Search Legislation

Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 110 (Cy. 27)

Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019

Gwnaed

24 Ionawr 2019

Yn dod i rym

26 Ionawr 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 9 o Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018(1).

Yn unol ag adran 10(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 a deuant i rym ar 26 Ionawr 2019.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Tai 1985(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.

Diwygio Deddf Tai 1985

3.  Mae Deddf 1985 wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn adran 115 (ystyr “tenantiaeth hir”), yn is-adran (1)(c), hepgorer “as it has effect”;

(b)yn adran 118 (yr hawl i brynu), yn is-adran (1), ar ôl “secure tenant” mewnosoder “of a dwelling-house in England”;

(c)yn adran 119 (cyfnod cymhwyso ar gyfer yr hawl i brynu)—

(i)yn is-adran (A1), yn lle “In the application of this Part to England, the” rhodder “The”;

(ii)hepgorer is-adran (1);

(iii)yn is-adran (2) hepgorer “or 1”;

(d)yn adran 121AA (gwybodaeth i helpu tenant i benderfynu pa un ai i arfer yr hawl i brynu etc.), yn is-adran (1) ar ôl “dwelling-houses” mewnosoder “in England”;

(e)yn adran 121B (darparu gwybodaeth)—

(i)yn is-adran (2)(b), ar ôl “secure tenants” mewnosoder “of dwelling-houses in England”;

(ii)yn is-adran (5), ar ôl “secure tenants” mewnosoder “of dwelling-houses in England”;

(f)yn adran 122 (hysbysiad tenant yn hawlio arfer yr hawl i brynu), yn is-adran (1), yn lle “Unless section 122B applies a” rhodder “A”;

(g)hepgorer adran 122A (ceisiadau i atal dros dro yr hawl i brynu etc. mewn rhannau o Gymru: yr effaith ar hawliadau i arfer yr hawl);

(h)hepgorer adran 122B (atal dros dro yr hawl i brynu mewn rhannau o Gymru);

(i)yn adran 124 (hysbysiad landlord yn derbyn neu’n gwadu’r hawl i brynu)—

(i)yn is-adran (1), hepgorer “or 3”;

(ii)hepgorer is-adran (3);

(j)yn adran 130 (lleihau disgownt pan fo disgownt blaenorol wedi ei roi), yn is-adran (2)(c), hepgorer “as it has effect”;

(k)yn adran 153A (hysbysiad tenant am oedi), yn is-adran (1)(a), hepgorer “or (3)”;

(l)yn adran 171A (achosion pan fo’r hawl i brynu wedi ei chadw), yn is-adran (1), ar ôl “dwelling-house” mewnosoder “in England”;

(m)yn adran 171B (graddau’r hawl a gadwyd: personau a thai annedd cymwys)—

(i)yn is-adran (1), ar ôl “the preserved right to buy” mewnosoder “a relevant dwelling-house in England”;

(ii)yn is-adran (6), ar ôl “another dwelling-house” mewnosoder “in England”;

(n)yn adran 171D (delio dilynol: gwaredu buddiant landlord mewn tŷ annedd cymwys)—

(i)yn is-adran (2), yn lle “appropriate authority” rhodder “Secretary of State”;

(ii)hepgorer is-adran (2A);

(o)yn Atodlen 3A (ymgynghori cyn gwarediadau i landlord sector preifat), ym mharagraff 3, yn is-baragraff (2)(c), ar ôl “secure tenant” mewnosoder “of a dwelling-house in England”;

(p)yn Atodlen 5 (eithriadau i’r Hawl i Brynu), ym mharagraff 11—

(i)yn is-baragraff (4), hepgorer y geiriau “or authority” pan fônt yn digwydd;

(ii)yn is-baragraff (5A)—

(aa)yn y geiriau agoriadol, hepgorer “or authority”;

(bb)ym mharagraff (a), hepgorer “in relation to England”;

(cc)hepgorer paragraff (b) a’r “; and” o’i flaen.

Diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

4.  Mae Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(3)wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn adran 30 (rhyddhadau), yn is-adran (3), yn y cyfeiriad at baragraff 2 o Atodlen 15, yn lle “trafodiad hawl i brynu” rhodder “trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus”;

(b)yn Atodlen 15 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol)—

(i)ym mharagraff 1(2)—

(aa)ym mharagraff (a), yn lle “trafodiadau hawl i brynu” rhodder “trafodiadau sy’n destun disgownt sector cyhoeddus”;

(bb)hepgorer paragraff (d);

(ii)ym mharagraff 2 (rhyddhad ar gyfer trafodiad hawl i brynu)—

(aa)yn is-baragraff (1), yn y geiriau agoriadol, yn lle “trafodiad hawl i brynu” rhodder “trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus”;

(bb)yn is-baragraff (2)—

(i)yn y geiriau agoriadol, yn lle “trafodiad hawl i brynu”, rhodder “trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus”;

(ii)hepgorer paragraff (b) a’r “, neu” o’i flaen;

(cc)hepgorer is-baragraff (4);

(dd)hepgorer is-baragraff (5);

(ee)yn is-baragraff (6), hepgorer y diffiniadau o “tŷ annedd cymwys” a “person cymwys”;

(iii)yn sgil hynny—

(aa)mae pennawd Rhan 2 yn dod yn “Rhyddhad ar gyfer trafodiadau disgownt sector cyhoeddus”, a

(bb)mae pennawd paragraff 2 yn dod yn “Rhyddhad ar gyfer trafodiadau disgownt sector cyhoeddus”;

(c)ym mharagraff 3 (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) hepgorer is-baragraff (1)(a)(ii) a’r “, neu” o’i flaen;

(d)ym mharagraff 5 (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol ar gyfer premiwm pan ganiateir cynyddu perchentyaeth) hepgorer is-baragraff (1)(a)(ii) a’r “, neu” o’i flaen;

(e)ym mharagraff 9 (lesoedd rhanberchnogaeth: dehongli)—

(i)hepgorer is-baragraff (1)(b) a’r “, neu” o’i flaen;

(ii)hepgorer is-baragraff (4);

(iii)hepgorer is-baragraff (5);

(f)hepgorer paragraff 18 (rhent i forgais: cydnabyddiaeth drethadwy).

Darpariaethau arbed

5.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys-

(a)pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno i’r landlord yn unol ag adran 122 o Ddeddf 1985 cyn 26 Ionawr 2019; a

(b)i unrhyw roddiad a wneir yn unol ag adran 138(1) o Ddeddf 1985, yn sgil rhoi hysbysiad o’r fath.

(2Er gwaethaf y ffaith bod adran 6 o’r Ddeddf, ac Atodlen 1 iddi, a’r Rheoliadau hyn wedi dod i rym, mae’r darpariaethau a ddiwygir, a addesir neu a ddiddymir gan adran 6 o’r Ddeddf, ac Atodlen 1 iddi, a chan y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn cael effaith ar 25 Ionawr 2019.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

24 Ionawr 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Tai 1985 (“Deddf 1985”) a Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“Deddf 2017”) o ganlyniad i Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.

Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau arbed er mwyn sicrhau y bydd darpariaethau perthnasol o fewn Deddf 1985 yn parhau i fod yn gymwys mewn cysylltiad â cheisiadau a wneir i arfer yr hawl i brynu neu’r hawl i gaffael mewn cysylltiad â thai annedd yng Nghymru ar 25 Ionawr 2019 neu cyn hynny ac mewn cysylltiad â thai annedd sydd wedi eu prynu o dan yr hawl i brynu neu’r hawl i gaffael ar y dyddiad hwnnw neu cyn hynny (neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn unol â hysbysiad a gyflwynir cyn y dyddiad hwnnw).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaethau arbed er mwyn sicrhau y bydd rhyddhadau perthnasol o fewn Atodlen 15 i Ddeddf 2017 hefyd yn gymwys mewn cysylltiadau â thrafodiadau sy’n codi o geisiadau a wneir i arfer hawliau i brynu penodol a rhent i forgais a gyflwynir ar 25 Ionawr 2019 neu cyn hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources