Search Legislation

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Legislation Crest

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

2020 dsc 1

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer dyletswydd i sicrhau gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau iechyd a ddarperir o dan neu yn rhinwedd Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ar gyfer dyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad â’r gwasanaethau iechyd a ddarperir gan neu ar gyfer cyrff y GIG; ar gyfer Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru; ynghylch cyfansoddiad ymddiriedolaethau’r GIG; ac at ddibenion cysylltiedig.

[1 Mehefin 2020]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1Trosolwg

1Trosolwg o’r Ddeddf hon

Yn y Ddeddf hon—

(a)mae Rhan 2 yn gosod gofynion mewn cysylltiad â gwella ansawdd gwasanaethau iechyd;

(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ac ynghylch dyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd;

(c)mae Rhan 4 yn sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau;

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad ymddiriedolaethau’r GIG; ar gyfer mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall; ac yn cynnwys darpariaeth atodol ynghylch y Ddeddf hon (gan gynnwys ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau o dan y Ddeddf).

RHAN 2GWELLA GWASANAETHAU IECHYD

2Ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau iechyd

(1)Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Rhan 1 (hybu a darparu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru), ar ôl adran 1 (dyletswydd Gweinidogion Cymru i hybu gwasanaethau iechyd) mewnosoder—

1AWelsh Ministers’ duty to secure quality in health services

(1)The Welsh Ministers must exercise their functions in relation to the health service with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)The Welsh Ministers must publish an annual report on the steps they have taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must lay a copy of the report before the National Assembly for Wales.”

(3)Ym Mhennod 1 o Ran 2 (cyrff y gwasanaeth iechyd: Byrddau Iechyd Lleol), ar ôl adran 12 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol) mewnosoder—

12ALocal Health Boards’ duty to secure quality in health services

(1)Each Local Health Board must exercise its functions with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)Each Local Health Board must publish an annual report on the steps it has taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must issue guidance to Local Health Boards in relation to the requirements imposed by subsections (1) and (3).

(6)The guidance must, in particular, include guidance about—

(a)the evidence to be used in support of an assessment required by this section, and

(b)the conduct of such an assessment.

(7)Each Local Health Board must have regard to guidance issued under subsection (5).”

(4)Ym Mhennod 2 o Ran 2 (cyrff y gwasanaeth iechyd: ymddiriedolaethau’r GIG), ar ôl adran 20 (dyletswydd gyffredinol ymddiriedolaethau’r GIG) mewnosoder—

20ADuty of NHS trusts to secure quality in health services

(1)Each NHS trust must exercise its functions with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)Each NHS trust must publish an annual report on the steps it has taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must issue guidance to NHS trusts in relation to the requirements imposed by subsections (1) and (3).

(6)The guidance must, in particular, include guidance about—

(a)the evidence to be used in support of an assessment required by this section, and

(b)the conduct of such an assessment.

(7)Each NHS trust must have regard to guidance issued under subsection (5).”

(5)Ym Mhennod 3 o Ran 2 (cyrff y gwasanaeth iechyd: Awdurdodau Iechyd Arbennig), ar ôl adran 24 (arfer swyddogaethau’r gwasanaeth iechyd gan Awdurdodau Iechyd Arbennig) mewnosoder—

24ADuty of Special Health Authorities to secure quality in health services

(1)Each Special Health Authority must exercise its functions with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)Each Special Health Authority must publish an annual report on the steps it has taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must issue guidance to Special Health Authorities in relation to the requirements imposed by subsections (1) and (3).

(6)The guidance must, in particular, include guidance about—

(a)the evidence to be used in support of an assessment required by this section, and

(b) the conduct of such an assessment.

(7)Each Special Health Authority must have regard to guidance issued under subsection (5).

(8)This section does not apply in relation to a cross-border Special Health Authority (within the meaning of section 8A(5)).”

RHAN 3DYLETSWYDD GONESTRWYDD

Cymhwyso’r ddyletswydd

3Pryd y mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwys

(1)Daw’r ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol mewn perthynas â chorff GIG os yw’n ymddangos i’r corff fod y ddau o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni.

(2)Yr amod cyntaf yw bod person (y “defnyddiwr gwasanaeth”) y mae’r corff yn darparu neu wedi darparu gofal iechyd iddo wedi dioddef canlyniad andwyol.

(3)Yr ail amod yw bod darparu’r gofal iechyd yn ffactor, neu y gall fod wedi bod yn ffactor, a achosodd i’r defnyddiwr gwasanaeth ddioddef y canlyniad hwnnw.

(4)At ddiben yr amod cyntaf, mae defnyddiwr gwasanaeth i’w drin fel pe bai wedi dioddef canlyniad andwyol os yw’r defnyddiwr yn profi mwy nag ychydig o niwed annisgwyl neu anfwriadol neu os yw’r amgylchiadau yn golygu y gallai brofi niwed o’r fath.

Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraill

4Gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd

(1)Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer gweithdrefn (y “weithdrefn gonestrwydd”) sydd i’w dilyn gan gorff GIG y mae’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn perthynas ag ef.

(2)Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff GIG, fel rhan o’r weithdrefn gonestrwydd—

(a)wrth ddod yn ymwybodol gyntaf fod y ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol, roi hysbysiad o hyn yn unol â’r rheoliadau i’r defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw neu rywun sy’n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth;

(b)hysbysu person a grybwyllir ym mharagraff (a), yn unol â’r rheoliadau, am—

(i)pwy yw person sydd wedi ei enwebu gan y corff yn bwynt cyswllt ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd;

(ii)unrhyw ymholiadau pellach a gynhelir gan y corff mewn cysylltiad â’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol odanynt.

(3)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth hefyd—

(a)i’r corff gynnig ymddiheuriad;

(b)mewn cysylltiad â darparu cymorth i ddefnyddiwr gwasanaeth y rhoddir hysbysiad iddo o dan is-adran (2)(a);

(c)ynghylch cadw cofnodion.

(4)Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

5Darparwyr gofal sylfaenol: dyletswydd i lunio adroddiad

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i ddarparwr gofal sylfaenol lunio adroddiad o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r adroddiad ddatgan a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd gan y darparwr gofal sylfaenol.

(3)Os yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd, rhaid i’r adroddiad—

(a)pennu pa mor aml y mae hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn adrodd,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y darparwr gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

(4)Os yw’r darparwr gofal sylfaenol, yn ystod yr un flwyddyn ariannol, wedi darparu gofal iechyd ar ran dau neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol, mae adroddiad ar wahân i’w lunio o dan yr adran hon mewn cysylltiad â phob un o’r cyrff hynny.

(5)Yn yr adran hon ac adrannau 6 i 8—

(a)mae cyfeiriadau at flwyddyn ariannol yn gyfeiriadau at bob cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

(b)mae cyfeiriadau at flwyddyn adrodd, mewn perthynas ag adroddiad, yn gyfeiriadau at y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

6Cyflenwi a chrynhoi adroddiad o dan adran 5

(1)Rhaid i ddarparwr gofal sylfaenol sydd wedi llunio adroddiad o dan adran 5 mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol gyflenwi’r adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(2)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol y mae adroddiadau wedi eu cyflenwi iddo o dan is-adran (1) lunio crynodeb o’r adroddiadau hynny cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(3)Rhaid i’r crynodeb—

(a)pennu pa mor aml, yn ystod y flwyddyn adrodd, y mae’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn cysylltiad â’r gofal iechyd a ddarperir ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol gan ddarparwr gofal sylfaenol,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y darparwr gofal sylfaenol gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

7Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adrodd

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG neu Awdurdod Iechyd Arbennig lunio adroddiad o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r adroddiad ddatgan a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd gan y corff.

(3)Os yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd, rhaid i’r adroddiad—

(a)pennu pa mor aml y mae hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn adrodd,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y corff gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

8Cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7

(1)Rhaid i gorff GIG y mae adran 7 yn gymwys iddo gyhoeddi’r adroddiad a lunnir ganddo o dan yr adran honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(2)Yn achos corff GIG sy’n Fwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r adroddiad gynnwys y crynodeb a lunnir ganddo o dan adran 6.

9Cyfrinachedd

(1)Ni chaiff adroddiad a gyhoeddir gan gorff GIG o dan adran 8 enwi—

(a)unrhyw un y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu neu wedi ei ddarparu iddo gan neu ar ran y corff GIG;

(b)unrhyw un sy’n gweithredu ar ran person o fewn paragraff (a).

(2)Wrth benderfynu pa wybodaeth i’w chynnwys mewn adroddiad o dan adran 8, rhaid i gorff GIG roi sylw i’r angen i osgoi darparu gwybodaeth sy’n golygu ei bod yn debygol, o dan yr amgylchiadau, y bydd modd gwybod pwy yw’r unigolyn hwnnw, er nad yw’r wybodaeth yn ei enwi.

10Canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru

Wrth arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon, rhaid i gorff GIG roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

11Dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill

(1)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at ofal iechyd yn gyfeiriad at wasanaethau a ddarperir yng Nghymru o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006 ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—

(a)atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;

(b)hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

(2)Yn is-adran (1), mae i “salwch” yr ystyr a roddir i “illness” yn adran 206 o Ddeddf 2006.

(3)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at gorff GIG yn gyfeiriad at—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)ymddiriedolaeth GIG;

(c)Awdurdod Iechyd Arbennig;

(d)darparwr gofal sylfaenol.

(4)Mae person yn ddarparwr gofal sylfaenol, at ddibenion y Rhan hon, i’r graddau (a dim ond i’r graddau) y mae’r person yn darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant o dan Ran 4, 5, 6 neu 7 o Ddeddf 2006 rhwng y person a’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(5)Mae gofal iechyd a ddarperir gan un corff GIG (y “corff darparu”) ar ran corff GIG arall (“y corff GIG trefnu”), yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 rhwng y corff darparu a’r corff trefnu, i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff darparu, nid y corff trefnu.

(6)Mae gofal iechyd a ddarperir gan berson ac eithrio corff GIG (y “darparwr”), ar ran corff GIG, pa un ai yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 neu fel arall, i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff GIG, nid y darparwr.

(7)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006) ac eithrio Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG;

  • mae i “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yr ystyr a roddir gan adran 3(2);

  • mae i “gweithdrefn gonestrwydd” (“candour procedure”) yr ystyr a roddir gan adran 4(1);

  • mae “niwed” (“harm”) yn cynnwys niwed seicolegol ac, yn achos defnyddiwr gwasanaeth sy’n feichiog, golli neu niweidio’r plentyn heb ei eni.

RHAN 4CORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Sefydlu ac amcan cyffredinol etc. Corff Llais y Dinesydd

12Sefydlu Corff Llais y Dinesydd

(1)Mae Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “Corff Llais y Dinesydd”) wedi ei sefydlu fel corff corfforedig.

(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad Corff Llais y Dinesydd a materion perthynol.

13Amcan cyffredinol

(1)Amcan cyffredinol Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yw cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

(2)At ddibenion cyflawni’r amcan hwnnw, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd geisio barn y cyhoedd, ym mha ffordd bynnag y mae’n meddwl ei bod yn briodol, mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

(3)Wrth wneud trefniadau i gydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw’n benodol i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran, ac unrhyw unigolion y ceisir barn oddi wrthynt.

14Ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisi

(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i amcan cyffredinol ac o’i swyddogaethau.

(2)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi sy’n nodi sut y mae’n bwriadu—

(a)hybu ymwybyddiaeth o’i swyddogaethau, a

(b)ceisio barn y cyhoedd at ddibenion ei amcan cyffredinol.

(3)Rhaid i’r datganiad polisi bennu’n benodol sut y mae Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yn bwriadu sicrhau—

(a)bod y Corff yn cynrychioli buddiannau pobl ym mhob rhan o Gymru,

(b)bod y Corff yn hygyrch i bobl ledled Cymru, ac

(c)bod aelodau o staff y Corff ac unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Corff yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â phobl ledled Cymru.

Cyflwyno sylwadau

15Sylwadau i gyrff cyhoeddus

(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd gyflwyno sylwadau i berson a grybwyllir yn is-adran (2) ynghylch unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i ddarparu gwasanaeth iechyd neu ddarparu gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

(3)Rhaid i berson y mae sylwadau o dan is-adran (1) wedi eu cyflwyno iddo roi sylw i’r sylwadau wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae’r sylwadau yn ymwneud â hi.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r personau a grybwyllir yn is-adran (2), mewn perthynas â sylwadau a gyflwynir o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i’r personau hynny roi sylw i’r canllawiau.

16Gwasanaethau eirioli etc. mewn cysylltiad â chwynion am wasanaethau

(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i unrhyw unigolyn sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, cwyn y mae unrhyw un o’r is-adrannau a ganlyn yn gymwys iddi.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru, yn rhinwedd adran 187 o Ddeddf 2006, drefnu i wasanaethau eirioli annibynnol gael eu darparu mewn cysylltiad â hi.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn o dan reoliadau o dan adran 171 o Ddeddf 2014 (cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol).

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn i ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) (dccc 2).

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud ag—

(a)swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol;

(b)mater y mae Rhan 5 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3) (ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon mewn perthynas â’r camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwyr cartrefi gofal neu ddarparwyr gofal cartref) yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 42(1)(a) a (b) o’r Ddeddf honno.

(6)Hefyd, caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolyn sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, cwyn sy’n gallu cael ei hystyried yn sylwadau o dan adran 174 o Ddeddf 2014 (sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc.); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (7).

(7)Ni chaiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy o dan is-adran (6) i unigolyn os yw’r unigolyn yn gymwys i gael cynhorthwy mewn perthynas â’r gŵyn yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 178(1)(a) o Ddeddf 2014 (dyletswydd awdurdodau lleol i drefnu cynhorthwy ar gyfer plant mewn cysylltiad â sylwadau sy’n dod o fewn adran 174 o Ddeddf 2014).

(8)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran, ac unrhyw unigolion y darperir unrhyw gynhorthwy o dan yr adran hon iddynt neu y gellir ei ddarparu iddynt.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “Deddf 2014” yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

Dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus penodol mewn cysylltiad â Chorff Llais y Dinesydd

17Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y Dinesydd

(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) wneud trefniadau i ddwyn gweithgareddau Corff Llais y Dinesydd i sylw pobl sy’n cael, neu a all gael, gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan neu ar ran y person.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

18Dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i Gorff Llais y Dinesydd

(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) gyflenwi i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw wybodaeth y mae Corff Llais y Dinesydd yn gofyn yn rhesymol amdani at ddiben cyflawni ei swyddogaethau.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

(3)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol neu sy’n caniatáu datgelu unrhyw wybodaeth a waherddir gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)Rhaid i berson sy’n gwrthod datgelu gwybodaeth mewn ymateb i gais a wneir o dan is-adran (1) roi i Gorff Llais y Dinesydd ei resymau yn ysgrifenedig dros beidio â datgelu’r wybodaeth.

Mynediad i fangreoedd gan Gorff Llais y Dinesydd: dyletswydd i roi sylw i god ymarfer

19Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch—

(a)ceisiadau a wneir gan Gorff Llais y Dinesydd i gael mynediad i fangreoedd at ddiben ceisio barn unigolion mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, a

(b)pan fo mynediad i’r mangreoedd hynny wedi ei gytuno, ymgysylltu ag unigolion yn y mangreoedd hynny at y diben hwnnw.

(2)Ystyr “mangreoedd” yn is-adran (1) yw unrhyw fangreoedd y darperir gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol ynddynt.

(3)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i’r cod.

(4)Rhaid i bob awdurdod lleol a chorff GIG roi sylw i’r cod (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.

(5)Wrth lunio’r cod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)Corff Llais y Dinesydd;

(b)pob awdurdod lleol;

(c)pob corff GIG;

(d)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Cydweithredu wrth arfer swyddogaethau

20Cydweithredu rhwng y Corff, awdurdodau lleol a chyrff y GIG

(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd, awdurdodau lleol a chyrff y GIG wneud trefniadau i gydweithredu gyda golwg ar gefnogi ei gilydd wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol.

(2)At ddibenion is-adran (1) ystyr “swyddogaethau perthnasol”—

(a)mewn perthynas â’r Corff, yw ei swyddogaethau o dan adrannau 13(2) a 14(1);

(b)mewn perthynas ag awdurdodau lleol a chyrff y GIG, yw eu swyddogaethau o dan adran 17(1).

Dehongli’r Rhan hon

21Ystyr “gwasanaethau iechyd” a “gwasanaethau cymdeithasol”

(1)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at wasanaethau iechyd yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir (pa un ai yng Nghymru neu mewn man arall) o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006, ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—

(a)atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;

(b)hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

(2)Yn is-adran (1), mae i “salwch” yr ystyr a roddir i “illness” yn adran 206 o Ddeddf 2006.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at wasanaethau cymdeithasol yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol.

(4)Yn is-adran (3), mae i “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yr un ystyr ag sydd iddo at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (gweler, yn benodol, adran 143 o’r Ddeddf honno).

22Ystyr termau eraill

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “corff GIG” (“NHS body”) yw—

    (a)

    Bwrdd Iechyd Lleol;

    (b)

    ymddiriedolaeth GIG;

    (c)

    Awdurdod Iechyd Arbennig.

Dileu Cynghorau Iechyd Cymuned etc.

23Dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedig

(1)Mae adran 182 o Ddeddf 2006, sy’n darparu ar gyfer parhau â Chynghorau Iechyd Cymuned neu eu sefydlu ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, wedi ei diddymu, ac mae’r Cynghorau Iechyd Cymuned hynny wedi eu dileu.

(2)Mae Atodlen 10 i Ddeddf 2006, sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch Cynghorau Iechyd Cymuned, wedi ei diddymu hefyd.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, mewn cysylltiad â dileu Cynghorau Iechyd Cymuned.

RHAN 5AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyfansoddiad ymddiriedolaethau’r GIG

24Is-gadeiryddion byrddau cyfarwyddwyr ymddiriedolaethau’r GIG

(1)Mae Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 2006 (cyfansoddiad, sefydlu etc. ymddiriedolaethau’r GIG) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 3 (bwrdd cyfarwyddwyr)—

(a)ar ôl is-baragraff (1)(a) mewnosoder—

(aa)if the Welsh Ministers consider it appropriate, a vice-chair appointed by them, and, a

(b)hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (1)(a).

(3)Ym mharagraff 4 (rheoliadau sy’n ymwneud â phenodi etc. y bwrdd cyfarwyddwyr), yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair”.

(4)Ym mharagraff 11 (tâl a lwfansau’r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”, a

(b)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”.

Cyffredinol

25Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 28 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Yn is-adran (3), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

26Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 2006;

  • ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “ymddiriedolaeth GIG” (“NHS trust”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf 2006.

27Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 3 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

28Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.

(1)Caiff rheoliadau, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(3)Ystyr “deddfiad” yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn unrhyw un o’r canlynol, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir—

(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

(c)is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan Ddeddf neu Fesur y cyfeirir ati neu ato ym mharagraff (a) neu (b).

29Dod i rym

(1)Daw’r adran hon ac adran 30 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

30Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

(a gyflwynir gan adran 12(2))

ATODLEN 1Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru

RHAN 1Statws

Statws

1(1)Nid yw Corff Llais y Dinesydd i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo’r Corff i’w ystyried yn eiddo i’r Goron, nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

RHAN 2Aelodau

Aelodaeth

2(1)Aelodau Corff Llais y Dinesydd yw—

(a)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn aelod-gadeirydd iddo,

(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn ddirprwy i’r aelod-gadeirydd,

(c)o leiaf 6 ond dim mwy nag 8 person arall a benodir gan Weinidogion Cymru,

(d)ei brif weithredwr (gweler paragraff 9), ac

(e)pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Corff, berson a benodir yn aelod cyswllt iddo (gweler paragraff 6).

(2)Yn yr Atodlen hon, cyfeirir ar y cyd at yr aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru fel “aelodau anweithredol”; ac mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at arfer swyddogaeth gan yr aelodau anweithredol yn gyfeiriad at yr aelodau anweithredol yn arfer y swyddogaeth fel pwyllgor o’r Corff.

Anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol

3Caiff person ei anghymhwyso rhag cael ei benodi’n aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd, os yw’r person yn aelod o staff y Corff.

Telerau aelodaeth anweithredol

4(1)Mae aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (4) a pharagraff 5.

(2)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 4 blynedd.

(3)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod anweithredol gael ei ailbenodi’n aelod anweithredol unwaith yn unig (ac mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).

(4)Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(5)Caiff Corff Llais y Dinesydd, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—

(a)talu tâl, treuliau a lwfansau i’w aelodau anweithredol;

(b)talu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Corff, neu mewn cysylltiad â phersonau o’r fath, a symiau am ddarparu pensiynau neu tuag at ddarparu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Corff, neu mewn cysylltiad â phersonau o’r fath.

Diswyddo aelodau anweithredol

5(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd ddiswyddo’r person hwnnw os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod anweithredol o’r Corff atal y person hwnnw dros dro o’i swydd os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3)Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol o’r Corff os daw’r person yn aelod o staff y Corff.

Penodi’r aelod cyswllt

6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

(a)bo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan Gorff Llais y Dinesydd, a

(b)bo swydd yr aelod cyswllt yn wag.

(2)Rhaid i’r aelodau anweithredol wahodd pob un o’r undebau llafur a gydnabyddir gan y Corff i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y Corff.

(3)Rhaid i’r gwahoddiad bennu’r cyfnod y mae enwebiad i’w wneud ynddo.

(4)Rhaid i’r aelodau anweithredol benodi person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3), fel aelod cyswllt y Corff.

(5)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y Corff, ond os yw’r person—

(a)yn aelod o staff y Corff, a

(b)yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan y Corff.

(6)Yn y Rhan hon—

Telerau aelodaeth gyswllt etc.

7(1)Nid yw aelod cyswllt o Gorff Llais y Dinesydd yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw drafodion gan y Corff.

(2)Mae aelod cyswllt o’r Corff yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir gan yr aelodau anweithredol yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (5) a pharagraff 8.

(3)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod cyswllt fod yn hwy na 4 blynedd.

(4)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt gael ei ailbenodi o dan baragraff 6 yn aelod cyswllt (ac mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).

(5)Caiff aelod cyswllt o’r Corff ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau anweithredol.

(6)Caiff Corff Llais y Dinesydd dalu treuliau i aelod cyswllt.

Anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol

8(1)Caiff yr aelodau anweithredol drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod cyswllt Corff Llais y Dinesydd ddiswyddo’r person hwnnw fel yr aelod cyswllt os ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2)Caiff yr aelodau anweithredol drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod cyswllt y Corff atal y person hwnnw dros dro o’i swydd fel yr aelod cyswllt, os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3)Mae aelod cyswllt yn peidio â dal swydd os yw’r aelod yn peidio â bod yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt (gweler paragraff 6(5)).

RHAN 3Staff

Prif weithredwr

9(1)Rhaid i aelodau anweithredol Corff Llais y Dinesydd benodi person yn brif weithredwr iddo.

(2)Penodir y prif weithredwr ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) a bennir gan yr aelodau anweithredol yn nhelerau’r penodiad.

(3)Ni chaniateir gwneud penodiad o dan y paragraff hwn heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Staff eraill

10(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd benodi aelodau eraill o staff, yn ogystal â phrif weithredwr.

(2)Penodir aelod o staff o dan y paragraff hwn ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) a bennir gan y Corff yn nhelerau’r penodiad.

(3)Ni chaiff y Corff gytuno ar delerau ac amodau o ran tâl, lwfansau neu bensiwn heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

RHAN 4Swyddogaethau Ategol etc.

Pwyllgorau

11(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau.

(2)Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Corff neu fod â phersonau o’r fath yn unig.

(3)Caiff y Corff dalu treuliau a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a

(b)nad yw’n aelod o’r Corff, nac yn aelod o’i staff.

Dirprwyo

12(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor—

(a)o’i bwyllgorau,

(b)o’i is-bwyllgorau,

(c)o’i aelodau, neu

(d)o’i staff.

(2)Nid yw trefniant o dan is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb y Corff am arfer swyddogaeth ddirprwyedig, nac ar ei allu i arfer swyddogaeth ddirprwyedig.

Pwerau atodol

13(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’u harfer.

(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i’r Corff fenthyca arian.

RHAN 5Gweithdrefn etc.

Gweithdrefn

14(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd wneud rheolau i reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm).

(2)Rhaid i’r Corff wneud rheolau i reoleiddio gweithdrefn ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau (gan gynnwys cworwm).

Dilysrwydd trafodion a gweithredoedd

15Nid yw’r materion a ganlyn yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion a gweithredoedd Corff Llais y Dinesydd (nac ar ddilysrwydd trafodion a gweithredoedd ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau)—

(a)unrhyw swydd wag ymhlith aelodaeth y Corff, neu

(b)unrhyw ddiffyg o ran penodiad aelod.

Sêl

16(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd fod â sêl.

(2)Rhaid i’r weithred o osod y sêl gael ei dilysu drwy lofnod—

(a)unrhyw aelod o’r Corff, neu

(b)unrhyw berson arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Corff at y diben hwnnw.

Tystiolaeth

17Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu’n briodol o dan sêl Corff Llais y Dinesydd neu wedi ei llofnodi ar ei ran i’w derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, i’w chymryd fel pe bai wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.

RHAN 6Materion Ariannol

Cyllid

18Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i Gorff Llais y Dinesydd o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau, ac yn unol ag unrhyw amodau, y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl eu bod yn briodol.

Swyddog cyfrifyddu

19(1)Prif weithredwr Corff Llais y Dinesydd yw ei swyddog cyfrifyddu.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Corff, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Corff;

(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd y Corff o’i adnoddau;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu ei Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Cyfrifon

20(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd, ar gyfer pob blwyddyn ariannol—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â’r cyfrifon hynny, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon.

(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,

(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno, ac

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Corff gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Archwilio

21(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob datganiad o gyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Gorff Llais y Dinesydd o dan baragraff 20(3)(b).

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod pan gyflwynir y datganiad o gyfrifon (“y cyfnod o 4 mis”), osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad, neu

(b)os nad yw’n rhesymol ymarferol cydymffurfio â pharagraff (a), ddatganiad i’r perwyl hwnnw, y mae rhaid iddo gynnwys rhesymau o ran pam mae hyn yn wir.

(4)Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gosod datganiad o dan is-baragraff (3)(b) mewn perthynas â datganiad o gyfrifon, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 4 mis.

(5)Wrth gydymffurfio ag is-baragraff (2) rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn benodol, archwilio a aed, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol, i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef, yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sy’n llywodraethu’r gwariant hwnnw, ac adrodd ar hynny.

RHAN 7Gofynion Adrodd etc.

Cynllun blynyddol

22(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gyhoeddi cynllun sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i gynllun o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad o amcanion a blaenoriaethau’r Corff am y flwyddyn.

(3)Cyn cyhoeddi cynllun o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Corff ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ystyried eu bod yn briodol ynghylch ei amcanion a blaenoriaethau arfaethedig.

Adroddiadau blynyddol

23(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i’r Corff—

(a)anfon copi o’i adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru;

(b)gosod copi o’i adroddiad blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru

24Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau sy’n ofynnol ganddynt o bryd i’w gilydd.

RHAN 8Dehongli

Dehongli cyffredinol

25Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “aelod anweithredol” yr ystyr a roddir gan baragraff 2(2);

  • ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth.

(a gyflwynir gan adran 23(3))

ATODLEN 2Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau

Cynlluniau trosglwyddo

1(1)Caiff Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, wneud un neu ragor o gynlluniau trosglwyddo.

(2)Mae cynllun trosglwyddo yn gynllun sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau a grybwyllir yn is-baragraff (3).

(3)Mae’r eiddo, yr hawliau a’r rhwymedigaethau yn eiddo ac yn hawliau a gaffaelir, neu’n rhwymedigaethau yr eir iddynt, gan—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)ymddiriedolaeth GIG.

(4)Ymhlith y pethau y caniateir eu trosglwyddo o dan gynllun trosglwyddo mae—

(a)eiddo, hawliau a rhwymedigaethau na ellid eu trosglwyddo fel arall;

(b)eiddo a gaffaelir, a hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi, ar ôl i’r cynllun gael ei wneud.

(5)Caiff cynllun trosglwyddo wneud darpariaeth ganlyniadol, atodol, gysylltiedig, drosiannol neu ddarfodol.

(6)Yn rhinwedd is-baragraff (5), caiff cynllun trosglwyddo, er enghraifft—

(a)creu hawliau, neu osod rhwymedigaethau, mewn perthynas ag eiddo neu hawliau a drosglwyddir;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch effaith barhaus pethau a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch parhad pethau (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd wrthi’n cael eu gwneud mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(d)gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu perchnogaeth ar eiddo neu ddefnydd o eiddo;

(e)gwneud darpariaeth i gyfeiriadau at Lywodraeth Cymru neu Weinidogion Cymru, neu gyfeiriadau at Fwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG, mewn offeryn neu mewn dogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir, gael eu trin fel cyfeiriadau at Gorff Llais y Dinesydd;

(f)gwneud yr un ddarpariaeth â darpariaeth a wneir gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), neu ddarpariaeth sy’n debyg i’r ddarpariaeth honno, mewn achos pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

(7)Caiff cynllun trosglwyddo ddarparu—

(a)ar gyfer ei addasu drwy gytundeb;

(b)i addasiadau gael effaith o’r dyddiad y daeth y cynllun yn effeithiol.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw gynllun trosglwyddo gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(9)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi mewn perthynas â chontract cyflogaeth;

(b)mae cyfeiriadau at drosglwyddo eiddo yn cynnwys cyfeiriadau at roi les.

(a gyflwynir gan adran 27)

ATODLEN 3Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol

RHAN 1Diwygiadau a diddymiadau sy’n ymwneud â Rhan 2

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43)

1Mae Rhan 2 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (safonau mewn perthynas â’r gofal iechyd a ddarperir gan neu ar gyfer cyrff GIG Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2Mae adran 45(1) wedi ei diddymu.

3Yn adran 47 (pŵer i lunio a chyhoeddi safonau mewn perthynas â darparu gofal iechyd), yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “every” hyd at y diwedd rhodder “a Welsh NHS body in discharging a duty under section 12A(1), 20A(1) or 24A(1) of the National Health Service (Wales) Act 2006 (duties to secure quality in the provision of health services).”

4Yn adran 70 (adolygiadau ac ymchwiliadau sy’n ymwneud â Chymru), yn is-adran (3), yn lle’r geiriau o “arrangements” hyd at y diwedd rhodder “steps taken by a Welsh NHS body for the purpose of discharging a duty under section 12A(1), 20A(1) or 24A(1) of the National Health Service (Wales) Act 2006 (duties to secure quality in the provision of health services).”

RHAN 2Diwygiadau a diddymiadau sy’n ymwneud â Rhan 4

Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (p. 67)

5Yn Atodlen 1 i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (cyrff y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt), ym mharagraff 1, ar ôl is-baragraff (bj) mewnosoder—

(bja)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales;.

Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20)

6Yn adran 134 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (gohebiaeth cleifion)—

(a)ar ôl is-adran (3)(ca) mewnosoder—

(cb)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales;;

(b)yn is-adran (3)(e), hepgorer “, a Community Health Council”.

Deddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 (p. 24)

7Mae Deddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 wedi ei diddymu.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36)

8Yn Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (awdurdodau cyhoeddus)—

(a)yn Rhan 3 (y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru a Lloegr), hepgorer paragraff 41;

(b)yn Rhan 6 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol), ar ôl y cofnod ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru mewnosoder—

  • The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

9Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ystyr “cofnodion cyhoeddus Cymru”), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales,.

Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15)

10Yn Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus), yn Rhan 2 (awdurdodau Cymreig perthnasol)—

(a)o dan y pennawd “National Health Service”—

(i)hepgorer y geiriau “A Community Health Council in Wales.”;

(ii)hepgorer y geiriau “The Board of Community Health Councils in Wales or Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.”;

(b)o dan y pennawd “other public authorities”, ar ôl y cofnod ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru mewnosoder—

  • The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales or Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)

11Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff cyhoeddus etc.: safonau), yn y tabl —

(a)hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;

(c)o dan y pennawd “Cyffredinol”, ar ôl y cofnod ar gyfer Comisiynydd y Gronfa Gymdeithasol mewnosoder—

Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”)Safonau cyflenwi gwasanaethau
Safonau llunio polisi
Safonau gweithredu
Safonau cadw cofnodion.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)

12Yn adran 32 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (partneriaid eraill byrddau gwasanaethau cyhoeddus)—

(a)hepgorer is-adran (1)(c);

(b)ar ôl is-adran (1)(b) mewnosoder—

(ba)Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;.

Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (p. 6)

13Yn Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (awdurdodau penodedig), yn Rhan 1 (Cyffredinol: Cymru a Lloegr), o dan y pennawd “Health and social care”, hepgorer y geiriau “A Community Health Council in Wales.”

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2)

14Yn adran 177 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (ystyr awdurdod perthnasol yn Rhan 9 o’r Ddeddf)—

(a)hepgorer is-adran (1)(g), a

(b)hepgorer is-adran (2)(c).

Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (p. 30)

15Yn Atodlen 4 i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (personau penodedig at ddibenion datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), yn Rhan 2 (cyrff Cymreig)—

(a)ym mharagraff 35, yn lle “A Community Health Council in Wales.” rhodder “The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales.”;

(b)hepgorer paragraff 38.

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 (O.S. 2018/441)

16(1)Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn rheoliad 3(2)(b) yn lle “Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt” rhodder “Corff Llais y Dinesydd sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo”.

(3)Yn Atodlen 6—

(a)hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;

(c)yn y lle priodol mewnosoder—

  • Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”).

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3)

17(1)Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 16 (pŵer i ymchwilio i wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd), yn y diffiniad o “awdurdod rhestredig perthnasol” yn is-adran (4)—

(a)hepgorer paragraff (a);

(b)hepgorer paragraff (e);

(c)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(ia)Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;.

(3)Yn Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig), o dan y pennawd “Iechyd a gofal cymdeithasol”—

(a)hepgorer y geiriau “Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.”;

(b)hepgorer y geiriau “Cyngor Iechyd Cymuned.”;

(c)ar ôl y cofnod olaf mewnosoder—

  • Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.

RHAN 3Diwygio Deddf 2006: Gwasanaethau Eirioli Annibynnol

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42)

18Yn adran 187 o Ddeddf 2006 (dyletswydd Gweinidogion Cymru i drefnu i wasanaethau eirioli annibynnol gael eu darparu)—

(a)yn is-adran (2)(ca), ar ôl “health service body” mewnosoder “, family health service provider in Wales, independent provider”;

(b)yn is-adran (3), yn y lle priodol, mewnosoder—

  • family health service provider in Wales” has the same meaning as it has in the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019 (see, in particular, section 78 of that Act),”..

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources