Search Legislation

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 1) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3)

ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 1) 2005

Wedi'i wneud

18 Ionawr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 73 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 1) 2005.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

(3Mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2005

2.—(1Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Ionawr 2005.

(2Daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod i rym at y dibenion a bennir yn ail golofn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Ionawr 2005

Erthygl 2

YR ATODLENDarpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2005

Adran 12Pob diben
Adran 16Pob diben
Is-adrannau (1) i (3) o adran 20At ddibenion rhagnodi graddfeydd ffioedd am archwilio'r cyfrifon a baratowyd mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005.
Is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 21Pob diben
Adran 39At ddibenion ymgynghori a gwneud rheoliadau mewn perthynas â chyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon a baratowyd mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005.
Adran 50 a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 1At ddibenion dwyn i effaith: (a) paragraff 1 o Atodlen 1, i'r graddau y mae'n angenrheidiol at ddibenion (b) isod, a (b) paragraff 7 o Atodlen 1, i'r graddau y mae'n darparu i adran 8A newydd gael ei mewnosod ar ôl adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (3).
Is-adrannau (6) i (8) o adran 54Pob diben
Adran 58Pob diben
Adran 59Pob diben
Adran 68 ac Atodlen 3Pob diben

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddapariaethau amrywiol Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“y Ddeddf”) yng Nghymru a Lloegr.

Mae cyfeiriadau at adrannau neu Atodlenni (oni nodir fel arall) yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf neu'r Atodlenni iddi.

Daw darpariaethau'r Ddeddf a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Ionawr 2005. Oni phennir fel arall yn ail golofn yr Atodlen, daw'r darpariaethau hynny i rym ar y dyddiad hwnnw at bob diben. Effaith y darpariaethau fydd fel a ganlyn.

Mae adran 12 yn diffinio'r term “corff llywodraeth leol yng Nghymru” at ddibenion y Ddeddf. Mae hefyd yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) bŵer i newid y rhestr o gyrff y'u diffinnir fel cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae adran 16 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi côd arferion archwilio sy'n rhagnodi'r ffordd y mae archwilwyr i gyflawni eu swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 2 o'r Ddeddf.

Mae is-adrannau (1)-(3) o adran 20 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ragnodi graddfa neu raddfeydd o ffioedd sy'n daladwy am archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru o dan y Ddeddf. Dygir y darpariaethau hyn i rym mewn perthynas yn unig â ffioedd sy'n daladwy am archwilio cyfrifon a baratowyd mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005, sef y dyddiad y bwriedir dwyn gweddill darpariaethau'r Ddeddf i effaith.

Mae is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 21 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ddisodli'r raddfa neu'r graddfeydd a osodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru gan ei raddfa neu ei raddfedydd ei hun, os yw o'r farn bod hynny'n angenrheidiol neu'n ddymunol.

Mae Adran 39 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n rheoli cadw cyfrifon gan gyrff llywodraeth leol yng Nghymru, eu ffurf, a'u hardystio etc, ac yn rheoli arfer hawliau gan aelodau o'r cyhoedd o dan adrannau 29 — 31 o'r Ddeddf i gael mynediad i ddogfennau, ac i godi cwestiynnau a gwrthwynebiadau. Dygir y ddarpariaeth i rym yn unig er mwyn galluogi i reoliadau gael eu gwneud i reoli cyfrifon a datganiadau o gyfrifon a baratoir mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005.

Mae adran 50 yn darparu bod Atodlen 1 yn effeithiol. Dygir hi i rym gan y Gorchymyn hwn ond yn unig at ddibenion dwyn i effaith ran o baragraff 7 o Atodlen 1, sy'n darparu ar gyfer adran 8A newydd i'w mewnosod ar ôl adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (“Deddf 1999”). Mae'r adran 8A newydd o Ddeddf 1999 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi côd ymarfer sy'n rhagnodi'r ffordd y mae archwilwyr a benodwyd ganddo yn cyflawni eu swyddogaethau o dan adran 7 o Ddeddf 1999. Mae hefyd yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd mewn perthynas ag archwilio cynlluniau perfformiad, gan archwilwyr a benodwyd ganddo, o dan Ran 1 o Ddeddf 1999. Yn rhinwedd yr adran 8A(4) newydd o Ddeddf 1999, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd amgen.

Mae is-adrannau (6) i (8) o adran 54 yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol i ddiddymu neu ddiwygio darpariaethau blaenorol adran 54, drwy orchymyn a wnaed gan offeryn statudol.

Mae adran 58 yn cynnwys darpariaethau o ran ffurf a chynnwys gorchmynion a rheoliadau y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu gwneud o dan Ran 2 o'r Ddeddf, ac o ran cynnwys gorchmynion neu reoliadau y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol eu gwneud o dan y Rhan honno.

Mae adran 59 yn gosod y dehongliad o'r termau amrywiol at ddibenion Rhan 2 o'r Ddeddf.

Mae adran 68 yn darparu ar gyfer gwneud cynlluniau trosglwyddo i drosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac yn gwneud Atodlen 3 yn effeithiol, sy'n gwneud darpariaeth bellach am y cynlluniau trosglwyddo hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources