- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
25.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd yn ofynnol i awdurdod cynllunio gyhoeddi hysbysiad o orchymyn a wneir o dan adran 107 o Ddeddf 2023 (addasu a dirymu cydsyniad).
(2) At ddibenion paragraff 3(2) o Atodlen 8 i Ddeddf 2023 (y weithdrefn ar gyfer gorchmynion sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig), y ffordd y mae rhaid i awdurdod cynllunio gyhoeddi’r hysbysiad hwnnw yw mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol y mae’r adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef ynddi.
26.—(1) Y gyfradd llog a bennir at ddiben adran 146(1) o Ddeddf 2023 (adennill costau gwaith diogelu) yw 2% y flwyddyn yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” ar gyfer unrhyw ddiwrnod penodol yw—
(a)os yw gorchymyn o dan adran 19 o Ddeddf Banc Lloegr 1998(1) mewn grym, unrhyw gyfradd sy’n cyfateb i’r gyfradd a ddisgrifir yn is-baragraff (b), neu os nad oes unrhyw gyfradd,
(b)y gyfradd a gyhoeddwyd fel y gyfradd fasnachu swyddogol yng nghyfarfod Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr a gynhaliwyd ddiwethaf cyn y diwrnod hwnnw.
27. Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol.
28. Mae Atodlen 5 yn cynnwys dirymiadau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: