Search Legislation

Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Hysbysiadau tendro: gweithdrefn agored

19.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus drwy weithdrefn agored, a gyhoeddir o dan adran 21(1)(a) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,

(d)datganiad bod yr hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus drwy weithdrefn agored yn unol ag adran 20(1) a (2)(a) o Ddeddf 2023,

(e)a yw’r hysbysiad tendro yn ymwneud â chontract cyfundrefn arbennig ac, os felly, a yw’r contract hwnnw—

(i)yn gontract consesiwn,

(ii)yn gontract cyffyrddiad ysgafn, neu

(iii)yn gontract cyfleustodau,

(f)pwnc y contract,

(g)amcangyfrif o werth y contract cyhoeddus,

(h)pan fo’r contract cyhoeddus ar gyfer nwyddau, gwasanaethau neu weithiau y mae’r awdurdod contractio yn disgwyl y bydd eu hangen ar ôl i’r contract ddod i ben—

(i)a yw’r awdurdod contractio yn bwriadu caffael nwyddau, gwasanaethau neu weithiau tebyg wedi hynny drwy ddibynnu ar y cyfiawnhad dros ddyfarnu’n uniongyrchol ym mharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 2023, neu

(ii)amcangyfrif, os yw’n bosibl, o’r dyddiad y bydd unrhyw hysbysiad tendro dilynol yn cael ei gyhoeddi,

(i)a fydd arwerthiant electronig yn cael ei ddefnyddio ac, os felly, fanylion technegol ynghylch y modd y gall cyflenwyr gymryd rhan yn yr arwerthiant electronig,

(j)sut y caniateir cyflwyno tendrau a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid eu cyflwyno,

(k)y meini prawf dyfarnu, neu grynodeb o’r meini prawf dyfarnu, ar gyfer y contract cyhoeddus,

(l)yr ieithoedd y caniateir cyflwyno tendrau neu ymholiadau mewn cysylltiad â’r weithdrefn dendro ynddynt,

(m)a yw’r contract cyhoeddus yn gontract y mae gan y Deyrnas Unedig rwymedigaethau ar ei gyfer o dan y Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau,

(n)o’r dyddiad y daw’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel i rym ar gyfer y Deyrnas Unedig, a yw’r contract cyhoeddus yn gontract y mae gan y Deyrnas Unedig rwymedigaethau ar ei gyfer o dan y Cytundeb hwnnw,

(o)a yw’r contract cyhoeddus wedi ei ddyfarnu drwy gyfeirio at lotiau ac, os felly, ar gyfer pob lot—

(i)enw’r lot,

(ii)y rhif neilltuol a roddwyd i’r lot gan yr awdurdod contractio,

(iii)yr wybodaeth a ganlyn, i’r graddau y mae’n hysbys i’r awdurdod contractio pan gyhoeddir yr hysbysiad tendro—

(aa)disgrifiad o’r mathau o nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi,

(bb)crynodeb o’r modd y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau hynny yn cael eu cyflenwi,

(cc)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau yn cael eu cyflenwi neu amcangyfrif o’r cyfnod y byddant yn cael eu cyflenwi drosto,

(dd)amcangyfrif o swm nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi,

(ee)amcangyfrif o werth y lot,

(ff)y codau GGG perthnasol,

(gg)y meini prawf dyfarnu perthnasol mewn perthynas â’r lot,

(hh)unrhyw opsiwn mewn perthynas â’r lot, ac

(ii)y dosbarthiad daearyddol, pan fo’n bosibl ei ddisgrifio,

(p)pan fo’r contract cyhoeddus wedi ei ddyfarnu drwy gyfeirio at lotiau—

(i)a ganiateir i gyflenwr gyflwyno tendr ar gyfer uchafswm o lotiau yn unig ac, os felly, yr uchafswm,

(ii)a ganiateir dyfarnu uchafswm o lotiau yn unig i gyflenwr ac, os felly, yr uchafswm, a

(iii)a fydd yr awdurdod contractio yn dyfarnu lotiau lluosog i’r un cyflenwr yn unol â meini prawf ac, os felly, grynodeb o’r meini prawf,

(q)pan fo’r awdurdod contractio yn ystyried o dan adran 18(2) o Ddeddf 2023 y gellid dyfarnu’r contract cyhoeddus drwy gyfeirio at lotiau ond nad yw hynny’n digwydd, y rhesymau dros hyn, ac eithrio yn achos contract cyfleustodau neu gontract cyffyrddiad ysgafn,

(r)disgrifiad o unrhyw opsiwn a fydd yn cael ei gynnwys yn y contract cyhoeddus—

(i)i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol, neu

(ii)i ymestyn neu adnewyddu cyfnod y contract,

(s)a yw’r awdurdod contractio yn bwriadu gosod y cyfnod tendro lleiaf byrraf drwy gyfeirio at un o’r cofnodion a ganlyn yn y tabl yn adran 54(4) o Ddeddf 2023 ac, os felly, pa gofnod—

(i)yr ail gofnod (contractau cyfleustodau neu gontractau a ddyfernir gan awdurdod contractio nad yw’n awdurdod llywodraeth ganolog, sy’n ddarostyngedig i gyfnod tendro a negodwyd; dim cyfnod lleiaf),

(ii)y trydydd cofnod (contractau cyfleustodau neu gontractau penodol a ddyfernir gan awdurdod contractio nad yw’n awdurdod llywodraeth ganolog, pan ganiateir cyflwyno tendrau gan gyflenwyr a ddetholwyd ymlaen llaw yn unig; 10 niwrnod),

(iii)y pedwerydd cofnod (mae hysbysiad caffael arfaethedig cymhwysol wedi ei gyhoeddi; 10 niwrnod), neu

(iv)y pumed cofnod (sefyllfa frys; 10 niwrnod),

(t)a yw’r awdurdod contractio yn ystyried y gall y contract cyhoeddus neu unrhyw lot sy’n ffurfio rhan o’r contract fod yn arbennig o addas i’w ddyfarnu—

(i)i fenter fach a chanolig ei maint, neu

(ii)i gorff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol,

(u)a yw dogfennau tendro cysylltiedig yn cael eu darparu yn unol â’r hysbysiad tendro ar yr un pryd ag y mae’r hysbysiad yn cael ei gyhoeddi ac, os felly—

(i)enw pob dogfen dendro gysylltiedig,

(ii)a yw pob dogfen dendro gysylltiedig ynghlwm wrth yr hysbysiad tendro, a

(iii)os nad yw dogfen dendro gysylltiedig ynghlwm wrth yr hysbysiad tendro, dolen i’r dudalen we lle y mae wedi ei darparu,

(v)a yw dogfen dendro gysylltiedig yn cael ei darparu, neu y gall gael ei darparu, yn unol â’r hysbysiad tendro ar ôl y dyddiad y bydd yr hysbysiad hwnnw yn cael ei gyhoeddi ac, os felly, dolen i’r dudalen we lle y bydd yn cael ei darparu, neu esboniad ynghylch sut y bydd y ddogfen yn cael ei darparu,

(w)disgrifiad o unrhyw fanylebau technegol y disgwylir eu bodloni neu groesgyfeiriad i’r lle y gellir eu cyrchu,

(x)disgrifiad o unrhyw amodau cymryd rhan o dan adran 22 o Ddeddf 2023,

(y)unrhyw delerau talu (yn ogystal â’r rhai a nodir yn adran 68 o Ddeddf 2023),

(z)disgrifiad yn nodi unrhyw risg—

(i)y mae’r awdurdod contractio yn ystyried y gallai beri i’r contract cyhoeddus beidio â chael ei gyflawni’n foddhaol ond, oherwydd ei natur, y mae’n bosibl na fydd yn cael sylw yn y contract cyhoeddus fel y’i dyfernir, a

(ii)a all ei gwneud yn ofynnol addasu’r contract cyhoeddus yn ddiweddarach o dan baragraff 5 o Atodlen 8 i Ddeddf 2023 (addasu contract yn dilyn gwireddiad risg hysbys), ac

(z1)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “arwerthiant electronig” yw proses ailadroddol sy’n cynnwys defnyddio dulliau electronig er mwyn i gyflenwyr gyflwyno naill ai brisiau newydd, neu werthoedd newydd ar gyfer elfennau o’r tendr y mae modd eu meintioli nad ydynt yn ymwneud â phrisiau ac sy’n gysylltiedig â’r meini prawf gwerthuso, neu’r ddau, gan arwain at bennu safleoedd tendrau neu aildrefnu safleoedd tendrau mewn rhestr drefnol.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu fframwaith drwy weithdrefn agored (gweler yn hytrach reoliad 21).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources