Search Legislation

Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Terfynau amser ar gyfer atgyfeiriadau adran 20 a gofyn bod y penderfyniad i beidio â chynnal cynlluniau yn cael ei ailystyried

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021, Croes Bennawd: Terfynau amser ar gyfer atgyfeiriadau adran 20 a gofyn bod y penderfyniad i beidio â chynnal cynlluniau yn cael ei ailystyried. Help about Changes to Legislation

Terfynau amser ar gyfer atgyfeiriadau adran 20 a gofyn bod y penderfyniad i beidio â chynnal cynlluniau yn cael ei ailystyriedLL+C

Terfyn amser i gorff GIG ymateb i atgyfeiriad adran 20LL+C

11.—(1Rhaid i gorff GIG sydd o dan ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o Ddeddf 2018 (cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG) gydymffurfio â’r ddyletswydd honno yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2).

(2Mae’r cyfnod rhagnodedig—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff GIG yn cael yr atgyfeiriad o dan adran 20 o Ddeddf 2018, a

(b)yn dod i ben ar ddiwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Nid oes angen i’r corff GIG gydymffurfio â’r ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2) os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 11 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Terfyn amser ar gyfer gofyn i benderfyniad i beidio â chynnal cynllun gael ei ailystyriedLL+C

12.—(1Mae’r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 32(1)(b) o Ddeddf 2018 (ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau cyrff llywodraethu o dan adran 31)—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn rhoi’r hysbysiadau o dan adran 31(8) a (9) o’r Ddeddf honno, a

(b)yn dod i ben ar ddiwedd 4 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(2Pan fo’r hysbysiadau o dan adran 31(8) a (9) yn cael eu rhoi ar ddiwrnodau gwahanol (pa un ai oherwydd eu bod yn cael eu rhoi i bersonau gwahanol ar ddiwrnodau gwahanol neu eu rhoi o dan bob is-adran ar ddiwrnodau gwahanol), mae’r cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at y diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn rhoi’r hysbysiadau yn gyfeiriad at yr hwyrach o’r diwrnodau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 12 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help