Search Legislation

Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1733 (Cy.176)

BYWYD GWYLLT, CYMRU

Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

6 Gorffennaf 2004

Yn dod i rym

2 Awst 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 2 Awst 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr ac maent yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3);

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Lloegr a Chymru) (Diwygio) 2004(4)).

Cymhwyso Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981: Cymru

3.—(1Mae effaith adran 27ZA o'r Ddeddf (a fewnosodwyd gan Reoliadau 2004) yn peidio, fel bod y diwygiadau i Ran 1 o'r Ddeddf a wnaed gan reoliadau 3 a 4 o Reoliadau 2004 ac sydd wedi'u cynnwys yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys hefyd i Gymru.

(2Mae'r cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(5) i'r Ddeddf i'w drin fel petai'n cyfeirio at y Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau 2004 a'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004

Rheoliad 3(1)

YR ATODLENDIWYGIADAU I DDEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981

1.  Yn adran 1 (diogelu adar gwyllt, eu nythod a'u hwyau)—

(a)yn is-adran (3)(a)—

(i)o flaen “killed”, yr ail dro y mae'n digwydd, mewnosodwch “lawfully”, a

(ii)hepgorwch “otherwise than in contravention of the relevant provisions”;

(b)yn is-adran(3)(b)—

(i)o flaen “sold” mewnosodwch “lawfully”, a

(ii)hepgorwch “otherwise than in contravention of the relevant provisions”;

(c)yn is-adran (3) hepgorwch y geiriau o “and”, lle mae'n digwydd gyntaf, hyd at ddiwedd yr is-adran; ac

(ch)ar ôl is-adran (3), mewnosodwch yr is-adran ganlynol—

(3A) In subsection (3) “lawfully” means without any contravention of—

(a)this Part and orders made under it;

(b)the Protection of Birds Acts 1954 to 1967 and orders made under those Acts;

(c)any other legislation which implements Council Directive 79/409/EEC on the conservation of wild birds and extends to any part of the United Kingdom, to any area designated in accordance with section 1(7) of the Continental Shelf Act 1964, or to any area to which British fishery limits extend in accordance with section 1 of the Fishery Limits Act 1976; ac

(d)the provisions of the law of any member State (other than the United Kingdom) implementing the Council Directive referred to in paragraph (c)..

2.  Yn y diffiniad o “wild bird” yn is-adran (1) o adran 27 (dehongli Rhan 1)—

(a)yn lle “kind” rhowch “species”, a

(b)yn lle “Great Britain” rhowch “the European territory of any member State”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”), sy'n trosi'n rhannol Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt (O.J. Rhif L103, 25.04.1979, t.1).

Mewnosododd Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwallt 1981 (Lloegr a Chymru) (Diwygio) 2004 (“Rheoliadau 2004”) adran 27ZA newydd yn y Ddeddf a'i heffaith oedd bod y diwygiadau eraill a wnaed gan y Rheoliadau hynny yn gymwys i Loegr yn unig. Yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, mae effaith adran 27ZA o'r Ddeddf yn peidio, a thrwy hynny yn cymhwyso i Gymru y diwygiadau a wnaed gan Reoliadau 2004.

Mae'r diwygiadau hynny, sydd wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, yn cynnwys cyfyngiad ar gwmpas yr amddiffyniadau o dan adran 1(3) o'r Ddeddf, ac estyniad i'r diffiniad o “wild bird” yn adran 27 o'r Ddeddf.

(1)

O.S. 2002/248, erthygl 3 ac Atodlen 2.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources