- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021, Croes Bennawd: Trosglwyddo cyfrifoldeb am gynlluniau datblygu unigol.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
13.—(1) Rhaid i gais gan awdurdod lleol o dan adran 36(2) o Ddeddf 2018 fod corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad—
(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig, a
(b)dod gyda chopi o’r cynllun, oni bai bod gan y corff llywodraethu gopi ohono eisoes.
(2) Mae’r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 36(3) o Ddeddf 2018 (y cyfnod y caiff awdurdod lleol atgyfeirio mater at Weinidogion Cymru ar ei ôl)—
(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn cael y cais o dan adran 36(2), a
(b)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 20 niwrnod amser tymor sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).
(3) Pan fo corff llywodraethu yn cytuno i gais awdurdod lleol o dan adran 36(2)—
(a)rhaid iddo roi gwybod i’r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am ei gytundeb, a
(b)mae’n dod yn gyfrifol am y cynllun o dan adran 12(4) o Ddeddf 2018—
(i)ar y diwrnod y cytunir arno rhwng y corff llywodraethu a’r awdurdod i’r cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo;
(ii)fel arall ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael cytundeb ysgrifenedig y corff llywodraethu i’r cais.
(4) Ym mharagraff (2), ystyr “diwrnod amser tymor” mewn perthynas â sefydliad yn y sector addysg bellach yw diwrnod y mae’r sefydliad i fod i gwrdd at ddiben addysgu myfyrwyr ar yr amod bod y diwrnod hwnnw o fewn cyfnod amser y mae’r sefydliad yn cyflenwi’r rhan fwyaf o’i gyrsiau llawnamser ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 13 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
14.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag atgyfeiriad o dan adran 36 o Ddeddf 2018 gan awdurdod lleol at Weinidogion Cymru am benderfyniad o ran a ddylai corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad.
(2) Rhaid i’r atgyfeiriad—
(a)cael ei wneud o fewn y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod a ragnodir gan reoliad 13(2),
(b)cael ei wneud yn ysgrifenedig,
(c)dod gyda chopi o’r adrannau o’r cynllun datblygu unigol sy’n cynnwys y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol y person ifanc a’r disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, a
(d)dod gyda chopi o unrhyw wybodaeth arall yn y cynllun datblygu unigol y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i benderfynu ar y mater.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person ifanc a’r corff llywodraethu am yr atgyfeiriad a gwahodd sylwadau.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person ifanc, yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu am—
(a)eu penderfyniad o dan adran 36(4) o Ddeddf 2018, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylai’r corff llywodraethu gynnal y cynllun, mae dyletswydd y corff llywodraethu i’w gynnal o dan adran 12(4) o Ddeddf 2018 yn cymryd effaith—
(a)ar y diwrnod y caniateir ei bennu yn yr hysbysiad o dan baragraff (4);
(b)fel arall ar y diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn cael yr hysbysiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 14 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
15.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—
(a)mae corff llywodraethu neu awdurdod lleol (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 am gynnal neu gadw cynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw yn flaenorol o dan y Rhan honno gan gorff llywodraethu arall neu awdurdod lleol arall (“yr hen gorff”);
(b)byddai awdurdod lleol (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 am gynnal neu gadw cynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw yn flaenorol o dan y Rhan honno gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol arall (“yr hen gorff”) oni bai am ddiffyg gwybodaeth y corff newydd am yr amgylchiadau sy’n arwain at ei gyfrifoldeb am y cynllun (gweler adrannau 30(5) a 42(5) o Ddeddf 2018 a rheoliad 22(3));
(c)mae corff llywodraethu ysgol a gynhelir (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol yn rhinwedd bod awdurdod lleol (“yr hen gorff”) yn cyfarwyddo’r corff llywodraethu o dan adran 14(2)(b)(i) neu (4) o Ddeddf 2018.
(2) Rhaid i’r hen gorff roi copi o’r cynllun i’r corff newydd oni bai bod gan y corff newydd gopi ohono eisoes.
(3) Ond pan na fo’r hen gorff yn ymwybodol o’r amgylchiadau sy’n arwain at drosglwyddo cyfrifoldeb am y cynllun, nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (2) yn gymwys hyd nes bod yr hen gorff yn ymwybodol o’r amgylchiadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 15 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—
(a)mae awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol, yn rhinwedd adran 35(10) o Ddeddf 2018, am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sydd wedi dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol (“y trosglwyddiad”);
(b)mae awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol, yn rhinwedd adran 35(12) a (13) o Ddeddf 2018, am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc sydd wedi peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal (“y trosglwyddiad”).
(2) At ddibenion penderfynu ar y cyfnod adolygu y mae rhaid i’r awdurdod lleol, o dan adran 24(1) (ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(a)) neu 23(1) (ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(b)) o Ddeddf 2018, adolygu’r cynllun yn gyntaf ynddo yn dilyn y trosglwyddiad, mae adrannau 23 a 24 o’r Ddeddf honno yn gymwys (er gwaethaf adran 23(12) ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(a)) fel yr oeddent yn union cyn y trosglwyddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 16 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys—
(a)pan fo awdurdod lleol, yn dilyn trosglwyddo cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 35 o Ddeddf 2018, o dan ddyletswydd i sicrhau lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) neu 19(4) o’r Ddeddf honno, a
(b)pan na fo, yng ngoleuni’r amgylchiadau sydd wedi arwain at y trosglwyddiad, yn ymarferol mwyach i’r plentyn neu’r person ifanc fynychu’r ysgol neu’r sefydliad arall.
(2) Nid yw dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau’r lle yn yr ysgol neu’r sefydliad arall yn gymwys hyd nes ei bod yn bosibl diwygio’r cynllun ac eithrio pan fo’r awdurdod yn trefnu bwyd a llety o dan baragraff (3).
(3) Caiff yr awdurdod lleol drefnu bwyd a llety er mwyn galluogi’r plentyn neu’r person ifanc i barhau i fynychu’r ysgol neu’r sefydliad arall hyd nes ei bod yn bosibl diwygio’r cynllun datblygu unigol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 17 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: