xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Hysbysebu gorchymyn dirymu neu orchymyn addasu diwrthwynebiad

25.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd yn ofynnol i awdurdod cynllunio gyhoeddi hysbysiad o orchymyn a wneir o dan adran 107 o Ddeddf 2023 (addasu a dirymu cydsyniad).

(2At ddibenion paragraff 3(2) o Atodlen 8 i Ddeddf 2023 (y weithdrefn ar gyfer gorchmynion sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig), y ffordd y mae rhaid i awdurdod cynllunio gyhoeddi’r hysbysiad hwnnw yw mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol y mae’r adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef ynddi.

Cyfradd llog ar dreuliau ar gyfer gwaith brys

26.—(1Y gyfradd llog a bennir at ddiben adran 146(1) o Ddeddf 2023 (adennill costau gwaith diogelu) yw 2% y flwyddyn yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” ar gyfer unrhyw ddiwrnod penodol yw—

(a)os yw gorchymyn o dan adran 19 o Ddeddf Banc Lloegr 1998(1) mewn grym, unrhyw gyfradd sy’n cyfateb i’r gyfradd a ddisgrifir yn is-baragraff (b), neu os nad oes unrhyw gyfradd,

(b)y gyfradd a gyhoeddwyd fel y gyfradd fasnachu swyddogol yng nghyfarfod Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr a gynhaliwyd ddiwethaf cyn y diwrnod hwnnw.

Diwygiadau canlyniadol

27.  Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol.

Dirymu

28.  Mae Atodlen 5 yn cynnwys dirymiadau.