ATODLEN 4Diwygiadau canlyniadol

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017

15.

Yn rheoliad 3(1)—

(a)

hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 2012”;

(b)

ar ôl y diffiniad o “Rheoliadau 2015” mewnosoder—

“ystyr “Rheoliadau 2024” (“the 2024 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024;”;

(c)

yn y diffiniad o “datganiad achos llawn”, yn lle paragraff (a)(ii) rhodder—

“(ii)

rheoliad 2(1) o Reoliadau 2024;”;

(d)

yn y diffiniad o “cais atgyfeiriedig”, yn lle “cais y bernir ei fod wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(3) o Reoliadau 2012” rhodder “cais gan awdurdod cynllunio lleol a wneir o dan reoliad 19(2) o Reoliadau 2024”.