Search Legislation

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

Newidiadau dros amser i: Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

RHAN 1LL+CY CYNGOR PARTNERIAETH GYMDEITHASOL

Ei sefydlu a’i ddibenLL+C

1Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol CymruLL+C

(1)Sefydlir Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru (“CPG”).

(2)At ddibenion gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) yng Nghymru, caiff yr CPG ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag—

(a)y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol y mae’r Ddeddf hon yn eu gosod ar gyrff cyhoeddus ac ar Weinidogion Cymru (gweler Rhan 2);

(b)ymgyrraedd at nod llesiant “Cymru lewyrchus” gan gyrff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan DLlCD 2015 (gweler Rhan 2);

(c)y swyddogaethau a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 (caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol).

(3)Caiff yr CPG ddarparu gwybodaeth neu gyngor ar fater y cyfeirir ato yn is-adran (2) ohono’i hun neu mewn ymateb i gais a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Pan fo’r CPG yn cael cais gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3), rhaid i’r CPG ddarparu’r wybodaeth neu’r cyngor cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I2A. 1 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(a)

2Aelodaeth Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol CymruLL+C

(1)Mae’r CPG i gynnwys yr aelodau a ganlyn—

(a)aelodau o Lywodraeth Cymru (“aelodau Llywodraeth Cymru”),

(b)9 cynrychiolydd cyflogwyr yng Nghymru (“cynrychiolwyr cyflogwyr”), ac

(c)9 cynrychiolydd gweithwyr yng Nghymru (“cynrychiolwyr gweithwyr”).

(2)Mae aelodau Llywodraeth Cymru i gynnwys y Prif Weinidog a, phan wahoddir hwy gan y Prif Weinidog o bryd i’w gilydd—

(a)unrhyw un neu ragor o Weinidogion eraill Cymru;

(b)unrhyw un neu ragor o Ddirprwy Weinidogion Cymru;

(c)y Cwnsler Cyffredinol;

(d)unrhyw aelod o staff Llywodraeth Cymru.

(3)Rhaid i’r Prif Weinidog benodi pob cynrychiolydd cyflogwyr a phob cynrychiolydd gweithwyr (gyda’i gilydd, “aelodau penodedig”).

(4)Rhaid i’r Prif Weinidog gymryd pob cam rhesymol i benodi’r 9 cynrychiolydd cyflogwyr cychwynnol a’r 9 cynrychiolydd gweithwyr cychwynnol o fewn 6 mis gan ddechrau â thrannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym.

(5)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriad at “Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru” neu “CPG” yn gyfeiriad at aelodau’r CPG yn gweithredu ar y cyd; yn unol â hynny, mae swyddogaeth a fynegir fel un o swyddogaethau’r CPG yn swyddogaeth i bob aelod na chaniateir ei harfer ond ar y cyd â’r aelodau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I4A. 2 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(b)

3Cynrychiolwyr cyflogwyrLL+C

Mae’r cynrychiolwyr cyflogwyr i gynnwys unigolion y mae’r Prif Weinidog yn ystyried eu bod yn cynrychioli cyflogwyr cyrff cyhoeddus, cyflogwyr sector preifat, cyflogwyr sefydliadau gwirfoddol, cyflogwyr addysg uwch a chyflogwyr addysg bellach.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I6A. 3 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(c)

4Cynrychiolwyr gweithwyrLL+C

Mae’r cynrychiolwyr gweithwyr i gynnwys unigolion y mae’r Prif Weinidog yn ystyried eu bod yn cynrychioli staff sy’n gweithio i bob categori o gyflogwr y cyfeirir ato yn adran 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I8A. 4 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(d)

5Enwebu aelodau penodedigLL+C

(1)Cyn penodi cynrychiolwyr cyflogwyr, rhaid i’r Prif Weinidog geisio enwebiadau gan bersonau neu gyrff y mae’r Prif Weinidog yn ystyried eu bod yn cynrychioli barn y categorïau o gyflogwr y cyfeirir atynt yn adran 3.

(2)Cyn penodi cynrychiolwyr gweithwyr, rhaid i’r Prif Weinidog geisio enwebiadau gan y corff sy’n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru a adnabyddir fel Wales TUC Cymru.

(3)Wrth benodi cynrychiolwyr cyflogwyr, rhaid i’r Prif Weinidog roi sylw i unrhyw enwebiadau a wnaed o dan is-adran (1).

(4)Wrth benodi cynrychiolwyr gweithwyr, ni chaiff y Prif Weinidog ond penodi unigolion sydd wedi eu henwebu o dan is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I10A. 5 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(e)

6Cyfnod penodiadauLL+C

(1)Penodir aelodau penodedig am 3 blynedd oni bai—

(a)bod y Prif Weinidog yn terfynu’r penodiad drwy hysbysu’r aelod yn ysgrifenedig, neu

(b)bod yr aelod penodedig yn ymddiswyddo drwy hysbysu’r Prif Weinidog yn ysgrifenedig.

(2)Rhaid i’r Prif Weinidog lenwi unrhyw swyddi gwag cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I12A. 6 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(f)

Ei weithredu a’i weinydduLL+C

7Cyfarfodydd, gweithdrefnau a chymorth gweinyddolLL+C

(1)Rhaid i’r CPG gyfarfod o leiaf 3 gwaith ym mhob cyfnod o 12 mis sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y gwnaeth y Prif Weinidog yr holl benodiadau cychwynnol a grybwyllir yn adran 2.

(2)Pan fo hynny’n bosibl, rhaid i’r Prif Weinidog gadeirio cyfarfodydd yr CPG.

(3)Pan na fo’n bosibl i’r Prif Weinidog gadeirio cyfarfod, rhaid i un o Weinidogion Cymru neu un o Ddirprwy Weinidogion Cymru a enwebwyd gan y Prif Weinidog gadeirio’r cyfarfod.

(4)O fewn 6 mis gan ddechrau â thrannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym, rhaid i Weinidogion Cymru bennu a chyhoeddi—

(a)y cworwm ar gyfer cyfarfodydd yr CPG, a

(b)y gweithdrefnau i’w dilyn gan yr CPG, i’r graddau nad ydynt wedi eu pennu yn y Ddeddf hon.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â’r CPG, ddiwygio unrhyw beth a bennir o dan is-adran (4) a rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau o’r fath.

(6)Rhaid i weithdrefnau’r CPG gynnwys—

(a)y gweithdrefnau ar gyfer trefnu cyfarfodydd gan gynnwys y rhybudd sydd i’w roi i’r mynychwyr a sut y caiff mynychwyr ychwanegu eitemau at agenda cyfarfodydd;

(b)y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r CPG;

(c)y gweithdrefnau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru beri bod cymorth gweinyddol ar gael i’r CPG.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I14A. 7 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(g)

8Is-grwpiauLL+C

(1)Caiff yr CPG sefydlu is-grwpiau.

(2)Caiff is-grŵp—

(a)cyflawni unrhyw swyddogaeth a ddirprwyir iddo gan yr CPG;

(b)cynorthwyo’r CPG i gyflawni ei swyddogaethau mewn unrhyw ffyrdd a bennir gan yr CPG.

(3)O ran is-grŵp—

(a)rhaid i aelod o’r CPG ei gadeirio, a

(b)caiff gynnwys aelodau eraill o’r CPG ac unigolion eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I16A. 8 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(h)

Rhagolygol

9Is-grŵp caffael cyhoeddusLL+C

(1)Rhaid i’r CPG gymryd pob cam rhesymol i sefydlu is-grŵp caffael cyhoeddus o fewn 6 mis gan ddechrau drannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym.

(2)O fewn 6 mis gan ddechrau â thrannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym, rhaid i Weinidogion Cymru bennu a chyhoeddi—

(a)y cworwm ar gyfer cyfarfodydd yr is-grŵp caffael cyhoeddus, a

(b)y gweithdrefnau i’w dilyn gan yr is-grŵp caffael cyhoeddus, i’r graddau nad ydynt wedi eu pennu yn y Ddeddf hon.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio unrhyw beth a bennir o dan is-adran (2) a rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau o’r fath.

(4)Rhaid i weithdrefnau’r is-grŵp caffael cyhoeddus gynnwys—

(a)y gweithdrefnau ar gyfer trefnu cyfarfodydd gan gynnwys y rhybudd sydd i’w roi i’r mynychwyr a sut y caiff mynychwyr ychwanegu eitemau at agenda cyfarfodydd;

(b)y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r is-grŵp;

(c)y gweithdrefnau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor i’r CPG a Gweinidogion Cymru.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch cyfansoddiad yr is-grŵp caffael cyhoeddus (gan gynnwys at ddiben sicrhau aelodaeth sydd â chynrychiolaeth briodol), a rhaid i’r CPG roi sylw i’r canllawiau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

Rhagolygol

10Darparu gwybodaeth a chyngor i’r CPG gan yr is-grŵp caffael cyhoeddusLL+C

(1)Caiff yr is-grŵp caffael cyhoeddus ddarparu gwybodaeth a chyngor i’r CPG ynghylch y swyddogaethau a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 (caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol).

(2)Caiff yr CPG—

(a)darparu i Weinidogion Cymru wybodaeth neu gyngor a gafwyd oddi wrth yr is-grŵp caffael cyhoeddus, neu

(b)diwygio gwybodaeth neu gyngor o’r fath a darparu’r wybodaeth neu’r cyngor fel y’i diwygiwyd i Weinidogion Cymru.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth neu gyngor gan yr CPG ynghylch mater y cyfeirir ato yn is-adran (1), rhaid i’r CPG—

(a)ceisio’r wybodaeth honno neu’r cyngor hwnnw gan yr is-grŵp caffael cyhoeddus, a

(b)darparu’r wybodaeth neu’r cyngor, neu ddiwygio’r wybodaeth neu’r cyngor a’i darparu neu ei ddarparu fel y’i diwygiwyd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â’r is-grŵp caffael cyhoeddus o dan adran 30(2)(d) neu 36(2)(d), rhaid i’r is-grŵp caffael ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a chyngor y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Os nad oes is-grŵp caffael cyhoeddus wedi ei sefydlu eto o dan adran 9(1), caiff yr CPG serch hynny ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru ynghylch mater y cyfeirir ato yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

11Cyfarfod o bellLL+C

Caiff yr CPG neu is-grŵp gynnal cyfarfod drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I20A. 11 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(i)

12TreuliauLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru dalu treuliau—

(a)cynrychiolydd cyflogwyr;

(b)cynrychiolydd gweithwyr;

(c)aelod o is-grŵp.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I22A. 12 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(j)

13Pwerau atodolLL+C

Caiff yr CPG wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau neu swyddogaethau is-grŵp, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I24A. 13 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(k)

DehongliLL+C

14Dehongli Rhan 1LL+C

Yn y Rhan hon—

  • mae i “cyflogwr” yr un ystyr ag “employer” yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18);

  • ystyr “cyflogwr addysg bellach” (“further education employer”) yw cyflogwr yn y sector addysg bellach o fewn ystyr adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13);

  • ystyr “cyflogwr addysg uwch” (“higher education employer”) yw cyflogwr yn y sector addysg uwch o fewn ystyr adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

  • ystyr “cyflogwr corff cyhoeddus” (“public body employer”) yw cyflogwr sy’n un o’r personau a restrir fel “corff cyhoeddus” yn adran 6(1) o DLlCD 2015, heblaw am Weinidogion Cymru;

  • ystyr “cyflogwr sector preifat” (“private sector employer”) yw cyflogwr nad yw—

    (a)

    yn gorff, yn swydd neu’n ddeiliad swydd y mae ei swyddogaethau’n gyfan gwbl neu’n bennaf o natur gyhoeddus,

    (b)

    yn gyflogwr sefydliad gwirfoddol,

    (c)

    yn gyflogwr addysg bellach, na

    (d)

    yn gyflogwr addysg uwch;

  • ystyr “cyflogwr sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation employer”) yw cyflogwr sy’n sefydliad gwirfoddol perthnasol o fewn ystyr “relevant voluntary organisations” yn adran 74(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

  • ystyr “un o Ddirprwy Weinidogion Cymru” (“Deputy Welsh Minister”) yw person sy’n dal swydd o dan adran 50 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I26A. 14 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(l)

Rhagolygol

RHAN 2LL+CPARTNERIAETH GYMDEITHASOL A DATBLYGU CYNALIADWY

15Trosolwg o’r Rhan a dehongliLL+C

(1)At ddibenion gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) yng Nghymru, mae’r Rhan hon—

(a)yn gosod dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol newydd fel rhan o’r ddyletswydd llesiant yn adran 3(1) o DLlCD 2015;

(b)yn diwygio’r nod llesiant “Cymru lewyrchus” y mae cyrff cyhoeddus i ymgyrraedd ato wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan DLlCD 2015 fel bod sicrhau gwaith teg yn rhan o’r disgrifiad o’r nod.

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae i “datblygu cynaliadwy” yr ystyr a roddir gan adran 2 o DLlCD 2015.

(3)Yn y Rhan hon, ystyr “corff cyhoeddus” yw person a restrir fel “corff cyhoeddus” yn adran 6(1) o DLlCD 2015, ond at ddibenion adrannau 16 a 18 nid yw’n cynnwys Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

16Dyletswydd partneriaeth gymdeithasolLL+C

(1)Wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy, rhaid i gorff cyhoeddus, i’r graddau y bo’n rhesymol, geisio consensws neu gyfaddawd â’i undebau llafur cydnabyddedig neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill ei staff ar—

(a)yr amcanion llesiant sydd i’w gosod o dan adran 3(2)(a) o DLlCD 2015;

(b)gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y mae’r corff yn eu cymryd (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny o dan adran 3(2)(b) o DLlCD 2015.

(2)At ddibenion is-adran (1), er mwyn ceisio consensws neu gyfaddawd rhaid i gorff cyhoeddus gynnwys ei undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr eraill ei staff yn y broses o bennu amcanion neu wneud penderfyniadau, drwy (yn benodol)—

(a)ymgynghori â hwy yng nghyfnod ffurfiannol y broses, a

(b)eu cynnwys fel arall drwy gydol y broses drwy—

(i)darparu gwybodaeth ddigonol i’w galluogi i ystyried yn briodol yr hyn sy’n cael ei gynnig, a

(ii)darparu amser digonol i’w galluogi i ystyried yn ddigonol yr hyn sy’n cael ei gynnig ac ymateb.

(3)Wrth ystyried beth sy’n rhesymol o dan is-adran (1) rhaid i gorff cyhoeddus gymryd i ystyriaeth ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r CPG cyn cyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

17Dyletswydd partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion CymruLL+C

Wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn eu cymryd (wrth arfer eu swyddogaethau) o dan adran 3(2)(b) o DLlCD 2015 (i gyflawni’r amcanion a osodir o dan adran 3(2)(a) o DLlCD 2015), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r CPG.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

18Adroddiadau partneriaeth gymdeithasolLL+C

(1)Rhaid i gorff cyhoeddus lunio, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ynglŷn â’r hyn y mae wedi ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir o dan adran 16.

(2)Rhaid cytuno ar yr adroddiad gydag undebau llafur cydnabyddedig y corff cyhoeddus neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill ei staff, neu rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno.

(3)Rhaid i’r corff cyhoeddus gyhoeddi’r adroddiad, a’i gyflwyno i’r CPG, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

19Adroddiadau partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion CymruLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ynglŷn â’r hyn y maent wedi ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir o dan adran 17.

(2)Rhaid cytuno ar yr adroddiad gyda’r CPG neu rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol—

(a)cyhoeddi’r adroddiad, a’i gyflwyno i’r CPG;

(b)gosod yr adroddiad gerbron y Senedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

20Gwaith tegLL+C

Yn adran 4 (nodau llesiant) o DLlCD 2015, yn Nhabl 1, yn y disgrifiad o nod “Cymru lewyrchus”, yn lle “waith addas” rhodder “waith teg”.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

Rhagolygol

RHAN 3LL+CCAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL

PENNOD 1LL+CCYFLWYNIAD

Cysyniadau allweddolLL+C

21Contractau cyhoeddusLL+C

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “contract cyhoeddus” yw contract rhwng un neu ragor o weithredwyr economaidd ac un neu ragor o awdurdodau contractio; ac sy’n gontract sydd â’r nod o gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau.

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae cytundeb fframwaith i’w drin fel contract cyhoeddus (ac mae cyfeiriadau at “contract cyhoeddus” i’w dehongli yn unol â hynny).

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

22Awdurdodau contractioLL+C

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “awdurdod contractio” yw corff, deiliad swydd neu berson arall a restrir yn Atodlen 1.

(2)Ond nid yw Gweinidogion Cymru yn awdurdod contractio at ddibenion adrannau 29, 30, 35, 36 a 41.

(3)Yn y Rhan hon, ardal awdurdod contractio yw’r ardal y mae’r awdurdod yn arfer ei swyddogaethau ynddi yn bennaf, gan ddiystyru unrhyw ardaloedd y tu allan i Gymru.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon, ac Atodlen 1, er mwyn addasu ystyr awdurdod contractio.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

23Caffael cyhoeddusLL+C

At ddibenion y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “caffael cyhoeddus” yn gyfeiriadau at awdurdod contractio—

(a)yn cynllunio ac yn cyflawni unrhyw weithdrefn cyn dyfarnu contract cyhoeddus gan gynnwys, yn benodol, wahodd ceisiadau a dethol gweithredwyr economaidd;

(b)yn drafftio, yn negodi ac yn dyfarnu contract cyhoeddus;

(c)yn rheoli contract cyhoeddus ar ôl ei ddyfarnu;

ac mae cyfeiriadau at “caffael” i’w dehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

PENNOD 2LL+CDYLETSWYDD CAFFAEL CYMDEITHASOL GYFRIFOL

Y ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifolLL+C

24Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod contractio geisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol.

(2)Mae awdurdod contractio yn cynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol drwy gymryd camau gweithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, sydd â’r nod o gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant a restrir yn adran 4 o DLlCD 2015 (y cyfeirir atynt at ddibenion y Rhan hon fel y “nodau llesiant”).

(3)Rhaid i awdurdod contractio osod a chyhoeddi amcanion (“amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol”) sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl ganddo at gyflawni’r nodau llesiant.

(4)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch diwygio ac adolygu amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol.

(5)Wrth gymryd camau gweithredu sydd â’r nod o gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant, rhaid i awdurdod contractio—

(a)cymryd pob cam rhesymol i gyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas ag unrhyw gontract rhagnodedig;

(b)cymryd y camau gweithredu penodol y cyfeirir atynt yn adran 25 pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas â chontract adeiladu mawr;

(c)cymryd y camau gweithredu penodol y cyfeirir atynt yn adran 26 pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas â chontract allanoli gwasanaethau.

(6)Er gwaethaf is-adran (1), ni chaniateir i awdurdod contractio gynnwys darpariaethau mewn contract rhagnodedig—

(a)nad ydynt yn gymesur (gan ystyried gwerth amcangyfrifedig y contract);

(b)a fyddai’n gwrthdaro ag unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw reol gyfreithiol sy’n ymwneud â chaffael cyhoeddus.

(7)At ddibenion is-adran (2), mae i’r “egwyddor datblygu cynaliadwy” yr ystyr a roddir gan adran 5 o DLlCD 2015.

(8)Yn y Rhan hon, ystyr “contract rhagnodedig” yw—

(a)contract adeiladu mawr (gweler adran 25),

(b)contract allanoli gwasanaethau (gweler adran 26), ac

(c)unrhyw gontract cyhoeddus arall o ddisgrifiad a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

25Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau adeiladu mawrLL+C

(1)Y camau gweithredu penodol a grybwyllir yn adran 24(5)(b) yw—

(a)rhoi sylw i gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol enghreifftiol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 27;

(b)wrth lunio a chynnal gweithdrefnau cyn dyfarnu’r contract adeiladu mawr, ystyried pa un a ddylai’r contract gynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol;

(c)wrth negodi a dyfarnu’r contract, cymryd pob cam rhesymol—

(i)i gynnwys unrhyw gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol y mae’n ystyried y dylent gael eu cynnwys;

(ii)i sicrhau bod modd gweithredu cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract;

(d)wrth reoli’r contract, cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol sydd wedi eu cynnwys yn y contract yn cael eu gweithredu;

(gweler adrannau 27 i 31 am ddarpariaeth bellach ynghylch ystyr “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” a chymhwyso’r cymalau hynny i gontractau adeiladu mawr).

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “contract adeiladu mawr” yw contract cyhoeddus sydd â gwerth amcangyfrifedig o £2,000,000 neu fwy, sydd—

(a)yn gontract gweithiau cyhoeddus,

(b)yn gontract gweithiau, neu

(c)yn gontract consesiwn gweithiau.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau i addasu ystyr contract adeiladu mawr.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

26Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau allanoli gwasanaethauLL+C

(1)Y camau gweithredu penodol a grybwyllir yn adran 24(5)(c) yw—

(a)rhoi sylw i’r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32;

(b)wrth lunio a chynnal gweithdrefnau cyn dyfarnu’r contract allanoli gwasanaethau, ystyried pa un a ddylai’r contract gynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol;

(c)wrth negodi a dyfarnu’r contract, cymryd pob cam rhesymol—

(i)i gynnwys unrhyw gymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol y mae’n ystyried y dylent gael eu cynnwys;

(ii)i sicrhau bod modd gweithredu cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract;

(d)wrth reoli’r contract, cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw gymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sydd wedi eu cynnwys yn y contract yn cael eu gweithredu;

(gweler adrannau 32 i 37 am ddarpariaeth bellach ynghylch y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu, ystyr “cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol” a chymhwyso’r cymalau hynny i gontractau allanoli gwasanaethau).

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “contract allanoli gwasanaethau” yw contract—

(a)y mae gofyniad i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei ddarparu gan, neu a ddarparwyd yn flaenorol gan, awdurdod contractio yn cael ei drosglwyddo i berson arall odano, neu

(b)y mae person arall yn cytuno i gyflawni unrhyw swyddogaeth arall sy’n cael ei gyflawni gan, neu a gyflawnwyd yn flaenorol gan, awdurdod contractio odano;

ac mae “allanoli” i’w ddehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasolLL+C

27Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawrLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cymalau enghreifftiol ar gyfer contractau adeiladu mawr (“cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol”) sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r gwelliannau o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a restrir o dan bob categori yn y Tabl yn is-adran (2).

(2)Y categorïau a’r gwelliannau yw—

TABL 1
CategoriGwelliannau
TaliadauSicrhau a gorfodi taliadau prydlon.
CyflogaethDarparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc, pobl hŷn, pobl ddi-waith hirdymor, pobl ag anableddau neu bobl a all fel arall fod o dan anfantais (er enghraifft oherwydd eu hil, eu crefydd neu eu cred, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol).
CydymffurfeddSicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â hawliau cyflogaeth (gan gynnwys yr isafswm cyflog a chyflog byw), iechyd a diogelwch, a chynrychiolaeth undebau llafur.
Hyfforddiant Darparu hyfforddiant priodol i weithwyr.
Is-gontractioDarparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau gwirfoddol i gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau.
Yr amgylcheddGwneud rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, defnyddio deunyddiau cynaliadwy, cydnerthedd rhag effaith newid hinsawdd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn ofynnol.

(3)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at awdurdod contractio yn cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr—

(a)yn gyfeiriad at yr holl gymalau contract enghreifftiol a gyhoeddir mewn cysylltiad â phob un o’r gwelliannau o dan y categorïau yn is-adran (2), a

(b)yn golygu ymgorffori cymalau sydd â’r un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau contract enghreifftiol cyhoeddedig.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2)—

(a)er mwyn ychwanegu categori, a gwelliannau o dan y categori hwnnw, at y Tabl;

(b)er mwyn dileu categori, a gwelliannau o dan y categori hwnnw, o’r Tabl;

(c)er mwyn diwygio categori neu welliannau o dan gategori yn y Tabl.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

28Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractauLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod contractio yn bwriadu cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contract adeiladu mawr y mae’n cytuno arno gyda gweithredwr economaidd (“contractiwr”) (ar ôl i’r awdurdod ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 25(1)(b)).

(2)Rhaid i’r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn y cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contractiwr yn ymrwymo i is-gontract gydag unrhyw weithredwr economaidd arall (“is-gontractiwr”).

(3)Mae enghreifftiau o’r camau rhesymol y gellir eu cymryd o dan is-adran (2) yn cynnwys⁠—

(a)sicrhau bod cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau yn y contract adeiladu mawr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw is-gontract—

(i)y mae’r contractiwr yn ymrwymo iddo gydag is-gontractiwr, a

(ii)y mae’r is-gontractiwr yn ymrwymo iddo gydag is-gontractiwr dilynol (ac yn y blaen);

(b)sicrhau y gall yr awdurdod contractio orfodi’r rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol o dan y contract adeiladu mawr neu o dan is-gontract;

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr gael cydsyniad yr awdurdod contractio cyn ymrwymo i is-gontract, gyda chydsyniad yn cael ei roi ar yr amod bod cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract adeiladu mawr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw is-gontract;

(d)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr hysbysu’r awdurdod contractio os yw’n bwriadu ymrwymo i is-gontract nad yw’n cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract adeiladu mawr;

(e)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr fonitro i ba raddau y mae unrhyw rwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contractiwr wedi ymrwymo i is-gontract gydag unrhyw weithredwr economaidd arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

29Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: hysbysu Gweinidogion CymruLL+C

(1)O ran contract adeiladu mawr, rhaid i awdurdod contractio hysbysu Gweinidogion Cymru—

(a)os nad yw’r awdurdod yn bwriadu cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn y contract (er ei fod wedi ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 25(1)(b));

(b)os nad oes cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol wedi eu cynnwys yn y contract (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 25(1)(c)(i));

(c)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 25(1)(c)(ii));

(d)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 28(2)).

(2)Rhaid gwneud hysbysiad o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a rhaid iddo nodi rhesymau’r awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

30Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: ymateb Gweinidogion CymruLL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad oddi wrth awdurdod contractio o dan adran 29(1), rhaid iddynt—

(a)cyhoeddi crynodeb o’r hysbysiad, a

(b)ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau a roddwyd ynddo.

(2)Wrth ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r awdurdod;

(b)drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ddarparu unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-adran (1) ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw fodd a bennir yn yr hysbysiad;

(c)darparu copi o’r hysbysiad o dan adran 29(1), ac unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall a geir o dan baragraff (b), i is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG (gweler adran 9);

(d)ymgynghori ag is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl ystyried y rhesymau o dan is-adran (1), rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb o’r rhesymau pam eu bod yn fodlon.

(4)Os nad yw Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl ystyried y rhesymau o dan is-adran (1), cânt roi cyfarwyddyd i’r awdurdod contractio i gymryd pob cam rhesymol i—

(a)cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn y contract adeiladu mawr,

(b)rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu, neu

(c)rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid iddynt—

(a)hysbysu is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG eu bod wedi rhoi’r cyfarwyddyd, a

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(6)Pan na fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4) er nad ydynt yn fodlon, rhaid iddynt—

(a)hysbysu is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG nad ydynt wedi rhoi cyfarwyddyd, a

(b)cyhoeddi crynodeb o—

(i)y rhesymau pam nad ydynt yn fodlon, a

(ii)y rhesymau pam nad ydynt yn rhoi cyfarwyddyd er nad ydynt yn fodlon.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau o dan is-adrannau (2)(a) neu (b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(8)Rhaid i awdurdod contractio ddarparu unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall y mae’n ofynnol iddo eu darparu neu ei darparu o dan is-adran (2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl ymgynghori â’r awdurdod contractio priodol, y byddai’n esempt rhag cael ei datgelu pe bai’n destun cais am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36).

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

31Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: contractau Gweinidogion CymruLL+C

(1)O ran contract adeiladu mawr, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad—

(a)os nad ydynt yn bwriadu cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn y contract (er eu bod wedi ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 25(1)(b));

(b)os nad oes cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol wedi eu cynnwys yn y contract (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 25(1)(c)(i));

(c)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 25(1)(c)(ii));

(d)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 28(2)).

(2)Rhaid i ddatganiad a wneir o dan is-adran (1) gael ei wneud cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a rhaid iddo nodi rhesymau Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol a chod ymarfer allanoli gwasanaethau cyhoeddusLL+C

32Y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithluLL+C

(1)At ddibenion cynnal neu wella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus neu swyddogaethau eraill a allanolir gan awdurdodau contractio, rhaid i Weinidogion Cymru‍ lunio a chyhoeddi cod ymarfer (“y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu”) ynghylch materion cyflogaeth a phensiynau sy’n gysylltiedig â chontractau allanoli gwasanaethau.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cod a rhaid iddynt gyhoeddi’r cod diwygiedig.

(3)Wrth lunio’r cod neu unrhyw ddiwygiad rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r cod ac unrhyw ddiwygiadau iddo gerbron y Senedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

33Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau allanoli gwasanaethauLL+C

Rhaid i’r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu gynnwys cymalau contract enghreifftiol (“cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol”) sydd, yn benodol—

(a)wedi eu cynllunio i sicrhau y bydd aelodau o staff a gyflogir gan awdurdodau contractio i ddarparu’r gwasanaethau, neu gyflawni’r swyddogaethau, sydd i’w hallanoli yn cael eu cyflogi, os ydynt yn dymuno, gan y person sy’n darparu’r gwasanaethau hynny, neu sy’n cyflawni’r swyddogaethau hynny, pan gânt eu hallanoli (“staff sy’n trosglwyddo”);

(b)wedi eu cynllunio i ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth a threfniadau pensiwn staff sy’n trosglwyddo;

(c)wedi eu cynllunio i sicrhau nad yw telerau ac amodau aelodau eraill o staff a gyflogir gan y person sy’n darparu’r gwasanaethau, neu sy’n cyflawni’r swyddogaethau, sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaethau hynny, neu gyflawni’r swyddogaethau hynny, yn llai ffafriol ar y cyfan na thelerau ac amodau’r staff sy’n trosglwyddo, a bod trefniadau pensiwn yr aelodau eraill o staff hynny yn rhesymol;

(d)yn gwneud darpariaeth atodol i’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c).

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

34Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractauLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod contractio yn bwriadu cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contract allanoli gwasanaethau y mae’n cytuno arno gyda gweithredwr economaidd (“contractiwr”) (ar ôl i’r awdurdod ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 26(1)(b)).

(2)Rhaid i’r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn y cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contractiwr yn ymrwymo i is-gontract gydag unrhyw weithredwr economaidd arall (“is-gontractiwr”).

(3)Mae enghreifftiau o’r camau rhesymol y gellir eu cymryd o dan is-adran (2) yn cynnwys⁠—

(a)sicrhau bod cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau yn y contract allanoli gwasanaethau yn cael eu cynnwys mewn unrhyw is-gontract—

(i)y mae’r contractiwr yn ymrwymo iddo gydag is-gontractiwr, a

(ii)y mae’r is-gontractiwr yn ymrwymo iddo gyda chontractiwr dilynol (ac yn y blaen);

(b)sicrhau y caniateir i’r awdurdod contractio orfodi’r rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol o dan y contract allanoli gwasanaethau neu o dan is-gontract;

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr gael cydsyniad yr awdurdod contractio cyn ymrwymo i is-gontract, gyda chydsyniad yn cael ei roi ar yr amod bod cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract allanoli gwasanaethau yn cael eu cynnwys mewn unrhyw is-gontract;

(d)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr hysbysu’r awdurdod contractio os yw’n bwriadu ymrwymo i is-gontract nad yw’n cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract allanoli gwasanaethau;

(e)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr fonitro i ba raddau y mae unrhyw rwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contractiwr wedi ymrwymo i is-gontract gydag unrhyw weithredwr economaidd arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

35Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: hysbysu Gweinidogion CymruLL+C

(1)O ran contract allanoli gwasanaethau, rhaid i awdurdod contractio hysbysu Gweinidogion Cymru—

(a)os nad yw’r awdurdod yn bwriadu cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn y contract (er ei fod wedi ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 26(1)(b));

(b)os nad oes cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol wedi eu cynnwys yn y contract (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 26(1)(c)(i));

(c)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 26(1)(c)(ii));

(d)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 34(2)).

(2)Rhaid gwneud hysbysiad o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a rhaid iddo nodi rhesymau’r awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

36Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: ymateb Gweinidogion CymruLL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan adran 35(1), rhaid iddynt—

(a)cyhoeddi crynodeb o’r hysbysiad, a

(b)ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau a roddwyd yn yr hysbysiad.

(2)Wrth ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r awdurdod contractio;

(b)drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ddarparu unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-adran (1) ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw fodd a bennir yn yr hysbysiad;

(c)darparu copi o’r hysbysiad o dan adran 35(1), ac unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall a geir o dan baragraff (b), i is-grŵp caffael yr CPG;

(d)ymgynghori ag is-grŵp caffael yr CPG.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl ystyried y rhesymau o dan is-adran (1), rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb o’r rhesymau pam eu bod yn fodlon.

(4)Os nad yw Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl ystyried y rhesymau o dan is-adran (1), caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod contractio i gymryd pob cam rhesymol i—

(a)cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn y contract allanoli gwasanaethau,

(b)rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu, neu

(c)rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid iddynt—

(a)hysbysu is-grŵp caffael yr CPG eu bod wedi rhoi’r cyfarwyddyd, a

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(6)Pan na fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4) er nad ydynt yn fodlon, rhaid iddynt—

(a)hysbysu is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG nad ydynt wedi rhoi cyfarwyddyd, a

(b)cyhoeddi crynodeb o—

(i)y rhesymau pam nad ydynt yn fodlon, a

(ii)y rhesymau pam nad ydynt yn rhoi cyfarwyddyd er nad ydynt yn fodlon.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau o dan is-adrannau (2)(a) neu (b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(8)Rhaid i awdurdod contractio ddarparu unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall y mae’n ofynnol iddo eu darparu neu ei darparu o dan is-adran (2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl ymgynghori â’r awdurdod contractio priodol, y byddai’n esempt rhag cael ei datgelu pe bai’n destun cais am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36).

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

37Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: contractau Gweinidogion Cymru LL+C

(1)O ran contract allanoli gwasanaethau, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad—

(a)os nad ydynt yn bwriadu cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn y contract (er eu bod wedi ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 26(1)(b));

(b)os nad oes cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol wedi eu cynnwys yn y contract (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 26(1)(c)(i));

(c)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 26(1)(c)(ii));

(d)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 34(2)).

(2)Rhaid i ddatganiad a wneir o dan is-adran (1) gael ei wneud cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a rhaid iddo nodi rhesymau Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

Strategaethau caffaelLL+C

38Strategaeth gaffaelLL+C

(1)Rhaid i awdurdod contractio lunio strategaeth (“strategaeth gaffael”) sy’n nodi sut y mae’r awdurdod yn bwriadu cynnal caffael cyhoeddus.

(2)Rhaid i strategaeth gaffael, yn benodol—

(a)datgan sut y mae’r awdurdod yn bwriadu sicrhau y bydd yn cynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol yn unol ag adran 24(1);

(b)datgan sut y mae’r awdurdod yn bwriadu cymryd pob cam rhesymol i gyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas ag unrhyw gontract rhagnodedig;

(c)datgan sut y mae’r awdurdod yn bwriadu gwneud taliadau sy’n ddyledus o dan gontract yn brydlon ac, oni bai nad yw hyn yn rhesymol ymarferol, yn ddim hwyrach na 30 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno anfoneb (neu hawliad tebyg).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2)—

(a)er mwyn pennu materion eraill y mae rhaid i strategaethau caffael ymdrin â hwy;

(b)er mwyn lleihau nifer y diwrnodau a grybwyllir yn is-adran (2)(c).

(4)Rhaid i awdurdod contractio—

(a)adolygu ei strategaeth gaffael bob blwyddyn ariannol,

(b)gwneud unrhyw ddiwygiadau y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol o bryd i’w gilydd, ac

(c)cyhoeddi’r strategaeth, ac unrhyw ddiwygiadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddi gael ei llunio neu ei diwygio.

(5)Caniateir i ddau neu ragor o awdurdodau contractio gyflawni eu rhwymedigaethau o dan yr adran hon drwy lunio strategaeth gaffael ar y cyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

PENNOD 3LL+CADRODD AC ATEBOLRWYDD

39Adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod contractio sydd wedi dyfarnu unrhyw gontractau rhagnodedig yn ystod blwyddyn ariannol lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei gaffael cyhoeddus cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)crynodeb o’r ymarferion caffael cyhoeddus a arweiniodd yn ystod y flwyddyn at ddyfarnu contract rhagnodedig neu y bwriadwyd iddynt arwain at ddyfarnu contract o’r fath;

(b)adolygiad sy’n ystyried i ba raddau y cymerwyd pob cam rhesymol yn yr ymarferion caffael cyhoeddus hynny i gyflawni amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol yr awdurdod;

(c)i’r graddau y mae’r awdurdod yn ystyried y gellir cymryd yn rhesymol gamau pellach mewn ymarferion caffael cyhoeddus yn y dyfodol i gyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol, datganiad o sut y mae’n bwriadu cymryd y camau hynny;

(d)crynodeb o’r gwaith caffael cyhoeddus y mae’r awdurdod yn disgwyl ei gynnal yn ystod y ddwy flwyddyn ariannol nesaf;

(e)gwybodaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (3) y mae rhaid ei phennu drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

(f)gwybodaeth arall a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2)(e) yw gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod arnynt ei hangen er mwyn asesu i ba raddau—

(a)y mae awdurdod contractio sy’n cyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol yn cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant;

(b)y mae caffael cyhoeddus awdurdod contractio, yn gyffredinol, yn cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant, er enghraifft drwy—

(i)bod o fudd i economi ei ardal, gan gynnwys drwy ddyfarnu contractau i fusnesau bach a chanolig;

(ii)ystyried materion amgylcheddol;

(iii)ystyried materion cymdeithasol (eraill);

(iv)hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

40Cofrestr gontractauLL+C

(1)Rhaid i awdurdod contractio greu, cynnal a chyhoeddi cofrestr gontractau.

(2)Mae cofrestr gontractau yn gofrestr o gontractau cyhoeddus yr ymrwymwyd iddynt gan yr awdurdod contractio sydd o ddisgrifiad a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau (“contractau cofrestradwy”).

(3)Mewn perthynas â phob contract cofrestradwy, rhaid i gofrestr gontractau gynnwys—

(a)dyddiad dyfarnu’r contract;

(b)enw’r contractiwr;

(c)cyfeiriad prif fan busnes y contractiwr;

(d)y pwnc;

(e)y gwerth amcangyfrifedig;

(f)y dyddiad cychwyn;

(g)y dyddiad terfynu y darperir ar ei gyfer yn y contract (gan ddiystyru unrhyw opsiwn i estyn y contract) neu, pan na fo dyddiad wedi ei bennu, ddisgrifiad o’r amgylchiadau y bydd y contract yn terfynu odanynt;

(h)hyd unrhyw gyfnod y gellir estyn y contract;

(i)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(4)Ond caiff awdurdod atal cyhoeddi cofnod, neu ran o gofnod, yn y gofrestr os yw’n ystyried y byddai ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—

(a)yn rhwystro gorfodi’r gyfraith neu fel arall yn groes i fudd y cyhoedd,

(b)yn rhagfarnu buddiannau masnachol unrhyw berson,

(c)yn rhagfarnu cystadleuaeth deg rhwng gweithredwyr economaidd, neu

(d)yn datgelu cyfeiriad preswyl (yn achos yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (3)(c)).

(5)Ni chaiff awdurdod ddileu cofnod yn ei gofrestr gontractau ond ar ôl i’r contract y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef ddod i ben neu gael ei derfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

41Ymchwiliadau caffaelLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ymchwilio i’r modd y mae awdurdod contractio yn cynnal caffael cyhoeddus.

(2)Caiff ymchwiliad ymwneud ag ymarfer caffael cyhoeddus penodol a gynhaliwyd gan awdurdod contractio neu â’i weithgarwch caffael cyhoeddus cyffredinol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio ddarparu’r dogfennau hynny neu’r wybodaeth arall honno sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion ymchwiliad o dan yr adran hon, ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw fodd a bennir yn yr hysbysiad.

(4)Rhaid i awdurdod contractio—

(a)rhoi cymorth rhesymol i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ymchwiliad;

(b)cydymffurfio â hysbysiad o dan is-adran (3) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Ar ôl cwblhau’r ymchwiliad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)gwneud argymhellion i’r awdurdod contractio;

(b)cyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau’r ymchwiliad;

(c)gosod copi o unrhyw adroddiad a gyhoeddwyd gerbron y Senedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

42Adroddiad blynyddol Gweinidogion Cymru ar gaffael cyhoeddusLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i’r adroddiad, yn benodol, gynnwys gwybodaeth ynghylch—

(a)yr adroddiadau caffael blynyddol a gyhoeddir o dan adran 39;

(b)canlyniadau unrhyw ymchwiliadau o dan adran 41.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad a gosod copi ohono gerbron y Senedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

PENNOD 4LL+CCYFFREDINOL

43CanllawiauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar weithrediad y Rhan hon.

(2)Caiff canllawiau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)bodloni’r gofyniad yn adran 24(1) i gynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol;

(b)gosod amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol;

(c)cymryd pob cam rhesymol i fodloni amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol;

(d)cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol;

(e)y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu;

(f)cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol;

(g)ymgynghori wrth lunio strategaeth gaffael;

(h)ffurf a chynnwys strategaethau caffael ac adroddiadau caffael blynyddol;

(i)y broses a ddefnyddir gan awdurdod contractio i gymeradwyo ei strategaeth gaffael;

(j)strategaethau caffael ar y cyd.

(3)Rhaid i awdurdod contractio roi sylw i ganllawiau perthnasol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Cyn dyroddi canllawiau o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr CPG;

(b)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

44RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(c)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wnaed o dan adran 22(4), 24(8)(c), 25(3) neu 27(4) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Senedd ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wnaed o dan y Rhan hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

45Dehongli Rhan 3LL+C

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “awdurdod contractio” (“contracting authority”) yr ystyr a roddir yn adran 22;

  • mae i “caffael cyhoeddus” (“public procurement”) yr ystyr a roddir yn adran 23;

  • mae i “y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu” (“the public services outsourcing and workforce code”) yr ystyr a roddir yn adran 32(1);

  • mae i “contract allanoli gwasanaethau” (“outsourcing services contract”) yr ystyr a roddir yn adran 26(2);

  • mae i “contract consesiwn gweithiau” yr ystyr a roddir i “works concession contract” gan reoliadau 2(1) a 3(2) o’r Rheoliadau Contractau Consesiwn;

  • mae i “contract gweithiau” yr ystyr a roddir i “works contracts” gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Contractau Cyfleustodau;

  • mae i “contract gweithiau cyhoeddus” (“public works contract”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus;

  • mae i “contract rhagnodedig” (“prescribed contract”) yr ystyr a roddir yn adran 24(8);

  • mai i “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” (“social public works clauses”) yr ystyr a roddir yn adran 27;

  • mae i “cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol” (“social public workforce clauses”) yr ystyr a roddir yn adran 33;

  • ystyr “cytundeb fframwaith” (“framework agreement”) yw cytundeb rhwng un neu ragor o awdurdodau contractio ac un neu ragor o weithredwyr economaidd, gyda’r diben o sefydlu’r prif delerau sy’n llywodraethu contractau cyhoeddus (contractau yn ôl y gofyn) sydd i’w dyfarnu yn ystod cyfnod penodol, yn enwedig o ran prisio’r pethau y rhagwelir y cânt eu caffael a, lle y bo’n briodol, eu nifer;

  • mae i “gweithiau” yr ystyr a roddir i “works” gan baragraff 2 o reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus;

  • ystyr “gweithredwr economaidd” (“economic operator”) yw unrhyw berson sy’n cynnig cyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau ar y farchnad;

  • ystyr ”y Rheoliadau Contractau Consesiwn” (“the Concession Contracts Regulations”) yw Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016 (O.S. 2016/273);

  • ystyr “y Rheoliadau Contractau Cyfleustodau” (“the Utilities Contracts Regulations”) yw Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 (O.S. 2016/274);

  • ystyr “y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus” (“the Public Contracts Regulations”) yw Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (O.S. 2015/102);

  • mae i “sefydliadau gwirfoddol” yr ystyr a roddir i “relevant voluntary organisations” o fewn ystyr adran 74(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)At ddibenion y Rhan hon mae gwerth amcangyfrifedig contract i’w ganfod yn unol â rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

RHAN 4LL+CDARPARIAETHAU TERFYNOL

46Dehongli cyffredinolLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—

    (a)

    mewn perthynas â chorff cyhoeddus heblaw Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG, y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;

    (b)

    mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol, blwyddyn gyfrifyddu o fewn yr ystyr a roddir gan y gorchymyn a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) sy’n sefydlu’r Bwrdd;

    (c)

    mewn perthynas ag ymddiriedolaeth GIG, blwyddyn gyfrifyddu o fewn yr ystyr a roddir gan y gorchymyn a wnaed o dan adran 18 o’r Ddeddf honno sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth;

  • ystyr “CPG” (“SPC”) yw’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a sefydlir gan adran 1;

  • ystyr “DLlCD 2015” (“the WFGA 2015”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2);

  • ystyr “y Senedd” (“the Senedd”) yw Senedd Cymru;

  • mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” gan adran 1 o Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52) (ac mae i “cydnabyddedig” mewn perthynas ag undeb llafur yr ystyr a roddir i “recognised” gan adran 178(3) o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I59A. 46 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(m)

47Mân ddiwygiad i DLlCD 2015LL+C

Yn adran 9(6) o DLlCD 2015 (cyhoeddi amcanion llesiant diwygiedig corff cyhoeddus), yn lle “(3) neu (4)” rhodder “(4) neu (5)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I61A. 47 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(n)

48Dod i rymLL+C

(1)Daw’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn; ac eithrio’r adran hon, a ddaw i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Caiff gorchymyn o dan is-adran (1) bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan is-adran (1) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 48 mewn grym ar 25.5.2023, gweler a. 48(1)

49Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I64A. 49 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(o)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources