Search Legislation

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1394 (Cy. 138)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2015

Gwnaed

17 Mehefin 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Mehefin 2015

Yn dod i rym

19 Gorffennaf 2015

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas ag atal ac adfer difrod amgylcheddol ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y’i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno(3).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”)(4). Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2009 yn darparu bod cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. At ddibenion Rheoliadau 2009 fel y maent yn cael effaith fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 2009 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Gorffennaf 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(5).

Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

2.—(1Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

ystyr “dyfroedd morol” (“marine waters”) yw dyfroedd sy’n cael eu dosbarthu’n ddyfroedd morol yn unol â Chyfarwyddeb 2008/56/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi amgylcheddol morol(6);;

ystyr “gwaelodlin” (“baseline”) yw’r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 1987(7);.

(3Yn rheoliad 4 (ystyr “difrod amgylcheddol”)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (b) hepgorer yr ail “neu”;

(ii)hepgorer is-baragraff (c) a mewnosoder—

(c)dyfroedd morol, neu

(d)tir,; a

(b)hepgorer paragraff (5) a mewnosoder—

(5) Ystyr difrod amgylcheddol i ddyfroedd morol yw difrod i ddyfroedd morol sy’n effeithio’n sylweddol andwyol ar eu statws amgylcheddol.

(6) Ystyr difrod amgylcheddol i dir yw halogi’r tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy’n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol..

(4Yn rheoliad 6 (yr ardaloedd lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr” creer rhes newydd ac yn y golofn gyntaf (Y math o ddifrod) mewnosoder “Difrod i ddyfroedd morol”; a

(ii)yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Yr ardal lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys) mewnosoder—

Yr holl ddyfroedd morol o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau a ganlyn—

(a)

dyfroedd morol hyd at un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru i’r graddau nad ydynt wedi cael sylw fel difrod i ddŵr eisoes;

(b)

dyfroedd morol o un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru, gan ymestyn i 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru; a

(b)hepgorer paragraff (2).

(5Ar ôl rheoliad 8(1) (esemptiadau) mewnosoder—

(1A) Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â’r difrod i ddyfroedd morol fel petai “19 Gorffennaf 2015” wedi ei roi yn lle “i’r rheoliadau hyn ddod i rym” yn is-baragraff (a).

(6Yn rheoliad 10 (yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010)(8) hepgorer paragraff (3)(b)(iii) a mewnosoder—

(iii)Gweinidogion Cymru, os yw’r difrod i ddyfroedd morol; a

(iv)Corff Adnoddau Naturiol Cymru, os yw’r difrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

(7Yn rheoliad 11(1) (Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraill) ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr—” creer rhes newydd a mewnosoder—

(a)yng ngholofn gyntaf y tabl (Y math o ddifrod amgylcheddol) “Difrod i ddyfroedd morol—”;

(b)yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Man y difrod) mewnosoder “Yr holl ddyfroedd morol hyd at 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru”; ac

(c)yn y cofnod cyfatebol yn y drydedd golofn (Yr awdurdod gorfodi) mewnosoder “Gweinidogion Cymru”.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

17 Mehefin 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (9) (“Rheoliadau 2009”) sy’n gweithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol(10) (“y Gyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2009 i weithredu’r newidiadau i’r Gyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol a gyflwynwyd gan Erthygl 38 o Gyfarwyddeb 2013/30/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddiogelwch gweithrediadau olew a nwy alltraeth ac yn diwygio Cyfarwyddeb 2004/35/EC(11). Mae erthygl 38 o Gyfarwyddeb 2013/30/EU yn ymestyn y diffiniad o ‘difrod amgylcheddol’ a geir yn y Gyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol i gynnwys difrod sy’n effeithio’n sylweddol andwyol ar statws amgylcheddol dyfroedd morol fel y’u diffinnir yng Nghyfarwyddeb 2008/56/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu cymunedol ym maes polisi amgylcheddol morol(12). Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2009 yn cael ei ddiwygio i ddarparu cyfyngiadau amser mewn perthynas â difrod i ddyfroedd morol. Mae rheoliadau 10 ac 11 yn cael eu diwygio er mwyn pennu’r awdurdodau gorfodi ar gyfer difrod i ddyfroedd morol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(3)

Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

(4)

O.S. 2009/995 (Cy. 81); O.S. 2011/556 a 971, 2012/630, 2013/775 (Cy. 90) yw’r offerynnau diwygio perthnasol.

(6)

OJ Rhif L 164, 25.6.2008, t. 19.

(8)

O.S. 2010/675; O.S. 2010/676, a 2172; 2011/988, 1043, 2043 a 2933; 2012/630 ac 811; 2013/390, 755 a 766, 2014/255 a 517 (Cy. 60) yw’r offerynnau diwygio perthnasol.

(9)

O.S. 2009/995 (Cy. 81); O.S. 2011/556 a 971, 2012/630, 2013/775 (Cy. 90) yw’r offerynnau diwygio perthnasol.

(10)

OJ Rhif L 143, 30.4.2004, t. 56, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2013/30/EU (OJ Rhif. L 178, 28.6.2013, t. 66).

(11)

OJ Rhif L 178, 28.6.2013, t. 66.

(12)

OJ Rhif L 164, 25.6.2008, t. 19.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources