- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Wedi'u gwneud
17 Mai 2005
Yn dod i rym
31 Mai 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 166 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran anheddau(2) yng Nghymru yn unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
3.—(1) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 (Gofyniad i hysbysu deiliaid lesoedd hir bod rhent yn ddyledus) gynnwys (yn ychwanegol at yr wybodaeth a bennir yn unol â pharagraffau (a) a (b) o is-adran (2) o'r adran honno ac, os yw'n gymwys, paragraff (c) o'r is-adran honno) —
(a)enw'r lesddeiliad y mae'r hysbysiad yn cael ei roi iddo;
(b)y cyfnod y mae'r rhent sy'n cael ei hawlio i'w briodoli iddo;
(c)enw'r person y mae taliad i'w wneud iddo, a'r cyfeiriad ar gyfer talu;
(ch)enw'r landlord y mae'r hysbysiad yn cael ei roi ganddo ac, os nad yw wedi'i nodi yn unol ag is-baragraff (c) uchod, ei gyfeiriad; a
(d)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
Rheoliad 3
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â ffurf a chynnwys hysbysiadau sy'n gofyn bod rhent tir yn cael ei dalu.
Mae Rheoliad 3 yn ychwanegu at adran 166(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, sy'n ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad o dan adran 166(1) o'r Ddeddf honno, ynglyn â thalu rhent tir, bennu'r swm sy'n ddyledus, y dyddiad y mae'r tenant yn atebol i'w dalu, ac, os yw'n wahanol, y dyddiad y byddai'r tenant wedi bod yn atebol i'w dalu yn unol â'r les. Mae'r gofynion ychwanegol a bennir yn rheoliad 3 yn cynnwys darparu nodiadau ar gyfer lesddeiliaid a landlordiaid. Mae cynnwys y nodiadau wedi'i nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau, fel rhan o'r ffurf ragnodedig ar hysbysiad o dan adran 166(1).
2002 p.15. Gweler y diffiniad o “prescribed” yn adran 166(9) o Ddeddf 2002. Yn rhinwedd adran 179(1) o'r Ddeddf honno, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r “appropriate national authority” o ran Cymru.
Gweler adran 166(9) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, y diffiniad o “the 1985 Act” yn adran 179(2) o'r Ddeddf honno, ac adran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: