
a
pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006,
b
pan fo’r person cysylltiedig yn endid cyfreithiol perthnasol, ac
c
pan fo’r person cysylltiedig yn gofrestradwy.
6
Yr wybodaeth yw—
a
enw’r person cysylltiedig,
b
cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,
c
cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,
d
ffurf gyfreithiol y person cysylltiedig a’r gyfraith y’i llywodraethir odani,
e
pa un neu ragor o’r amodau penodedig yn Rhan 1 o Atodlen 1A i DC 2006 sy’n gymwys,
f
y dyddiad pan ddaeth y person cysylltiedig yn gofrestradwy fel endid cyfreithiol perthnasol, os yw’n gymwys, ac
g
enw’r gofrestr pobl â rheolaeth sylweddol y mae’r person cysylltiedig wedi ei gofrestru arni fel endid cyfreithiol perthnasol, os yw’n gymwys.
7
Mae paragraff (8) yn nodi’r wybodaeth—
a
pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a
b
pan fo’r person cysylltiedig—
i
yn gyfarwyddwr neu’n gyfarwyddwr cysgodol i’r cyflenwr, a
ii
yn unigolyn.
8
Yr wybodaeth yw—
a
enw, dyddiad geni a chenedligrwydd y person cysylltiedig,
b
cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig, ac
c
y wlad neu’r wladwriaeth (neu’r rhan o’r Deyrnas Unedig) y mae’r person cysylltiedig yn preswylio ynddi fel arfer.
9
Mae paragraff (10) yn nodi’r wybodaeth—
a
pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a
b
o ran y person cysylltiedig—
i
pan fo’n gyfarwyddwr neu’n gyfarwyddwr cysgodol i’r cyflenwr, a
ii
pan na fo’n unigolyn.
10
Yr wybodaeth yw—
a
enw’r person cysylltiedig;
b
cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,
c
cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,
d
ffurf gyfreithiol y person cysylltiedig a’r gyfraith y’i llywodraethir odani, ac
e
pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, rhif cofrestru’r person a roddwyd o dan y Ddeddf honno.
11
Mae paragraff (12) yn nodi’r wybodaeth—
a
pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a
b
pan fo’r person cysylltiedig yn rhiant-ymgymeriad neu’n is-ymgymeriad i’r cyflenwr.
12
Yr wybodaeth yw—
a
enw’r person cysylltiedig,
b
cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,
c
cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig, a
d
pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru a roddwyd o dan y Ddeddf honno.
13
Mae paragraff (14) yn nodi’r wybodaeth—
a
pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a
b
pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni rhagflaenol i’r cyflenwr.
14
Yr wybodaeth yw—
a
enw’r person cysylltiedig,
b
cyfeiriad cofrestredig olaf y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa olaf,
c
pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru a roddwyd o dan y Ddeddf honno, a
d
y dyddiad pan aeth y person cysylltiedig yn ansolfent ac y peidiodd â masnachu.
15
Mae paragraff (16) yn nodi’r wybodaeth—
a
pan na fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a
b
pan ellir ystyried yn rhesymol fod y person cysylltiedig mewn sefyllfa gyfwerth, mewn perthynas â’r cyflenwr, â’r person cysylltiedig a ddisgrifir ym mharagraff (3), (5), (7), (9), (11) neu (13).
16
Mae’r wybodaeth yn wybodaeth y gellir ystyried yn rhesymol ei bod yn gyfwerth â’r hyn y cyfeirir ato ym mharagraff (4), (6), (8), (10), (12) neu (14) (yn ôl y digwydd).
17
Mae paragraff (18) yn nodi’r wybodaeth ar gyfer person cysylltiedig nad yw unrhyw un o baragraffau (3), (5), (7), (9), (11), (13) na (15) yn gymwys iddo—
a
sydd â’r hawl i arfer, neu sy’n arfer mewn gwirionedd, ddylanwad sylweddol neu reolaeth sylweddol dros y cyflenwr, neu
b
y mae gan y cyflenwr yr hawl i arfer, neu ei fod yn arfer mewn gwirionedd, ddylanwad sylweddol neu reolaeth sylweddol drosto.
18
Yr wybodaeth yw—
a
enw’r person cysylltiedig,
b
cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,
c
cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,
d
ffurf gyfreithiol y person cysylltiedig a’r gyfraith y’i llywodraethir odani,
e
pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru a roddwyd o dan y Ddeddf honno,
f
pan fo’r person cysylltiedig yn gyfwerth tramor â chwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru sy’n gyfwerth â’r rhai sydd wedi eu dyroddi o dan DC 2006,
g
pa un neu ragor o’r amodau penodedig yn Rhan 1 o Atodlen 1A i DC 2006 sy’n gymwys, ac
h
y dyddiad pan ddaeth y person cysylltiedig yn gofrestradwy fel person â rheolaeth sylweddol, os yw’n gymwys.
19
Yn y rheoliad hwn—
mae i “cofrestradwy”—
- a
mewn cysylltiad â pherson â rheolaeth sylweddol, yr ystyr a roddir i “registrable” gan adran 790C(4) o DC 2006;
- b
mewn cysylltiad ag endid cyfreithiol perthnasol, yr ystyr a roddir i “registrable” gan adran 790C(8) o DC 2006;
- a
mae i “cyfeiriad cyflwyno” yr ystyr a roddir i “service address” gan adran 1141 o DC 2006;
mae i “endid cyfreithiol perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant legal entity” gan adran 790C(6) o DC 2006;mae i’r termau “cyfarwyddwr”, “rhiant-ymgymeriad”, “is-ymgymeriad”, “cwmni rhagflaenol” a “cyfarwyddwr cysgodol” yr un ystyr ag a roddir i “director”, “parent undertaking”, “subsidiary undertaking”, “predecessor company” a “shadow director” yn y drefn honno gan baragraff 45 o Atodlen 6 i Ddeddf 2023.