Search Legislation

Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amrywiad drafft” (“draft variation”) yw amrywiad drafft i gytundeb partneriaeth;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

(a)

mewn perthynas â henebion cofrestredig a thir cysylltiedig yng Nghymru—

(i)

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, a

(ii)

awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(b)

mewn perthynas â thir cysylltiedig yn Lloegr, cyngor sir neu gyngor dosbarth yn Lloegr;

ystyr “cytundeb drafft” (“draft agreement”) yw cytundeb partneriaeth drafft;

ystyr “cytundeb partneriaeth” (“partnership agreement”) yw cytundeb y mae Gweinidogion Cymru yn ymrwymo iddo o dan adran 25(1) o Ddeddf 2023;

ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;

ystyr “heneb gofrestredig” (“scheduled monument”) yw heneb sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o henebion a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan adran 3 o Ddeddf 2023;

ystyr “perchennog” (“owner”) yw—

(a)

perchennog ar yr ystâd rydd-ddaliadol, neu

(b)

tenant o dan les a roddir neu a estynir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill;

mae i “tir cysylltiedig” (“associated land”) yr ystyr a roddir gan adran 25(1)(b) o Ddeddf 2023.

Back to top

Options/Help