- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024—
(a)adran 6(1) (hybu gwaith ymchwil ac arloesi) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adran 23 (diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru);
(c)adran 50(1) i (3), (4)(b) ac (c), (7) ac (8) (fframweithiau sicrhau ansawdd);
(d)adran 86(2), (3) a (7) (cyllido’r Comisiwn: cyfyngiadau ar delerau ac amodau);
(e)adran 131(1), (2)(c) a (d), (4) a (5) (personau y mae’n ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn);
(f)adran 135(1), (2), (4) a (5) (gwybodaeth arall, cyngor arall a chanllawiau eraill);
(g)adran 136 (ymchwil gan y Comisiwn neu Weinidogion Cymru);
(h)adran 139(1), (2) a (4) (diddymu corfforaethau addysg uwch yng Nghymru);
(i)adran 140 (dyletswydd i ymgynghori â’r Comisiwn ynghylch gwasanaethau gyrfaoedd);
(j)yn Atodlen 1 (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)—
(i)paragraff 4 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ii)paragraff 6;
(iii)paragraff 8 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(iv)paragraff 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(v)paragraff 11 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(vi)paragraff 15 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(k)yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i)paragraff 2;
(ii)paragraff 3(1) a (2)(b);
(iii)paragraff 5;
(iv)paragraff 6(1), (2), (3)(e) ac (g), (5)(a) a (7);
(v)paragraff 7(1) i (3), (4)(a)(iii) a (iv) a (b);
(vi)paragraff 8(1), (3), (4) a (7);
(vii)paragraff 12(1), (2)(a)(ii) a (iii), (3) a (4);
(viii)paragraff 14(1), (24) a (26);
(ix)paragraff 15(1), (3) a (5);
(x)paragraff 18(1), (6), (8), (9)(a) ac (c) a (10) i (13);
(xi)paragraff 19(1) a (2)(a);
(xii)paragraff 20(2)(b);
(xiii)paragraff 22(1) a (3);
(xiv)paragraff 25(1) a (3);
(xv)paragraff 27;
(xvi)paragraff 28 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(xvii)paragraff 33(1), (2)(b) ac (e);
(xviii)paragraff 34;
(xix)paragraff 36;
(xx)paragraff 37;
(xxi)paragraff 38(1);
(xxii)paragraff 40;
(xxiii)paragraff 41.
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—
(a)adran 131(3)(a) i’r graddau y mae’n ymwneud â pherson a grybwyllir yn is-adran (2)(c) neu (d);
(b)adran 131(6) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 131(2)(a), (aa) (fel y’i mewnosodir gan erthygl 16 o’r Gorchymyn hwn), (b)(viii), (c) a (d);
(c)yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i)paragraff 6(3)(b) i’r graddau y mae’n hepgor adran 62(1), (3), (4) a (9) o Ddeddf 1992;
(ii)paragraff 6(3)(f) i’r graddau y mae’n hepgor adran 69(1) a (3) i (7) o Ddeddf 1992;
(iii)paragraff 6(6) i’r graddau y mae’n hepgor y cofnod ar gyfer “the HEFCW” yn adran 92 o Ddeddf 1992;
(iv)paragraff 31 i’r graddau y mae’n hepgor y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015—
(aa)adrannau 25, 49, 50(5) i (7), 51 a 53,
(bb)paragraffau 2, 5 a 7 i 26 yn Rhan 1 o’r Atodlen, ac
(cc)Rhan 2 o’r Atodlen;
(v)paragraff 33(2)(c) i’r graddau y mae’n hepgor y geiriau “a CCAUC” ac yn rhoi “a’r Comisiwn” yn ei le;
(vi)paragraff 33(2)(d) i’r graddau y mae’n hepgor y geiriau “a CCAUC” ac yn rhoi “a’r Comisiwn” yn ei le;
(vii)paragraff 38(2) i’r graddau y mae’n hepgor paragraffau 7, 8, 11, 17, 18(2), (3) a (5) i (7), 20, 25 a 26(3) o Atodlen 11 i Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017(1).
4.—(1) Daw adran 6(2) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i adran 105 o’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Mae adran 6(2) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai’r paragraffau a ganlyn wedi eu rhoi yn lle paragraffau (a) a (b)—
“(a)sefydliad addysg uwch o fewn yr ystyr a roddir i “higher education institution” gan adran 65(5) o Ddeddf 1992 sy’n cael cyllid gan y Comisiwn yn unol ag adran 65 o’r Ddeddf honno at ddibenion ymgymryd ag ymchwil, neu mewn cysylltiad â hynny;
(b)sefydliad cysylltiedig o fewn yr ystyr a roddir i “connected institution” gan adran 65(3B) o Ddeddf 1992, y mae corff llywodraethu sefydliad addysg uwch sy’n cael cyllid gan y Comisiwn yn unol ag adran 65 o’r Ddeddf honno yn cynnig talu iddo, gyda chydsyniad y Comisiwn, y cyfan neu unrhyw ran o’r cyllid hwnnw at ddibenion ymgymryd ag ymchwil, neu mewn cysylltiad â hynny.”
5.—(1) Daw adran 50(4)(a) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae adran 50(4)(a) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “darparwr cofrestredig” yn gyfeiriad at “sefydliad rheoleiddiedig”.
6.—(1) Daw adran 86(1), (5) a (6) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir ym mharagraff (2).
(2) Hyd nes y daw paragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym—
(a)mae adran 86(1) yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “adran 65 (gweinyddu cronfeydd gan y Comisiwn) o Ddeddf 1992,” wedi eu mewnosod ar ôl “i berson o dan”;
(b)mae adran 86(5) yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “adran 65 o Ddeddf 1992 neu” wedi eu mewnosod ar ôl “y Comisiwn o dan”;
(c)mae adran 86(6) yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “adran 65 o Ddeddf 1992 neu” wedi eu mewnosod ar ôl “y Comisiwn o dan”.
7.—(1) Daw adran 86(4) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i adran 105 o’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Mae adran 86(4) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “105 (ymchwil ac arloesi)” yn gyfeiriad at “65 (gweinyddu cronfeydd gan y Comisiwn) o Ddeddf 1992”.
8.—(1) Daw adran 131(2)(a) a (b)(viii) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae adran 131(2)(a) a (b), i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (viii), yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at “darparwr cofrestredig” yn gyfeiriadau at “sefydliad rheoleiddiedig”.
9.—(1) Daw adran 135(3) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae adran 135(3) yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at “darparwr cofrestredig” yn gyfeiriadau at “sefydliad rheoleiddiedig”.
10.—(1) Daw paragraff 32 o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2), sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â’r dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl mis Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2).
(2) Mae adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015(3) yn cael effaith mewn perthynas â’r Comisiwn fel pe bai’r is-adran a ganlyn wedi ei rhoi yn lle is-adran (6)—
“(6) Mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3)—
(a)yn dechrau â 1 Awst 2024, a
(b)yn dod i ben â’r dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl mis Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.”
11.—(1) Daw paragraff 12(2)(a)(i) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Mewn perthynas ag astudiaeth sydd ar y gweill yn union cyn 1 Awst 2024 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 145B(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4), pan mai CCAUC yw’r corff sydd wedi gofyn am yr astudiaeth, mae’r astudiaeth honno i’w thrin, ar ac ar ôl 1 Awst 2024, at ddibenion yr adran honno ac adran 145B(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, fel pe bai’r Comisiwn wedi gofyn amdani.
12.—(1) Daw paragraff 12(2)(b) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn union cyn 1 Awst 2024, i fod i ymateb i gais am gyngor a ddaeth i law oddi wrth CCAUC cyn y dyddiad hwnnw o dan adran 145B(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, mae’r cais hwnnw am gyngor i’w drin, ar ac ar ôl 1 Awst 2024, fel pe bai wedi ei wneud gan y Comisiwn.
13.—(1) Daw paragraff 14(27) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Mewn perthynas â gwarediad tir yng Nghymru gan ymddiriedolwyr cyn 1 Awst 2024, y mae adran 144 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(5) yn gymwys iddo—
(a)mae adran 144(4A) o’r Ddeddf honno yn cael effaith fel pe bai’r paragraff a ganlyn wedi ei roi yn lle paragraff (b)—
“(b)in the case of land in Wales, the Welsh Ministers.”,
a
(b)mae adran 144(9) o’r Ddeddf honno yn cael effaith fel pe bai’r paragraff a ganlyn wedi ei roi yn lle paragraff (b)—
“(b)the Welsh Ministers, in respect of land in Wales.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: