- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2014, ond, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), mae’n cael effaith o 1 Gorffennaf 2013 ymlaen(1).
(3) Mae paragraff 12(c) o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, a chymaint o erthygl 2 ag sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth honno, yn cael effaith o 25 Medi 2009 ymlaen.
(4) Mae darpariaethau canlynol yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, a chymaint o erthygl 2 ag sy’n ymwneud â’r darpariaethau hynny, yn cael effaith o 11 Ebrill 2011 ymlaen—
(a)paragraff 2(f)(ii),(iii) a (iv); a
(b)paragraff 2(g) (sy’n mewnosod rheol B5C (budd pensiwn ychwanegol)), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r budd pensiwn ychwanegol o dan baragraff (3) o reol B5C, a’r diffiniadau o “beginning date” a “following relevant tax year” ym mharagraff (6) o reol B5C.
(5) Mae darpariaethau canlynol yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, a chymaint o erthygl 2 ag sy’n ymwneud â’r darpariaethau hynny, yn cael effaith o 1 Ebrill 2014—
(a)paragraff 15(f), (k) ac (l); a
(b)paragraff 20(b).
(6) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “awdurdod tân ac achub perthnasol” (“relevant fire and rescue authority”) mewn perthynas â pherson sydd â hawlogaeth i gael pensiwn neu berson y mae pensiwn yn daladwy iddo, yw—
yr awdurdod tân ac achub a fu’n cyflogi’r person hwnnw felly, ddiwethaf; neu
os peidiodd cyflogaeth y person hwnnw cyn 1 Hydref 2004, yr awdurdod tân ac achub a etifeddodd rwymedigaethau’r awdurdod tân a fu’n cyflogi’r person hwnnw ddiwethaf;
ystyr “y Cynllun” (“the Scheme”) yw Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) fel y’i pennir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1992; ac
ystyr “Gorchymyn 1992” (“the 1992 Order”) yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(2).
Rhoddir pŵer i roi effaith yn ôl-weithredol gan adran 12(1) o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11).
O.S. 1992/129; diwygiwyd gan O.S.au 1997/2309 a 2851, 1998/1010, 2001/3649 a 3691, 2004/1912 a 2918 (Cy. 257), 2006/1672 (Cy. 160), 2007/1074 (Cy. 112), 2009/1226 (Cy. 109), 2010/234, 2012/974 (Cy. 128), 2013/736 (Cy. 88) a 2014/522 (Cy. 63).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: