Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024

Diwygio Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

50.—(1Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 18 (caffael cyhoeddus)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “gwneud cytundeb perthnasol ar sail y cynnig mwyaf manteisiol yn economaidd” rhodder “dyfarnu contract cyhoeddus yn dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “cytundeb perthnasol” rhodder “contract cyhoeddus”;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “meini prawf”, “gweithdrefn dendro gystadleuol”, “awdurdod contractio” a “contract cyhoeddus” yr un ystyr ag a roddir i “award criteria”, “competitive tendering procedure”, “contracting authority” a “public contract” yn y drefn honno yn Neddf Caffael 2023.

(1)

O.S. 2011/1064 (Cy. 155). Diwygiwyd rheoliad 18 gan O.S. 2019/120, rheoliad 2.