RHAN 3ACHOSION ARBENNIG
Cais am gydsyniad adeilad rhestredig mewn cysylltiad â thir y Goron21.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig mewn cysylltiad â thir y Goron.
(2)
Caniateir i’r canlynol ddod gyda chais—
(a)
datganiad bod y cais yn cael ei wneud mewn cysylltiad â thir y Goron, a
(b)
copi o’r awdurdodiad gan awdurdod priodol y Goron i wneud y cais.
(3)
Os bydd datganiad ac awdurdodiad, fel y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), yn dod gyda chais—
(a)
nid yw rheoliad 5 (hysbysiad o gais i berchnogion) yn gymwys;
(b)
nid yw rheoliad 6 (y dystysgrif sydd i’w chynnwys gyda chais) yn gymwys;
(c)
mae rheoliad 7(2) (cydnabod cais) yn gymwys fel pe bai’r geiriau “y datganiad a’r awdurdodiad y cyfeirir atynt yn rheoliad 21” wedi eu rhoi yn lle is-baragraff (c).
(4)
Yn y rheoliad hwn—
mae i “awdurdod priodol y Goron” (“appropriate Crown authority”) yr ystyr a roddir gan adran 207(6) o Ddeddf 2023;
mae i “tir y Goron” (“Crown land”) yr ystyr a roddir gan adran 207(2) o Ddeddf 2023.