Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
24 Ionawr 2024
Yn dod i rym
15 Gorffennaf 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 34(1) a 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (“y Ddeddf”)(1) a pharagraff 9 o Atodlen 1 iddi.
Ymgynghorwyd â’r cyhoedd mewn modd agored a thryloyw wrth lunio’r Rheoliadau hyn yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2).
Yn unol ag adran 50(6) o’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
EUR 2002/178, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.