- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2006.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1); ac
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2006 ac at Atodlenni iddi.
3.—(1) Daw darpariaethau Deddf 2006 a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2008 o ran Cymru.
(2) Daw'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2008.
(3) Daw'r darpariaethau a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2008 o ran Cymru.
4.—(1) Er bod adran 40 o Ddeddf 2006 a'r diwygiadau y mae'r adran honno yn ei wneud i adran 84 o Ddeddf 1998 wedi dod i rym, mae Cod Ymarfer Derbyniadau i Ysgolion(2) ac adran 84 o Ddeddf 1998 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol mewn perthynas â'r Cod hwnnw i barhau mewn grym tan y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw.
(2) Er bod adran 40 o Ddeddf 2006 a'r diwygiadau y mae'r adran honno yn ei wneud i adran 84 o Ddeddf 1998 wedi dod i rym, mae Cod Ymarfer Apelau Derbyniadau i Ysgolion (3) ac adran 84 o Ddeddf 1998 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol mewn perthynas â'r Cod hwnnw i barhau mewn grym —
(a)tan y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer apelau derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw, a
(b)o ran unrhyw apêl a wnaed o dan adran 94 o Ddeddf 1998 lle y mae hysbysiad o apêl wedi cael ei roi cyn y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer apelau derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
4 Mehefin 2008
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: