Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025
2025 Rhif 59 (Cy. 17)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 a pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1B iddi.
Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.