4.—(1) Pan wneir atgyfeiriad at gymrodeddwr i benderfynu cais yn unol â rheoliad 3, caiff y cymrodeddwr orchymyn iʼr landlord gydymffurfio âʼr cais (naill ai yn llawn neu iʼr graddau a bennir yn y dyfarniad neuʼr penderfyniad) neu wneud unrhyw ddyfarniad arall neu unrhyw benderfyniad arall y maeʼr cymrodeddwr yn ystyried ei fod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord aʼr tenant.
(2) Fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1), caiff y cymrodeddwr gynnwys unrhyw ddyfarniadau neu unrhyw benderfyniadau y maeʼn ystyried eu bod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord aʼr tenant mewn cysylltiad ag—
(a)talu costau;
(b)pan wneir cais at ddibenion galluogiʼr tenant i ofyn am gymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am gymorth oʼr fath, amodau syʼn ymwneud â gwneud cais llwyddiannus;
(c)amodau syʼn cyfyngu ar allu tenant i wneud unrhyw atgyfeiriad dilynol am gymrodeddu o dan y Rhan hon mewn cysylltiad âʼr un cais ac mewn perthynas âʼr un denantiaeth;
(d)amodau syʼn ymwneud â materion eraill gan gynnwys yr adeg y maeʼr dyfarniad yn cymryd effaith.
(3) Ni chaiff y cymrodeddwr wneud unrhyw ddyfarniad nac unrhyw benderfyniad syʼn cynnwys amrywiad i rent y daliad fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).
(4) Ni chaiff y cymrodeddwr wneud unrhyw ddyfarniad nac unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad ag unrhyw ddigollediad syʼn daladwy iʼr landlord neuʼr tenant fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).
(5) Mae dyfarniad neu benderfyniad gan gymrodeddwr o dan y Rhan hon yn cael effaith fel pe baiʼr telerau aʼr darpariaethau a bennir ac a wneir yn y dyfarniad neuʼr penderfyniad wedi eu cynnwys mewn cytundeb ysgrifenedig yr ymrwymwyd iddo gan y landlord aʼr tenant ac syʼn cael effaith (drwy amrywioʼr cytundeb a oedd mewn grym yn flaenorol mewn cysylltiad âʼr denantiaeth) fel o’r adeg y gwnaed y dyfarniad neuʼr penderfyniad neu, os ywʼr dyfarniad neuʼr penderfyniad yn darparu hynny, o unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir.