- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
19 Medi 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 58 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015(1).
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) 2018.
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ddod i rym yw 22 Hydref 2018—
(a)adrannau 52 a 53 (i’r graddau nad yw’r adrannau hynny eisoes mewn grym); a
(b)Atodlen 6.
3.—(1) Nid yw adran 15C o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(2) (fel y’i diwygir gan adran 53 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, ac Atodlen 6 iddi) yn gymwys i gais o dan adran 15(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(3) i gofrestru tir yng Nghymru yn faes tref a phentref, a anfonir cyn y diwrnod a bennir gan erthygl 2.
(2) At ddibenion adran 15C o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (fel y’i diwygir gan adran 53 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, ac Atodlen 6 iddi) nid oes wahaniaeth a fu digwyddiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1B i Ddeddf Tiroedd Comin 2006 cyn y diwrnod a bennir gan erthygl 2, ar y diwrnod hwnnw, neu ar ôl y diwrnod hwnnw.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Medi 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r pumed gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).
Mae erthygl 2 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
adran 52 (datganiad gan berchennog i ddod â diwedd i ddefnyddio tir drwy hawl);
adran 53 (eithrio o’r hawl i wneud cais am gofrestru); ac
Atodlen 6 (meysydd tref a phentref: Atodlen 1B newydd i Ddeddf Tiroedd Comin 2006).
Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru tir yn faes tref neu bentref o dan adran 15(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 wedi eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2 | 1 Ebrill 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 3 (i’r graddau y mae’n rhoi adrannau newydd 60, 60A a 60B yn lle adran 60 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004) | 4 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 4 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 5 Hydref 2015 | O.S. 2015/1736 (Cy. 237) (C. 106) |
Adrannau 11 i 14 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 4 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 15(1) a (2) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 15(3) | 1 Ebrill 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adrannau 17 i 22 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adrannau 24 i 27 (i’r graddau y maent yn ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adrannau 28 i 30 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adran 31 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 4 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 32 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adrannau 33 a 34 (i’r graddau y maent yn ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adrannau 33 i 38 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adran 39 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 5 Mai 2017 | O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49) |
Adrannau 40 i 42 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adrannau 43 i 46 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adrannau 47 a 48 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 5 Mai 2017 | O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49) |
Adran 49 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adran 50 (i’r graddau y mae’n ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adran 50 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 5 Mai 2017 | O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49) |
Adran 51 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 1 i 14; 16(1); 18 i 20; 21(1); 22 i 24; 25(1) a (2)(a) a (b); a 26 o Atodlen 5) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adran 51 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 5 Mai 2017 | O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49) |
Adran 54 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 10 Ebrill 2017 | O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49) |
Rhan 1 o Atodlen 1 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 5 Hydref 2015 | O.S. 2015/1736 (Cy. 237) (C. 106) |
Atodlen 3 (i’r graddau y mae’n ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Atodlen 4 (i’r graddau y mae’n ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Atodlen 5: paragraffau 1 i 14; paragraff 16(1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (2), ac is-baragraff (2); paragraff 18 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 5(4) o Atodlen 8 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; paragraff 19 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 20, a pharagraff 21(1), (2)(a) a (b); paragraff 20; paragraff 21(1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (2)(a) a (b); paragraff 22; paragraff 23 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 24, 25(1), 25(2)(a) a (b), a 26; paragraff 24; paragraff 25(1), (2)(a) a (b); a pharagraff 26. | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Atodlen 5: paragraffau 15 i 19; 21; 22; 23; 25; a 27 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 5 Mai 2017 | O.S. 2017/546 (Cy. 123) (C. 49) |
Gweler adran 58(1) o Ddeddf 2015 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod pan gafodd Deddf 2015 y Cydsyniad Brenhinol ac adran 58(2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2015 gael y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd Deddf 2015 y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Gorffennaf 2015.
2006 p. 26; mewnosodwyd adran 15C gan adran 16(1) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) (“Deddf 2013”).
Diwygiwyd adran 15 gan adran 14 o Ddeddf 2013.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: