- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gymraeg
Gwnaed
15 Mawrth 2016
Yn dod i rym
21 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 35, 38 a 150(2)(f) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 150(2)(f) o’r Mesur, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Mawrth 2016.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
2. Mae Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc: safonau) i’r Mesur wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
15 Mawrth 2016
Erthygl 2
1. Yn nhestun Cymraeg y tabl yn Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc: safonau) i’r Mesur, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“Coleg Merthyr Tudful Cyfyngedig (“Merthyr Tydfil College Limited”) | Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Corff llywodraethu Coleg Catholig Dewi Sant (“The governing body of Saint David’s Catholic College”) | Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Tribiwnlys Prisio Cymru (“Valuation Tribunal for Wales”) | Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“WJEC CBAC Cyfyngedig (“WJEC CBAC Limited”) | Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (“Trustees of the National Heritage Memorial Fund”) | Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
2. Yn nhestun Saesneg y tabl yn Atodlen 6 (public bodies etc: standards) i’r Mesur, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“The governing body of Saint David’s Catholic College (“Corff llywodraethu Coleg Catholig Dewi Sant”) | Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Merthyr Tydfil College Limited (“Coleg Merthyr Tudful Cyfyngedig”) | Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Trustees of the National Heritage Memorial Fund (“Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol”) | Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Valuation Tribunal for Wales (“Tribiwnlys Prisio Cymru”) | Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“WJEC CBAC Limited (“WJEC CBAC Cyfyngedig”) | Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
3. Yn nhestun Cymraeg y tabl yn Atodlen 6 i’r Mesur, hepgorer y cofnodion a ganlyn—
(a)“Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (“National Heritage Memorial Fund”)”;
(b)“Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru (“The Valuation Tribunal Service for Wales”)”.
4. Yn nhestun Saesneg y tabl yn Atodlen 6 i’r Mesur, hepgorer y cofnodion a ganlyn—
(a)“National Heritage Memorial Fund (“Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol”)”;
(b)“The Valuation Tribunal Service for Wales (“Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru”)”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”).
Mae adran 25 o’r Mesur yn darparu bod rhaid i berson gydymffurfio â safon ymddygiad a bennir gan Weinidogion Cymru os bodlonir, a thra bodlonir, chwe amod. Amod 1 yw bod y person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau. Amod 2 yw bod y safon yn gymwysadwy i’r person. Nid yw’r amodau eraill yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Mae adran 33 o’r Mesur yn darparu bod person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau os yw’r person (a) yn dod o fewn Atodlen 5 a hefyd o fewn Atodlen 6, neu (b) yn dod o fewn Atodlen 7 a hefyd o fewn Atodlen 8. Mae person yn dod o fewn Atodlen 5 os yw’r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5. Mae person yn dod o fewn Atodlen 6 os yw’r person (a) yn cael ei bennu yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 6, neu (b) yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno. Nid yw Atodlenni 7 ac 8 yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Mae adran 36 yn darparu bod safon yn gymwysadwy i berson os yw’r safon yn perthyn i ddosbarth o safonau a bennir yng ngholofn 2 o gofnod y person yn y tabl yn Atodlen 6. Mae pob un o’r canlynol yn ddosbarth o safonau—
(i)safonau cyflenwi gwasanaethau;
(ii)safonau llunio polisi;
(iii)safonau gweithredu;
(iv)safonau hybu;
(v)safonau cadw cofnodion.
Mae adran 35 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio’r tabl yn Atodlen 6 fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at berson sy’n dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5, neu gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5.
Mae adran 38 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio’r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn 2 o gofnod yn cynnwys cyfeiriad at un neu ragor o’r canlynol—
(i)safonau cyflenwi gwasanaethau;
(ii)safonau llunio polisi;
(iii)safonau gweithredu;
(iv)safonau cadw cofnodion.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 6 i’r Mesur drwy—
(a)mewnosod personau newydd yn Atodlen 6 a phennu dosbarthiadau o safonau yng ngholofn 2 o gofnod pob person;
(b)hepgor personau o Atodlen 6 pan fo’n briodol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: