xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Y DARPARIAETHAU TROSIANNOL MEWN CYSYLLTIAD Â DIDDYMU CCAUC

Hysbysiadau rhybuddio

31.—(1Mae hysbysiad rhybuddio a roddir gan CCAUC ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—

(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.

(2At ddibenion paragraff (1), mae hysbysiad rhybuddio mewn effaith os nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwnnw wedi dod i ben.

(3Ym mharagraff (2), ystyr y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau yw’r cyfnod a bennir—

(a)yn rheoliad 3 o Reoliadau 2015, neu

(b)yn achos hysbysiad rhybuddio a roddir mewn perthynas ag adran 38 o Ddeddf 2015, yn rheoliad 3 o Reoliadau 2015 fel y’i cymhwysir gan reoliad 5 o Reoliadau 2016.

(4Mae sylwadau a gyflwynir i CCAUC yn unol â’r rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) mewn perthynas â hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (1) yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024 fel pe baent yn sylwadau a gyflwynir i’r Comisiwn.

(5I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

(6Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad rhybuddio” yw hysbysiad rhybuddio fel y’i nodir yn adran 42 o Ddeddf 2015.