- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
25.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad tendro ar gyfer contractau sydd o dan y trothwy, a gyhoeddir o dan adran 87(1) o Ddeddf 2023.
(2) Yr wybodaeth yw—
(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,
(b)enw’r caffaeliad,
(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,
(d)pan fo’r contract yn cael ei ddyfarnu drwy gyfeirio at farchnad ddynamig, y cod adnabod unigryw ar gyfer y farchnad ddynamig honno,
(e)pan fo’r contract i gael ei ddyfarnu o dan ran briodol o farchnad ddynamig, y rhif neilltuol a roddwyd i’r rhan honno gan yr awdurdod contractio,
(f)pwnc y contract,
(g)amcangyfrif o werth y contract,
(h)sut y caniateir cyflwyno tendrau a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid eu cyflwyno,
(i)a yw’r hysbysiad yn cael ei ddefnyddio i wahodd tendrau ar gyfer contract cyfundrefn arbennig ac, os felly, a yw’r contract hwnnw yn gontract cyffyrddiad ysgafn,
(j)a yw’r awdurdod contractio yn ystyried y gall y contract neu unrhyw lot sy’n ffurfio rhan o’r contract fod yn arbennig o addas i’w ddyfarnu—
(i)i fenter fach a chanolig ei maint, neu
(ii)i gorff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol,
(k)esboniad o’r meini prawf y bydd dyfarnu’r contract yn cael ei asesu yn eu herbyn, ac
(l)disgrifiad o unrhyw amodau cymryd rhan mewn perthynas â dyfarnu’r contract.
(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae i “hysbysiad tendro ar gyfer contractau sydd o dan y trothwy” yr ystyr a roddir i “below-threshold tender notice” gan adran 87(5) o Ddeddf 2023.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: