19Tystiolaeth o is-ddeddfauLL+C
(1)Mae dangos copi ardystiedig o is-ddeddf sy’n honni iddi gael ei gwneud gan awdurdod deddfu, nes profir i’r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o’r ffeithiau a ddatgenir yn y dystysgrif.
(2)At ddibenion yr adran hon, copi ardystiedig o is-ddeddf yw copi wedi ei argraffu o’r is-ddeddf a arnodwyd ynghyd â thystysgrif sy’n honni iddi gael ei llofnodi gan swyddog priodol awdurdod deddfu sy’n datgan –
(a)bod yr is-ddeddf wedi cael ei gwneud gan yr awdurdod;
(b)bod y copi yn gopi gwir o’r is-ddeddf;
(c)bod yr is-ddeddf wedi ei chadarnhau ar ddiwrnod penodedig gan yr awdurdod a enwir yn y dystysgrif neu, yn ôl y digwydd, wedi cael ei hanfon at yr awdurdod cadarnhau a heb gael ei gwrthod;
(d)y dyddiad, os oes un, a bennwyd gan yr awdurdod cadarnhau i’r is-ddeddf ddod yn effeithiol.
(3)Nid yw’r gofynion ym mharagraffau (c) a (d) o is-adran (2) yn gymwys os nad oedd yr is-ddeddf yn ddarostyngedig i gadarnhad ar ôl iddi gael ei gwneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)
I2A. 19 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(q)