ATODLEN 1Hysbysiad i’r Ceisydd ar ôl Cael Cais
1.
Daeth eich cais dyddiedig ………………rhowch y dyddiad
i law ar …………………………..rhowch y dyddiad
*[Nid ydym wedi cwblhau ein harchwiliad o ffurf y cais a’r planiau a’r dogfennau cysylltiedig eto er mwyn penderfynu a yw eich cais yn cydymffurfio â’r gofynion statudol. Os byddwn yn penderfynu, yn dilyn archwiliad pellach, fod y cais yn annilys am fethu â chydymffurfio â gofynion o’r fath, byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig cyn gynted â phosibl.]
*dilëwch os nad yw’n briodol
2.
Os, erbyn ……………………….…………………….
rhowch ddyddiad o 8 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r cais, y dystysgrif a’r datganiad o’r effaith ar dreftadaeth i law
(a)
nad ydych wedi cael hysbysiad gan yr awdurdod hwn—
(i)
bod eich cais yn annilys;
(ii)
o’n penderfyniad;
(iii)
bod eich cais wedi cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu, neu
(b)
nad ydym wedi cytuno â chi yn ysgrifenedig y byddwn yn estyn y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i ni roi ein penderfyniad, fe gewch apelio.
3.
Mae’r hawl i apelio, a’r weithdrefn ar gyfer apelio, yn adrannau 100 i 102 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
4.
Rhaid i chi gyflwyno unrhyw apêl ar ffurflen y gallwch ei chael gan Weinidogion Cymru.
5.
Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad sy’n gwrthod y cais neu sy’n ei ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i chi gyflwyno unrhyw apêl yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â/ag ……...…………………………………….
rhowch ddyddiad o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad