Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 5Y DARPARIAETHAU TROSIANNOL MEWN CYSYLLTIAD Â DIDDYMU CCAUC

Cyffredinol

28.—(1Mae unrhyw beth a wnaed (neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud) gan CCAUC, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran, cyn i adran 23 o’r Ddeddf ddod i rym, mewn cysylltiad â swyddogaeth CCAUC a wneir yn arferadwy gan y Comisiwn—

(a)yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, neu

(b)oherwydd bod darpariaeth o’r Ddeddf yn dod i rym yn rhinwedd y Gorchymyn hwn,

yn cael effaith, i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn parhau â’i effaith o pan ddaw adran 23 o’r Ddeddf i rym, fel pe bai wedi ei wneud gan y Comisiwn, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran.

(2Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd wrthi’n cael ei wneud gan CCAUC, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran, yn union cyn i adran 23 o’r Ddeddf ddod i rym, mewn cysylltiad â swyddogaeth CCAUC a wneir yn arferadwy gan y Comisiwn—

(a)yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, neu

(b)oherwydd bod darpariaeth o’r Ddeddf yn dod i rym yn rhinwedd y Gorchymyn hwn,

barhau i gael ei wneud gan y Comisiwn, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran o pan ddaw adran 23 o’r Ddeddf i rym.

(3Mae unrhyw ganllawiau, unrhyw wybodaeth, unrhyw gyngor neu unrhyw ddogfen arall a gymeradwyir, a roddir neu a wneir cyn i adran 23 o’r Ddeddf ddod i rym i gael effaith, i’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddibenion paragraffau (1) a (2), neu mewn cysylltiad â hwy, fel pe bai unrhyw gyfeiriadau at “CCAUC” (sut bynnag y’u mynegir) yn y canllawiau hynny, yr wybodaeth honno, y cyngor hwnnw neu’r ddogfen arall honno yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”.

(4Nid yw’r erthygl hon—

(a)yn gymwys mewn perthynas ag erthyglau 11 i 13, 30 i 42, 44 na 45;

(b)yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed (neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud) gan CCAUC, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran, cyn 1 Awst 2024.

Datganiad terfynol o gyfrifon CCAUC

29.—(1Rhaid i’r Comisiwn lunio datganiad o gyfrifon ar gyfer CCAUC mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Ebrill 2023 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2024 (“datganiad o gyfrifon CCAUC”).

(2Rhaid i ddatganiad o gyfrifon CCAUC gael ei lunio yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru i’r Comisiwn, y caniateir iddynt wneud darpariaeth ynghylch—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,

(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno,

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy, neu

(d)gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r datganiad.

(3Rhaid i’r Comisiwn gyflwyno datganiad o gyfrifon CCAUC i Weinidogion Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru erbyn 30 Tachwedd 2024.

(4Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio datganiad o gyfrifon CCAUC, ei ardystio ac adrodd arno a gosod copi o’r adroddiad a’r datganiad hwnnw gerbron Senedd Cymru.

Cynlluniau ffioedd a mynediad

30.—(1Mae cynllun ffioedd a mynediad o fewn paragraff (2)—

(a)yn parhau mewn grym ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei gymeradwyo gan y Comisiwn.

(2Mae cynllun ffioedd a mynediad o fewn y paragraff hwn—

(a)os yw wedi cael ei gymeradwyo gan CCAUC o dan adran 7 o Ddeddf 2015, a

(b)os yw mewn grym, yn union cyn 1 Awst 2024, at ddibenion adran 7(4) o Ddeddf 2015.

(3At ddibenion paragraff (2)(a), mae cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan CCAUC yn cynnwys cynllun ffioedd a mynediad sy’n ddarostyngedig i amrywiad a gymeradwywyd gan CCAUC o dan adran 9 o Ddeddf 2015.

(4I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cynllun ffioedd a mynediad o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

Hysbysiadau rhybuddio

31.—(1Mae hysbysiad rhybuddio a roddir gan CCAUC ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—

(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.

(2At ddibenion paragraff (1), mae hysbysiad rhybuddio mewn effaith os nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwnnw wedi dod i ben.

(3Ym mharagraff (2), ystyr y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau yw’r cyfnod a bennir—

(a)yn rheoliad 3 o Reoliadau 2015, neu

(b)yn achos hysbysiad rhybuddio a roddir mewn perthynas ag adran 38 o Ddeddf 2015, yn rheoliad 3 o Reoliadau 2015 fel y’i cymhwysir gan reoliad 5 o Reoliadau 2016.

(4Mae sylwadau a gyflwynir i CCAUC yn unol â’r rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) mewn perthynas â hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (1) yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024 fel pe baent yn sylwadau a gyflwynir i’r Comisiwn.

(5I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

(6Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad rhybuddio” yw hysbysiad rhybuddio fel y’i nodir yn adran 42 o Ddeddf 2015.

Cyfarwyddydau CCAUC nad ydynt mewn grym

32.—(1Mae cyfarwyddyd o fewn paragraff (2) a roddir gan CCAUC cyn 1 Awst 2024 ac y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—

(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.

(2Mae cyfarwyddyd o fewn y paragraff hwn yn gyfarwyddyd a roddir i gorff llywodraethu sefydliad o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015

(a)adran 11;

(b)adran 13;

(c)adran 19;

(d)adran 33.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir i gorff llywodraethu sefydliad pan, yn union cyn 1 Awst 2024—

(a)na fo’r corff llywodraethu hwnnw wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd ac na fo’r cyfnod amser ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu

(b)bo’r corff llywodraethu hwnnw wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—

(i)na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu

(ii)bo’r adolygiad wedi gorffen ond na fo CCAUC wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod y cyfarwyddyd yn cael effaith.

(4Ym mharagraff (3)(a), ystyr hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015.

(5Nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar y modd y caiff cyfarwyddyd ei drin at ddibenion Rheoliadau 2015 fel y’i nodir yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny.

(6I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cyfarwyddyd o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

Adolygiadau

33.—(1Mae adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan adran 44 o Ddeddf 2015 yn union cyn 1 Awst 2024 yn parhau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 fel pe bai’r cyfarwyddyd neu’r hysbysiad sy’n destun yr adolygiad yn gyfarwyddyd neu’n hysbysiad gan y Comisiwn.

(2At ddibenion paragraff (1) nid yw adolygiad yn cael ei gynnal os yw’r panel adolygu, cyn 1 Awst 2024, wedi anfon copi o’i adroddiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 9(8)(g) o Reoliadau 2015.

Cyfarwyddydau CCAUC sydd mewn grym

34.—(1Mae cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau o Ddeddf 2015 y cyfeirir atynt yn erthygl 32(2) ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—

(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.

(2At ddibenion paragraff (1), mae cyfarwyddyd mewn effaith—

(a)os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd,

(b)os na all corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod amser ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu

(c)os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo wedi cael ei hysbysu yn ysgrifenedig gan CCAUC fod y cyfarwyddyd yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r cyfarwyddyd hwnnw orffen.

(3Mae cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC i gorff llywodraethu o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau o Ddeddf 2015 y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—

(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.

(4Yr adrannau o Ddeddf 2015 yw—

(a)adran 16;

(b)adran 21;

(c)adran 35.

(5At ddibenion paragraffau (1) a (3), o ran cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC—

(a)mae’n cynnwys cyfarwyddyd sydd wedi ei amrywio gan CCAUC cyn 1 Awst 2024 o dan adran 46(b) o Ddeddf 2015;

(b)mae mewn effaith i’r graddau nad yw CCAUC wedi rhoi hysbysiad, o dan adran 45(3) o Ddeddf 2015, i’r corff llywodraethu sy’n cael y cyfarwyddyd, sy’n datgan bod CCAUC wedi ei fodloni bod y corff—

(i)wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd, neu

(ii)wedi cydymffurfio â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd;

(c)nid yw mewn effaith os yw CCAUC wedi dirymu’r cyfarwyddyd o dan adran 46(b) o Ddeddf 2015.

(6I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cyfarwyddyd o fewn paragraff (1) neu (3) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

Cyfarwyddydau gan Weinidogion Cymru o dan adran 28(4) o Ddeddf 2015

35.—(1Mae cyfarwyddyd a roddir o dan adran 28(4) o Ddeddf 2015 gan Weinidogion Cymru i CCAUC ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—

(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan Weinidogion Cymru i’r Comisiwn.

(2At ddibenion paragraff (1), mae cyfarwyddyd mewn effaith—

(a)os yw’r cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd yn dechrau cyn 1 Awst 2024 ac yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, a

(b)os nad yw wedi cael ei ddirymu gan gyfarwyddyd dilynol a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 56(b) o Ddeddf 2015.

(3I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cyfarwyddyd o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

Cod rheolaeth ariannol

36.—(1Mae cod rheolaeth ariannol y mae paragraff (2) yn gymwys iddo ac sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024—

(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai—

(i)wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru a Senedd Cymru o dan adran 30 o Ddeddf 2015, a

(ii)wedi ei gyhoeddi gan y Comisiwn o dan adran 30(7) o Ddeddf 2015.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i god rheolaeth ariannol sydd—

(a)wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru a Senedd Cymru o dan adran 30 o Ddeddf 2015, a

(b)wedi cael ei gyhoeddi gan CCAUC o dan adran 30(7) o Ddeddf 2015.

(3I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cod rheolaeth ariannol o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

Hysbysiadau CCAUC nad ydynt mewn grym

37.—(1Mae hysbysiad o fewn paragraff (2) a roddir gan CCAUC cyn 1 Awst 2024 ac y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—

(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.

(2Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn yn hysbysiad a roddir i gorff llywodraethu sefydliad o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015—

(a)adran 37;

(b)adran 38;

(c)adran 39.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys i hysbysiad a roddir i gorff llywodraethu sefydliad—

(a)pan na fo’r corff llywodraethu hwnnw wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig, yn union cyn 1 Awst 2024, ei fod yn derbyn yr hysbysiad ac na fo’r cyfnod amser ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu

(b)pan fo’r corff llywodraethu hwnnw, yn union cyn 1 Awst 2024, wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—

(i)na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu

(ii)bo’r adolygiad wedi gorffen ond na fo CCAUC wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod yr hysbysiad yn cael effaith.

(4Ym mharagraff (3)(a), ystyr hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015.

(5Nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar y modd y caiff hysbysiad ei drin at ddibenion Rheoliadau 2015 fel y’i nodir yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny.

(6I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn hysbysiad o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

Hysbysiadau CCAUC sydd mewn grym

38.—(1Mae hysbysiad a roddir gan CCAUC o dan adran o Ddeddf 2015 y cyfeirir ati yn erthygl 37(2) ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—

(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.

(2At ddibenion paragraff (1), mae hysbysiad mewn effaith—

(a)os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn yr hysbysiad,

(b)os na all corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod amser ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu

(c)os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi cael ei hysbysu yn ysgrifenedig gan CCAUC fod yr hysbysiad yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r hysbysiad orffen.

(3At ddibenion paragraff (1), nid yw hysbysiad a roddir gan CCAUC o dan adran 37 o Ddeddf 2015 mewn effaith—

(a)os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad wedi dod i ben;

(b)os yw CCAUC wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl o dan adran 37(6) o Ddeddf 2015.

(4I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn hysbysiad o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

Hysbysiadau CCAUC o dan adran 45(3) o Ddeddf 2015

39.  Mae hysbysiad a roddir o dan adran 45(3) o Ddeddf 2015 gan CCAUC, sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024—

(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.

Canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru

40.  I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru”, mewn unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Deddf 2015 sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024, yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024 fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

41.  Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru i CCAUC o dan adran 49 o Ddeddf 2015 ac sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024 yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024 fel pe bai wedi cael ei roi gan Weinidogion Cymru i’r Comisiwn o dan adran 20 o’r Ddeddf.

Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd

42.—(1Mae datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd, sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024—

(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a

(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei lunio a’i gyhoeddi gan y Comisiwn o dan adran 52 o Ddeddf 2015.

(2I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd” yw datganiad a gyhoeddir o dan adran 52 o Ddeddf 2015.

Y darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

43.  O ran ei gymhwyso i’r Comisiwn, mae paragraff (a) o adran 9(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael effaith fel pe bai’r paragraff a ganlyn wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—

(a)heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2025, a.

Y darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â Rheoliadau 2015

44.—(1Pan fo cyfarwyddyd o dan adran 11 o Ddeddf 2015 yn cael ei gyhoeddi ar wefan CCAUC, yn unol â rheoliad 11(1)(b) o Reoliadau 2015, yn union cyn 1 Awst 2024, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi copi o’r cyfarwyddyd hwnnw ar ei wefan.

(2Mae cyhoeddi’r cyfarwyddyd gan y Comisiwn o dan baragraff (1) yn cael effaith fel cyhoeddi yn unol â rheoliad 11(1)(b) o Reoliadau 2015 at ddibenion rheoliad 11(2) o’r Rheoliadau hynny.

Y darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â Rheoliadau 2016

45.—(1Pan fo hysbysiad a roddir o dan adran 37, 38 neu 39 o Ddeddf 2015 yn cael ei gyhoeddi ar wefan CCAUC, yn unol â rheoliad 7(b) o Reoliadau 2016, yn union cyn 1 Awst 2024, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi copi o’r hysbysiad hwnnw ar ei wefan.

(2Mae cyhoeddi’r hysbysiad gan y Comisiwn o dan baragraff (1) yn cael effaith fel cyhoeddi yn unol â rheoliad 7(b) o Reoliadau 2016 at ddibenion rheoliadau 9 a 10 o’r Rheoliadau hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources