Datgymhwyso’r gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru am geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig
11. Nid yw adran 95(1) o Ddeddf 2023 (hysbysu Gweinidogion Cymru cyn rhoi cydsyniad) yn gymwys i geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig i gyflawni gwaith nad yw ond yn effeithio ar y tu mewn i adeilad a ddosberthir yn adeilad rhestredig Gradd II (heb seren).